Mae Cyngor Gwynedd yn ceisio denu mwy o bobol i ystyried gyrfa yn y sector gofal cymdeithasol.
Un o’r ffyrdd maen nhw wedi mynd ati i gyflawni’r nod yw cyhoeddi fideo’n hyrwyddo’r cyfleoedd gwaith yn y maes gofal a thynnu sylw at yr “amrywiaeth sydd gan y sector i’w gynnig”.
Cafodd y fideo ei lansio mewn digwyddiad ym Mhlas Tan y Bwlch, Maentwrog yn ddiweddar.
Mae’r fideo yn rhan o ymgyrch ehangach i ddenu diddordeb a recriwtio mwy o bobol i’r maes, sy’n cynnwys sesiynau galw heibio mewn cymunedau ar draws y sir, cydweithio ag asiantaethau sy’n helpu pobol yn ôl i’r gwaith ac ymgyrchoedd hysbysebu ar gyfryngau cymdeithasol a chyfryngau traddodiadol.
‘Testun balchder’
“Fel ym mhob sector a sefydliad, rydym yn wynebu heriau wrth recriwtio a chadw gweithwyr gofal, ar draws meysydd gofal cymdeithasol oedolion a phlant ac anabledd dysgu,” meddai’r Cynghorydd Elin Walker Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Blant a Theuluoedd.
“Mae ein staff gofal presennol yn ymrwymedig a phroffesiynol, ac rydym yn hynod ddiolchgar iddynt am eu gwaith.
“Nid yn unig maent wedi dod trwy sefyllfaoedd dyrys yn ystod y cyfnod pandemig ond yn ogystal erbyn heddiw yn wynebu cynnydd yn y galw am wasanaethau oherwydd cyfuniad o sgil effeithiau hirdymor Covid-19 a’r argyfwng costau byw.
“Mae’n destun balchder inni fod ein gofalwyr yn darparu gwasanaeth i’n trigolion bregus a’u teuluoedd drwy gyfrwng y Gymraeg.”