Mae tafarn yr Eagles yn Llanuwchllyn, ac mae’r perchnogion presennol yn dweud y gellid ei phrynu fel tafarn gymunedol.
Wrth siarad â golwg360, mae Eleri Pugh wedi dymuno “pob lwc i bwy bynnag sydd am gymryd y fenter” wrth iddi hi a’i gŵr Meirion baratoi i ffarwelio â’r dafarn.
Maen nhw wedi bod yn berchen ar y dafarn ers ugain mlynedd, ac mae hi’n dweud ei bod yn “fenter bwysig a hapus hefyd”, ond yn “waith caled, does dim dwywaith am hynny”.
A hithau bron yn 60 oed, a’i gŵr bellach dros ei 60, maen nhw’n awyddus i ymddeol, yn rhannol yn sgil ymrwymiadau teuluol.
“Rydym yn teimlo bod o rŵan yn amser i rywun ifanc sydd efo digon o egni, a dyna ydy’r prif reswm,” meddai Eleri Pugh wrth golwg360.
“Rwyf eisiau bod efo’r wyrion ac wyresau, a mam, ac yn teimlo bod ein hamser ni wedi dod i ben.
“Rwy’n gobeithio wneith pwy bynnag sy’n cymryd drosodd gario ymlaen efo beth rydym wedi gwneud am yr ugain mlynedd diwethaf.”
Tafarn gymunedol?
Gyda chymaint o dafarndai yn mynd yn rhai cymunedol y dyddiau hyn, ai dyma fydd dyfodol yr Eagles hefyd?
Dymuna Eleri Pugh i’r cyfleusterau aros yr un fath, ac mae nifer o ddigwyddiadau yn y dafarn hefyd.
Yn fan gymdeithasol, mae croeso cynnes i bawb, boed yn ymwelwyr neu’n bobol leol.
“Ar hyn o bryd rydym wedi bod yn siarad efo’r bobol leol, ac mae yna ambell i dafarn yn mynd yn gymunedol,” meddai.
“Wedyn, trwy lwc, gawn ni weld beth fydd yn digwydd.
“Rwy’ am wneud yn siŵr bod hi’n cario ymlaen fel mae hi efo siop fach, bar a bwyty.
“Bysa fo’n neis i bwy bynnag sy’n cario fo ymlaen wneud beth rydym ni wedi bod yn gwneud.
“Rydym yn cael y pêl droed, rydym yn cael y pwyllgorau fel Merched y Wawr yn dod, pobol yn dod i gael paned yn y bore, sgwrs, pawb yn gweld ei gilydd yn codi papur fyny, penblwyddi, dod i gael bwyd fel teulu…
“Os mae yna gyngerdd yn y neuadd, mae pawb yn dod draw a chael peint ar ôl gorffen.
“Mae hi’n all-rounder felly.
“Mae’n lle cymdeithasol.
“Mae pobol ddiarth yn dod yn yr haf.
“Mae yna lawer iawn o dai haf o gwmpas, pobol sy’n mwynhau dod i gefn gwlad i gael gweld beth sydd yng Nghymru.
“Mae rhoi’r croeso i bawb sy’n dod yn ein gwneud ni’n unigryw.
“Dydy o ddim bwys pwy sy’n dod trwy’r drws, mae’r croeso’r un peth.”
Y gymdeithas Gymraeg
Cymraeg yw iaith Llanuwchllyn, wrth reswm, ac felly hefyd tafarn yr Eagles.
A hwythau wedi bod yn rhedeg y dafarn ers ugain mlynedd, bydd tristwch wrth adael.
“Mae enw’r pentref yn ddigon i ddweud wrthych chi bod y dafarn yn Gymraeg. Dyna beth ydy Llanuwchllyn,” meddai Eleri Pugh wedyn.
“Mae’n gymdeithas mor gryf.
“Rydym wedi bod yma ers ugain mlynedd, ac wedi mwynhau yn ofnadwy ac yn teimlo’n drist ofnadwy.
“Rydych yn un o’r gymuned mewn ffordd.”
Beth am ddyfodol y staff, felly?
Dau aelod o staff sy’n gweithio yn y dafarn, ac mae’n bosib y bydd un ohonyn nhw’n aros yno gyda’r llall yn dychwelyd i’r byd addysg.
“Mae Jake Edwards yn meddwl mynd nôl i addysg,” meddai wedyn.
“Athro oedd o.
“Daeth o acw.
“Mae ei hyder o wedi gwella’n aruthrol ar ôl dod atom ni.
“Rydach chi’n delio efo pobol bob dydd o bob oedran.
“Mae ganddo awydd mynd yn ôl i addysg.
“Gareth Roberts, dwi ddim yn siŵr eto.
“Hwyrach, os geith o gynnig wneith o aros.”