Fe fydd un o bwyllgorau’r Undeb Ewropeaidd sy’n gyfrifol am adolygu’r defnydd o feddalwedd ysbïo yn teithio i Sbaen ym mis Mawrth i gynnal ymchwiliad i’r helynt ysbïo yng Nghatalwnia.

Mae’r pwyllgor eisoes wedi cynnal ymchwiliadau yn Israel, Gwlad Pwyl, Cyprus a Groeg, a byddan nhw’n teithio i Sbaen ar Fawrth 20 i ymchwilio i’r defnydd o feddalwedd Pegasus, yn dilyn honiadau ei bod wedi cael ei defnyddio i ysbïo ar wleidyddion, mudiadau ac unigolion yn yr ymgyrch tros annibyniaeth i Gatalwnia.

Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi ehangu mandad y pwyllgor am dri mis arall, ac maen nhw wedi cyflwyno argymhelliad drafft yn galw ar Sbaen i “egluro” eu defnydd o’r feddalwedd.

Mae’r Cenhedloedd Unedig eisoes wedi mynegi pryderon fod Sbaen yn torri hawliau dynol drwy ddefnyddio’r feddalwedd yn erbyn Catalwnia.

Mae Catalwnia yn dweud eu bod nhw eisiau “tryloywder ac atebolrwydd” mewn perthynas â’r helynt ysbïo, gan obeithio bod yr ymchwiliad yn “effeithiol”.