Mae angen “chwyldro ar draws holl feysydd polisi” Llywodraeth Cymru er mwyn adfer sefyllfa’r iaith Gymraeg, yn ôl Cymdeithas yr Iaith.

Daw hyn wrth i’r ymgyrchwyr iaith fynegi pryder mai cwestiynu ystadegau a chreu esgusodion am ddiffyg gweithredu yw prif ymateb y Llywodraeth i gwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg gafodd ei chyhoeddi yng Nghyfrifiad 2021.

Datgelodd y Cyfrifiad fod canran y bobol sy’n gallu siarad Cymraeg wedi gostwng o 19% i 17.8% dros y degawd diwethaf. Dyma’r ganran isaf ar gofnod.

Ar Ddiwrnod y Cyfrifiad – Mawrth 21, 2021 – dywedodd 538,300 o bobol tair oed neu hŷn yng Nghymru eu bod yn gallu siarad Cymraeg, o’i gymharu â 562,000 yn 2011.

Wrth ymateb i’r ffigyrau, cyhoeddodd Mark Drakeford ei fod yn ymchwilio i’r rheswm pam y dangosodd y Cyfrifiad gwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg, tra bod ffigyrau blynyddol gafodd eu cyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi dangos cynnydd.

“Penawdau’r Cyfrifiad yn siomedig”

Mewn datganiad yn y Senedd ddoe (dydd Mawrth, Ionawr 25) dywedodd y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg, Jeremy Miles, fod “penawdau’r Cyfrifiad yn siomedig” ond bod “rhaid i ni barhau i fod yn optimistaidd am ein hiaith ni”.

Ychwanegodd ei fod yn “teimlo bod siom y canlyniadau wedi sbarduno brwdfrydedd newydd i weithio mewn ffordd wahanol er lles y Gymraeg”.

“Mae siaradwyr newydd yn hollbwysig i ddyfodol ein hiaith ni,” meddai.

“A bydden i’n hoffi gweld cydnabyddiaeth bod siaradwyr goddefol yn rhan bwysig o’r ateb ar gyfer y dyfodol – sy’n golygu mwy o sgyrsiau dwyieithog a newid diwylliant.

“Rydyn ni’n adeiladu ar ddegawdau o orfod dewis rhwng Saesneg a Chymraeg lle mai’r realiti i’r rhan fwya’ ohonon ni ydy bywydau dwyieithog.”

“Ffurfioldeb y Gymraeg”

Aeth ymlaen i ddweud ei fod yn awyddus i ddeall mwy am pam nad yw cynifer o blant sy’n derbyn addysg Gymraeg yn hyderus i’w defnyddio hi ar ôl gadael ysgol.

“Ai diffyg cyfle yw’r broblem neu ffurfioldeb iaith addysg, neu’r ddau efallai?” holodd.

“Ond i fynd nôl at ffurfioldeb y Gymraeg, mae hwn yn rhywbeth dwi eisiau edrych arno fe’n fwy manwl.

“Mae sawl un wedi codi gyda fi bod y Gymraeg wedi troi i fod yn iaith cyfieithu, a ddim iaith sy’n eu cyffwrdd nhw fel pobol.”

‘Esgusodion’

“Mae canlyniadau’r Cyfrifiad yn gondemniad o strategaeth bresennol y Llywodraeth o ran yr iaith,” meddai Robat Idris, cadeirydd cenedlaethol Cymdeithas yr Iaith.

“Yn hytrach na chreu esgusion a chwestiynu data, dylai’r Llywodraeth ganolbwyntio ar atal cwymp pellach yn nifer y siaradwyr a’r cymunedau Cymraeg.

“Mae angen gweithredu llawer mwy sylweddol er mwyn sicrhau twf, a chymryd camau fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn fel cyflwyno addysg Gymraeg i bawb, i sicrhau bod pob un plentyn yn gadael yr ysgol yn hyderus yn yr iaith.

“Ar hyn o bryd, mae 80% o’n plant yn gadael yr ysgol yn methu siarad Cymraeg.”

‘Chwyldro’

Mae’r Gymdeithas yn dadlau bod angen i’r Llywodraeth gydnabod maint y dasg sydd o’u blaenau wrth adfywio’r iaith.

“Os ydy’r Llywodraeth o ddifri am weddnewid sefyllfa’r Gymraeg, mae angen chwyldro ar draws yr holl feysydd polisi, fel bod mwy a mwy o bobol yn byw eu bywydau drwy’r Gymraeg,” meddai Robat Idris wedyn.

“Ymhle mae’r gweithleoedd Cymraeg? Mae’r Llywodraeth eu hun, a mwyafrif llethol y cyrff maen nhw’n eu noddi, yn gweithredu bron yn gyfan gwbl drwy’r Saesneg.

“Ymhle mae’r gyfundrefn Cymraeg i oedolion? Mae nifer yr oedolion sy’n dod yn rhugl yn yr iaith yn druenus o isel.

“Ofer hefyd fydd pob ymdrech tra mae ein cymunedau gwledig a threfol yn gweld allfudo’u hieuenctid oherwydd diffyg cyfleoedd gwaith, a phrisiau a rhenti uchel ar dai.

“Dyna pam mae angen ystyried yr iaith ymhob maes polisi, ac nid cyfyngu’r Gymraeg i un seilo.

“Heriwn y Llywodraeth i fod yn llawer mwy uchelgeisiol.”