Mae cynnal yr Undeb fel ag y mae hi’n flaenoriaeth i lai na hanner pleidleiswyr gwledydd Prydain, yn ôl ymchwil newydd.

Daw hyn wrth i’r adroddiad rybuddio bod agwedd gwleidyddion San Steffan tuag at unoliaethdeb rhonc mewn perygl o fynd o chwith gyda phobol yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon sydd eisiau aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig.

Does yna ddim llawer o bryder yn yr Alban, Cymru na Gogledd Iwerddon ynglŷn â’r posibilrwydd y gallai un o’r gwledydd eraill adael yr Undeb, yn ôl yr ymchwil gan y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus.

Dydy’r gefnogaeth yn Lloegr i gadw’r Undeb fel ag y mae hi ddim yn ofnadwy o gryf chwaith, medd yr adroddiad sydd wedi’i gyd-ysgrifennu gan yr Athro Richard Wyn Jones.

Canfyddiadau

Yn ôl yr adroddiad, mae agwedd unoliaethol rhonc gwleidyddion San Steffan ers refferendwm annibyniaeth yr Alban a Brexit wedi arwain at hepgor y llywodraethau datganoledig o feysydd roedden nhw wedi disgwyl eu rheoli ar ôl Brexit.

Mae perygl i hynny greu drwgdeimlad, medd awduron yr adroddiad.

Wrth holi 1,600 o bobol yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, fe wnaeth yr awduron greu graddfa i ddangos eu cefnogaeth tuag at yr Undeb.

Ar y cyfan, roedd pleidleiswyr yn y pedair gwlad yn gogwyddo ychydig i ffwrdd o’r canol ac oddi wrth “unoliaethdeb gyhyrog”.

Dim ond cefnogwyr y Ceidwadwyr yn yr Alban a’r UUP a’r DUP yng Ngogledd Iwerddon oedd yn gogwyddo tuag at fod yn unoliaethwyr pybyr.

Dydy’r agwedd honno ddim yn un sy’n cael ei harddel gan y rhan fwyaf o bobol sydd o blaid yr Undeb yng Nghymru a Lloegr – sy’n awgrymu bod rhethreg gwleidyddion San Steffan yn debygol o wanhau’r gefnogaeth, medd yr adroddiad.

Mae’r adroddiad hefyd yn dangos bod Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn meddwl bod rhannau eraill o’r Undeb – ac yn enwedig Lloegr – yn cael mwy na’u siâr o adnoddau ac arian.

Dywedodd 58% o’r bobol gafodd eu holi yng Nghymru nad ydy Cymru’n derbyn cymaint ag y dylai.

‘Sawl fersiwn o Brydeindod’

Yn ôl yr Athro Richard Wyn Jones, cyfarwyddwr Canolfan Llywodraethiant Cymru a chyd-awdur yr adroddiad, “chwedl” yw’r dadansoddiad sy’n awgrymu mai un ffordd gyffredin sydd gan bobol ym mhedair gwlad y Deyrnas Unedig o ddeall Prydeindod.

“O ystyried yr apeliadau cyson at ‘Brydeindod’ yn rhethreg y ddwy brif blaid yn y Deyrnas Unedig, mae hi’n syndod cyn lleied o ymchwil sydd wedi’i wneud i’r gwerthoedd a’r agweddau sy’n cyd-fynd â hunaniaeth genedlaethol Brydeinig mewn gwirionedd,” meddai.

“Mae yna sawl fersiwn o hunaniaeth Brydeinig dros wahanol rannau o’r Undeb sydd â pherthynas anesmwyth gyda’i gilydd, ac hyd yn oed yn gwrthddweud ei gilydd.

“Mae hyn yn awgrymu bod ymdrechion llywodraethau diweddar y Deyrnas Unedig i hyrwyddo un fersiwn o Brydeindod yn siŵr o fethu, a hyd yn oed yn hunandrechol.”

Er enghraifft, mae’r adroddiad yn dangos bod pobol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon sy’n pwysleisio’u Prydeindod yn dangos yr un lefelau o Ewrosgeptiaeth â phobol yn Lloegr sy’n uniaethu â’u hunaniaeth Saesnig ond nid eu hunaniaeth Brydeinig.

Fodd bynnag, mae pobol yn Lloegr sy’n pwysleisio eu Prydeindod yn fwy tebygol o fod o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

‘Teimladau cymysg’

Ychwanega Alisa Henderson o Brifysgol Gaeredin, fu’n cyd-ysgrifennu’r adroddiad â’r Athro Richard Wyn Jones, fod rhai yn credu bod pobol naill ai eisiau gweld diwedd yr undeb neu’n gefnogwyr pybyr.

“Does yna’r un lle ble mae’r polareiddio’n fwy amlwg nag yn yr Alban,” meddai.

“Ond dros y Deyrnas Unedig, mae yna deimladau cymysg tuag at yr Undeb, gyda’r gefnogaeth naill ai’n llai aneglur neu’n dibynnu ar yr hyn maen nhw’n eu gweld fel buddion.”