Dywed arweinydd Cyngor Sir Ddinbych y bydd yr awdurdod yn osgoi mynd yn fethdal drwy wneud penderfyniadau anodd, ac y bydd staff yn colli eu swyddi.
Ddydd Llun (Hydref 16), datgelodd e-bost breifat gafodd ei hanfon gan Jason McLellan, arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, at gynghorwyr fod yr awdurdod yn wynebu bwlch o £26m yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
O ganlyniad, yn dilyn cyfnod ymgynghori, cafodd cynnydd yn y dreth gyngor ei gyhoeddi, ynghyd â thoriadau i wasanaethau a swyddi’r Cyngor.
Dywed Jason McLellan na all dawelu meddyliau staff fod eu swyddi’n ddiogel, ond ei fod yn benderfynol o atal y Cyngor rhag mynd yn fethdal.
“Yr hyn roeddwn i eisiau ei bwysleisio oedd mai’r hyn rydyn ni wedi’i weld yn Lloegr yw cynghorau’n mynd i’r wal oherwydd nad ydyn nhw’n gallu mantoli’r llyfrau,” meddai.
“Ond rydyn ni’n mynd i osgoi hynny.
“Dyw hynny ddim yn mynd i ddigwydd, oherwydd rydyn ni’n mynd i wneud rhai penderfyniadau anodd iawn, bron yn annymunol.”
‘Amserau digynsail’
Dydy Jason McLellan ddim yn gallu dweud pa swyddi sydd mewn perygl, ond fe addawodd y byddai’n amddiffyn gwasanaethau craidd.
Cyfaddefa fod y sefyllfa’n pwyso’n drwm ar ei gydwybod, ond nad oes dewis ond gwneud y penderfyniadau.
“Rwy’n wleidydd Llafur. Mae’n hollol amlwg na ddes i i mewn i wleidyddiaeth i fod yn gwneud y penderfyniadau hyn,” meddai.
“Ond dyma’r amserau digynsail rydyn ni’n cael ein hunain ynddyn nhw.
“Rydyn ni’n edrych ar bob maes ar draws y gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu (ar gyfer toriadau posib),” meddai.
“Bydd ymgynghoriad llawn gydag aelodau, ac yn bwysicach yr undebau llafur.”
Dywed ei fod yn parchu staff y Cyngor, a’i fod o eisiau sicrhau’r canlyniad gorau posib yn y sefyllfa.
“Maen nhw’n gweithio’n galed. Maen nhw ar y rheng flaen, a bydd ganddyn hwythau awgrymiadau am arbedion yn gyffredinol,” meddai.
Cynyddu costau parcio
Yn y cyfamser, mae disgwyl i gostau parcio ceir ar draws Sir Ddinbych gynyddu hefyd.
Ynghyd â chynyddu treth y cyngor, dywed y gallai Sir Ddinbych ddechrau codi tâl am wasanaethau oedd yn arfer dod o dan arian treth y cyngor.
“Dw i’n deall bod pobol yn talu am dreth y cyngor, ac ar ben hynny fe fydden ni’n gofyn iddyn nhw dalu am wasanaethau eraill,” meddai.
“Ond eto, mae’n rywbeth mae pob cyngor yn ei wneud.
“Byddaf yn onest â chi – rydym yn edrych ar daliadau parcio ceir.”
Dywed nad yw’r tâl parcio wedi cynyddu ers 2016, er i chwyddiant godi.
“Felly mae hynny’n rywbeth y byddwn ni’n edrych arno, ac rydw i’n deall yn iawn rwystredigaeth pobol eu bod nhw’n talu’r dreth gyngor ac yna bod taliadau ychwanegol, ond dyma’r cyfnod mwyaf heriol ac anodd,” meddai.
“Yr hyn dw i eisiau ei wneud yw bod yn onest gyda’r cyhoedd a dweud ein bod yn wynebu cyfnod mor ddigynsail, sefyllfa ariannol anodd oherwydd nifer o ffactorau, a gallaf ddeall bod pobol yn flin eu bod yn mynd i weld toriadau i wasanaethau.”
Mae gan Sir Ddinbych sawl maes parcio am ddim, ond mewn mannau eraill maen nhw’n codi 30c am 30 munud, £1 am awr, £1.50 am dair awr, a £3.50 am y dydd.