Mae Alex Davies-Jones, Aelod Seneddol Llafur Pontypridd, yn destun ymchwiliad am achos posib o dorri rheolau lobïo, yn ôl adroddiadau.

Daw hyn wrth i Daniel Greenberg, Comisiynydd Safonau Tŷ’r Cyffredin, lansio ymchwiliad i ganfod a wnaeth y llefarydd diwylliant dorri cod ymddygiad Aelodau Seneddol.

Mae Alex Davies-Jones yn cynrychioli sedd Pontypridd ers 2019.

Rhaid i Aelodau Seneddol sy’n derbyn taliad neu fudd-daliadau eraill, fel lletygarwch neu anrhegion, beidio â defnyddio eu safle yn San Steffan er budd y cwmni roddodd hynny iddyn nhw.

Dydy hi ddim wedi ymateb i’r honiadau hyd yn hyn.

Gallai hi gael ei diarddel pe bai’r ymchwiliad yn ei chael yn euog.