Mae un sy’n gweithio fel Swyddog Cymorth Synhwyraidd ar gyfer pobol fyddarddall yn dweud bod angen i fwy o bobol gael eu hyfforddi i ddeall anghenion y gymuned er mwyn rhoi’r gefnogaeth fwyaf priodol iddyn nhw.

Daw sylwadau Carys Jones ar drothwy’r gynhadledd ‘Cysylltu Bywydau’ ar-lein fis nesaf (Hydref 5).

Mae hi’n annog pobol i ddod ymlaen at elusen Deafblind UK “cyn ei fod e’n rhy hwyr” er mwyn derbyn cymorth a chefnogaeth, gan ei bod yn “well derbyn cymorth am fod yn fyddar ac yn ddall yn fuan”.

Yn y digwyddiad ar-lein rhad ac am ddim, bydd modd dysgu, rhannu a chysylltu ag arbenigwyr blaenllaw eraill ym maes byddardod-dallineb, wrth archwilio a thrafod sut mae byddardod-dallineb yn effeithio ar bobol yn y gymuned honno, a sut mae’n effeithio ar y bobol o’u cwmpas a’u perthnasau, yn ogystal ag addysg, y cymorth, technoleg a gofal iechyd sydd a’r gymuned yn ei chyfanrwydd.

Byddardod-dallineb

Mae 20,000 o bobol yng Nghymru – a 400,000 o bobol ledled y Deyrnas Unedig – yn fyddarddall.

Ond fel elusen, dim ond ychydig dros 800 o aelodau sydd gan elusen Deafblind UK yng Nghymru ar hyn o bryd.

Dywed Carys Jones yr hoffai hi weld yr agendor rhwng pobol sy’n fyddarddall a gwedill y gymdeithas yn lleihau, a mwy o gymorth yn cael ei roi i fwy o bobol.

“Mae’r signposting yn bwysig,” meddai wrth golwg360.

“Rwy’n meddwl bod pobol, fel mae’r dywediad yn dweud, yn “suffering in silence”, oherwydd dydyn nhw ddim rili yn ystyried eu bod nhw wedi colli eu clyw neu eu golwg tan ei fod e’n rhy hwyr.

“Byddwn yn dweud, dewch at Deafblind UK cyn ei fod e’n rhy hwyr, a derbyn cymorth. Mae pobol yma i helpu.”

Ailgysylltu

Mae angen cymorth ar bobol fyddarddall yn aml iawn ond, o ganlyniad i Covid-19, cafodd rhywfaint o’r cysylltiad cymdeithasol rhwng pobol yn y gymuned ei golli.

Mae prosiect o’r enw Reconnections yn ne Cymru yn helpu i ailadeiladu perthnasau rhwng pobol.

“Mae bod yn fyddar a dall yn effeithio ar bawb mewn gwahanol ffyrdd,” meddai Carys Jones wedyn.

“Bydd hyn yn dibynnu ar natur eu colled golwg a chlyw, beth sydd wedi ei achosi yn y lle cyntaf, ac oes cyflyrau meddygol eraill ganddyn nhw a hefyd eu hagwedd tuag at golled.

“Bydd bob amser yn cael effaith sylweddol ar annibyniaeth, sy’n amlwg wedyn yn cael effaith bositif ar berthnasoedd oherwydd nad oes angen bod yn hollol ddibynnol ar bobol eraill i fyw bywyd bob dydd.

“Mae yna bobol sy’n byw yn normal, gydag efallai ychydig o addasiadau i’w bywydau, er enghraifft addasiadau technolegol.

“Mae technoleg i bobol fyddar a dall wedi addasu gymaint dros y blynyddoedd diwethaf, sydd wir wedi helpu pobol i fyw yn annibynnol wedyn, sydd yn rhwystro rhoi straen ar eu perthnasau nhw.

“Wedi dweud hyn, mae angen mwy o gymorth oherwydd straen ar berthnasoedd, er nad yw efallai’n bwrpasol.

“Mae rhai pobol angen help yn y cartref ac ar gyfer tasgau pob dydd.

“Gyda’r help yma gan ffrindiau, teulu a phobol broffesiynol, mae’n gwneud gwahaniaeth enfawr i’w bywydau nhw.

“Mae ailgysylltu wir yn bwysig i’r bobol yma, yn enwedig ers Covid.

“Mae hyder, annibyniaeth a symud yn annibynnol wedi gwaethygu i’r eithaf.

“Nid oes cyfleoedd cymdeithasol ar gael i greu’r perthnasoedd yma.

“Mae’r rhain wedyn yn effeithio, ac mae pobol yn dioddef, ond hefyd y bobol sy’n eu cefnogi nhw a’u perthnasau agos.

“Nid oes cyfle iddyn nhw gael rhyddid eu hunain.”

Mae Reconnections, felly, yn ceisio rhoi sgiliau angenrheidiol i bobol ac yn eu helpu nhw i ailgysylltu â phobol eraill.

Addysg

Mae’r gwaith yn parhau gan elusennau i alluogi plant byddarddall i gymryd rhan yn y gymdeithas er gwaetha’r anawsterau maen nhw’n eu hwynebu.

Yn ôl Carys Jones, mae’r effaith yn amrywio’n sylweddol o un plentyn i’r llall, ond gall bod yn fyddarddall gael effaith negyddol fawr ar blant yn y byd addysg.

Ond maen nhw’n gweithio’n barhaus i geisio gwella’r sefyllfa, meddai.

“Ein senario eilradd yw i blant allu cymryd rhan fel mae plant prif lif yn gallu, felly rydyn ni ac elusennau yn gwneud gwaith tuag at y bobol yma.

“Mae yna waith da i’w wneud gyda gwasanaethau addysg hefyd, sydd mewn dosbarthiadau, gweithio gydag athrawon a phlant eraill.”

Ond mae rhai heriau hefyd, meddai, er bod y sefyllfa’n “edrych lot gwell heddiw nag erioed”.

Cefnogaeth

Gyda hyfforddiant yn ddrud, ond cefnogaeth yn angenrheidiol, mae’n anodd rhoi’r gwasanaethau gorau posib i bobol o hyd, ac mae cynnig cymorth drwy brosiectau’n dod yn fwyfwy pwysig.

“Mae o bendant yn effeithio ar y gefnogaeth sydd ar gael,” meddai Carys Jones.

“Mae angen cynnwys cymorth gyda phobol hyfforddedig â phobol ddall neu fyddar o fewn unrhyw fath o wasanaethau sydd yn gallu cael ei gynnig iddyn nhw.

“Gyda’r straen sydd gyda’r gwasanaethau yma sy’n cynnig y gwasanaeth, mae’n anodd rhoi’r gwasanaeth gorau iddyn nhw.

‘Mae hyn wedyn yn achosi mwy o broblemau yn amlwg.

“Mae angen mwy o bobol i hyfforddi yn y cymorth yma.

“Mae o’n ddrud, sy’n achosi problemau i elusennau, gwasanaethau iechyd ac unrhyw cymorth arall sydd ar gael.

“Mae’r prosiect Reconnections Cymru wedi’i greu er mwyn i ni gynnig ychydig o gymorth i aelodau.

“Efallai gydag ychydig o gymorth sydd angen ar y person, dyma le mae elusennau’n gallu helpu.”

Colli annibyniaeth a gobaith

Gyda theimladau cryf yn aml yn dod yn sgil colli clyw a golwg, weithiau mae pobol yn gallu colli eu hannibyniaeth hefyd ac mae eu gofal iechyd yn dioddef.

Y gobaith yw bod mwy o gymorth eto i ddod.

“Ar ôl cael diagnosis o golli clyw a golwg, gall person deimlo nifer o ffyrdd, er enghraifft bod yn isel, sioc…” meddai.

“Mae’n gallu newid y ffordd mae person yn byw eu bywyd, pryder am y dyfodol, tristwch, meddwl am y pethau dydyn nhw ddim yn gallu gwneud rhagor a mater o golli annibyniaeth.

“Hefyd, mae straen o geisio gwneud gweithgareddau bob dydd.

“O ganlyniad i’r teimladau yma, mae gofal iechyd wir yn dioddef.

“Rwyf yn gobeithio, gyda bysedd wedi’u croesi, y bydd mwy o gymorth yn y blynyddoedd i ddod.

“Mae [gofal iechyd] dan bwysau enfawr gyda phobol sy’n colli’u clyw a’u golwg.”

Cyfathrebu’n diodde’n ofnadwy

O safbwynt ailgysylltu yn y gymuned, mae’n bwysig cael grwpiau cymunedol fel bod pobol yn ailgysylltu ac yn ailsefydlu perthnasau â’i gilydd ac yn cyfathrebu â’i gilydd.

“Rwy’n credu ei fod yn effeithio ar gymunedau lleol, yn amlwg, ond mae e’n anodd dweud oherwydd cyfathrebu yw’r peth mae’n effeithio mwyaf,” meddai Carys Jones.

“Mae colli synhwyrau weithiau’n ei wneud e’n anodd bod yn rhan o gymuned.”

Mae’n dweud bod modd datrys y sefyllfa wrth ddod â phobol ynghyd, “er enghraifft grwpiau, gweithdai a chreu cysylltiadau”.

“Maen nhw’n creu’r teimlad yma o gymuned, ac rwy’n meddwl bod hynna yn bwysig i’r gymuned ei hun,” meddai.

“Efallai maen nhw’n teimlo’n euog fod y bobol sydd wedi colli eu golwg a’u clyw ddim yn rhan ohono fe.

“Rwy’n meddwl y bydd creu’r grwpiau yma o fewn cymunedau o les go iawn.”