Catrin Lewis, Gohebydd Materion Cyfoes golwg360, sy’n gohebu o gynhadledd Plaid Cymru yn Aberystwyth…


Yn ystod ei haraith yng nghynhadledd Plaid Cymru yn Aberystwyth ddydd Gwener (Hydref 6), rhoddodd Llinos Medi flas i’r gynulleidfa o’i rhesymau pam ei bod hi’n “angerddol am yr ynys”.

Cafodd ei hethol yn arweinydd Cyngor Môn ddeng mlynedd yn ôl, a bydd hi’n ymgeisio i gynrychioli’r ynys yn San Steffan pan ddaw’r etholiad cyffredinol nesaf.

Dywedodd ei bod hi wedi gadael ei chartref yn bymtheg oed i fyw gyda’i chariad, cyn mynd yn ei blaen i weithio fel gofalwr a gweithiwr ieuenctid.

“Wyth mlynedd yn ôl, digwyddodd rhywbeth i fi wnaeth droi fy myd i ben uchaf isaf ,a rhywbeth na all unrhyw un baratoi ato, roeddwn i’n fam i ddau o blant ac yn ddigartref,” meddai.

Dywedodd fod ei phrofiadau o ofalu am eraill wedi sbarduno’i brwdfrydedd i frwydro am gymdeithas deg.

“Rydw i eisiau bod yn rhan o gymdeithas deg, ac rydw i’n meddwl bod y sefydliad gwenwynig yn San Steffan angen rhywun sydd yn deall ein hegwyddorion ni,” meddai.

“Gwenwyn” San Steffan

Cyfeiriodd hefyd at areithiau Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, yng nghynhadledd y Ceidwadwyr yn gynharach yr wythnos hon, gan honni bod y blaid yn llawn addewidion gwag a chelwyddau.

“Sut ein bod ni wedi cyrraedd y sefyllfa lle mae’n gwleidyddion ni’n meddwl ei fod o’n iawn dweud celwydd a’u bod nhw’n cael get away efo deud celwydd a’n bod ni, y bobol gyffredin, yn mynd i dderbyn eu bod nhw’n dweud celwydd wrthym ni?” meddai.

“Maen nhw’n meddwl mai eu delwedd nhw sy’n bwysig, a dim yr hyn gafon nhw eu hethol i’w wneud.”

Dywedodd mai cynrychioli Môn, ac nid cael gyrfa wleidyddol, yw ei blaenoriaeth.

“Nid gyrfa mewn gwleidyddiaeth ydw i ei eisiau, ond gyrfa yn gwneud gwahaniaeth i Ynys Môn, fy nghartref,” meddai.

Y “frwydr ddim yn un hawdd yn Ynys Môn”

Yn ôl Llinos Medi, mae hi’n barod i “sefyll i fyny yn erbyn y sefydliad i wneud beth sy’n iawn i Ynys Môn, yn wahanol i’r rhai sy’n cael eu harwain o’r sefydliad”.

“Er ein bod ni’n gweithio’n galed iawn yng Nghyngor Ynys Môn, mae’n amhosib i ni liniaru’r effaith mae’r Blaid Geidwadol yn San Steffan yn cael ar ein cymdeithas ni,” meddai.

“Mae’r Blaid Lafur yng Nghymru yng nghesail Prydeindod y Blaid Lafur yn San Steffan, a heblaw am ymyrraeth Plaid Cymru yn y blynyddoedd diwethaf, basen nhw ddim wedi deffro i’r her.

“Dydy’r frwydr ddim yn un hawdd yn Ynys Môn.

“Mae’r dirwedd wedi newid, ac mae dylanwad y celwydd wedi cael gafael arno.

“Bellach, mae yna ddieithryn yn troedio’r tir ac yn gafael yn y grym.”

Daeth ei haraith i ben wrth iddi annog y gynulleidfa i’w chefnogi yn ystod ei thaith.

“Os ydych chi’n dymuno gweld Môn, mam Cymru yn dirwedd wyrdd unwaith eto, os ydych chi’n dymuno gweld hogan o Fôn yn cynrychioli Môn, rydw i’ch angen chi,” meddai.

“Dewch, dewch gyda ni a throi Môn mam Cymru yn Môn Plaid Cymru.”