Mae honiadau o fwlio ac amodau gwaith gwael yn y diwydiant ffilm a theledu wedi codi yn sgil ymchwil gan un o bwyllgorau’r Senedd.

Clywodd Pwyllgor Diwylliant y Senedd gan un sy’n gweithio yn y maes ei fod e wedi “colli cyfri” ar sawl gwaith mae e wedi gweld pobol yn cael eu cam-drin yn eiriol ar set.

Fe wnaeth yr ymchwiliad glywed bod amodau gwaith anodd, dwyster y gwaith a shifftiau hir yn effeithio ar weithwyr hefyd.

Yn eu galwadau i Lywodraeth Cymru, mae’r pwyllgor yn gofyn iddyn nhw weithredu ac i gydweithio ag undebau llafur a chwmnïau cynhyrchu i sicrhau nad oes gwahaniaethu, bwlio na rhagfarn mewn gweithleoedd.

‘Dyw e ddim yn amgylchedd gwaith dymunol’

Roedd y pwyllgor yn ymchwilio i’r heriau sy’n wynebu gweithlu diwydiant creadigol Cymru, ac yn eu hadroddiad maen nhw’n cyfeirio at y ffaith fod y diwydiannau creadigol ymhlith y sectorau sy’n perfformio orau yng Nghymru.

“Mae egos cyfarwyddwyr yn beth go iawn ac, mae’n rhaid i fi fod yn onest, dyw e ddim yn creu amgylchedd gwaith dymunol – yn ôl pobl eraill rwy’n nabod, mi fydden i’n dweud ei fod yn beth cyffredin yn y diwydiant,” meddai un gweithiwr, sydd ddim yn cael ei enwi yn yr adroddiad.

Dywed Ffilm Cymru yn eu tystiolaeth fod galw mawr am gynnwys yn golygu bod pobol yn gweithio oriau hir iawn, ac yn gweithio ar un cynhyrchiad ar ôl y llall heb gyfnodau o seibiant, yn yr un modd â’r hyn fyddai wedi digwydd yn y gorffennol.

“Mae pobol yn gweithio oriau hir iawn, iawn, yn enwedig pan fyddan nhw yn gweithio ar set, ar leoliad,” meddai Tom Ware o Brifysgol De Cymru.

“Mae’r strwythurau gwaith yn gaeth iawn, ac mae hynny’n rhoi pobol dan bwysau.”

‘Gweithwyr yn talu’r pris’

Gweithwyr sy’n talu’r pris am y galw enfawr ar y diwydiant, yn ôl Delyth Jewell, cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.

“Rydym wedi clywed tystiolaeth sy’n peri cryn bryder i ni ynghylch oriau hir, dwyster y gwaith, a diwylliant ac arferion gwaith gwael a sut mae’r rhain yn creu amgylcheddau sy’n niweidiol i iechyd meddwl a llesiant y gweithlu,” meddai.

“Er iddi ymyrryd er gwell hyd yma, credwn y gall Llywodraeth Cymru wneud mwy eto i newid agwedd y diwydiant tuag at lesiant yn y gweithle drwy gydlynu’r gwaith o fynd i’r afael â hyn.

“Credwn fod angen i Lywodraeth Cymru arwain y ffordd drwy gefnogi a hyrwyddo arfer gorau, a thrwy osod disgwyliadau ar gyfer y diwydiant.

“Mae’n annerbyniol bod gweithwyr yn wynebu bwlio yn y gwaith, a ddylai fod yn lle diogel iddynt.

“Rydym yn benderfynol o sicrhau bod pawb sy’n cymryd rhan yn y diwydiannau creadigol y ng Nghymru yn gallu gwneud hynny heb ofni rhagfarn, bwlio na gwahaniaethu.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y byddan nhw’n ymateb i’r adroddiad maes o law.