Mae’r elusen Victim Support, sy’n cefnogi pobol sydd wedi dioddef troseddau casineb, yn dweud eu bod nhw eisiau cynnal y momentwm ar ôl wythnos o godi ymwybyddiaeth o’u gwaith.

Mae Victim Support yn gweithio gydag oedolion a phobol ifanc, ac yn cael eu harwain gan Lywodraeth Cymru.

Yn ôl Tom Edwards, y Dirprwy Gyfarwyddwr, mae’n bwysig siarad a rhannu straeon, ac annog pobol eraill i adrodd am ddigwyddiadau.

Mae’n credu bod rhannu straeon yn bwysig, gan fod cynifer o bobol yn dioddef troseddau casineb yng Nghymru.

Yn ôl Tom Edwards, mae rhai straeon positif ynghylch pobol yn cael cyfiawnder drwy’r system gyfreithiol ar ôl adrodd am droseddau casineb.

Y camau nesaf

Felly, beth yw’r cam nesaf?

“Jest tynnu sylw at broblem sydd, yn anffodus, yn cynyddu,” meddai Tom Edwards.

“Rydym yn gweld nifer y bobol sy’n riportio troseddau casineb yn cynyddu o fis i fis.

“Mae hyn yn ein poeni ni, ac mae’n poeni’r heddlu hefyd.

“Fel gwasanaeth annibynnol – ac mae’n bwysig pwysleisio bod y gwasanaeth yn annibynnol – rydyn ni eisiau i bobol ddeall bod yna gefnogaeth ar gael iddyn nhw.

“Mae yna staff a gwirfoddolwyr yn ein cymunedau ar draws Cymru yn barod i wrando, yn barod i helpu pobol, yn barod i rannu gwybodaeth ac eistedd i helpu pobol mewn cyfnod anodd iawn.

“Rydym yn deall fod stori pawb yn wahanol, ond mae effaith troseddau casineb yn un bersonol iawn i bobol.

“Yn symud ymlaen o’r wythnos, rydym eisiau cadw momentwm, mewn ffordd, a pharhau i siarad am straeon pobol a rhannu straeon ac annog pobol i riportio.”

Wythnos bwysig

Yn ôl Tom Edwards, roedd cynnal wythnos codi ymwybyddiaeth o droseddau casineb yn hynod bwysig, gan fod troseddau casineb yn broblem sy’n effeithio ar ddioddefwyr a’r bobol o’u cwmpas ac sydd angen cael ei riportio.

“Yn y bôn, mae’r wythnos yn bwysig iawn.

“Pwysig iawn i ni fel mudiad, ond pwysig iawn i ddioddefwyr hefyd, i dynnu sylw at yr hyn mae llawer iawn o bobol yng Nghymru yn ei ddioddef bob mis.

“Mae troseddau casineb yn broblem fawr ar draws y wlad.

“Mae llawer o bobol yn adrodd wrthym ni eu bod nhw wedi dioddef.

“Y peth am droseddau casineb ydy, dydy o ddim jest yn effeithio ar yr unigolyn ond y teulu a’r gymuned hefyd.

“Mae’n cael effaith eang iawn.

“Mae’n bwysig cael wythnos yn y calendr i dynnu sylw at yr hyn mae dioddefwyr yn ei riportio i ni, a bod dioddefwyr yn deall y gefnogaeth sydd ar gael iddyn nhw, a’u bod nhw’n deall eu hawliau nhw hefyd.

“Un peth mae’r gwasanaeth yn ei wneud yw egluro’r system gyfiawnder i ddioddefwyr, ac mae honna’n elfen bwysig i ddioddefwyr ei ddeall.”

Straeon positif a negyddol

Dywed Tom Edwards ei bod hi’n bosib cael cymorth gan Victim Support a mudiadau eraill er mwyn cael cyfiawnder.

“Yn anffodus, mae llawer o straeon negyddol yn cael sylw,” meddai.

“Un o’r pethau rydym eisiau ei wneud yn ystod y flwyddyn nesaf yw tynnu sylw at straeon positif lle mae rhywun wedi cael canlyniad postif yn y llys, ac maen nhw wedi cael canlyniad positif oherwydd eu bod nhw wedi ei riportio.

“Dyna beth mae’r tîm yn ei wneud yw casglu straeon gan ddioddefwyr, ac wedyn yn rhannu straeon positif a negyddol yn y wasg i annog pobol i ddod ymlaen.

“Mae llawer o bobol yn y gymuned, efallai, nad ydyn nhw’n deall y system gyfiawnder.

“Efallai nad ydyn nhw wedi bod yn ddioddefwyr o’r blaen.

“Mae’n bwysig iddyn nhw ddeall bod yna gefnogaeth ar gael iddyn nhw.

“Mae yna lawer o fudiadau allan yn y gymuned hefyd, nid dim ond Victim Support.

“Mae Llywodraeth Cymru yn bwysig iawn i dynnu sylw atyn nhw hefyd, oherwydd nhw sy’n ariannu a chefnogi’r gwaith.

“Mae’n rhaid dweud bod hynny wedi creu cyfle i Victim Support ddarparu’r gwasanaeth fel sydd ar gael ar hyn o bryd, felly mae rhaid i ni roi clod i Lywodraeth Cymru yn gyntaf, sylweddoli bod yna broblem, a bod yna gap, ac wedyn darparu gwasanaeth arbennig fel mae Victim Support yn ei ddarparu.”

Gweithio â’r hen ag ifanc

Ar lawr gwlad, mae Victim Support yn gweithio efo pobol ifanc ac oedolion yn y gymuned.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n edrych ar bob elfen o droseddau casineb, nid jest un,” meddai Tom Edwards.

“Mae’n bwysig bod hyn yn dechrau mewn ysgolion.

“Dyna elfen newydd, mewn ffordd, i’r gwasanaeth ers i ni ailddechrau’r gwasanaeth y llynedd, ein bod ni’n cyfro plant hefyd, nid jest oedolion.

“Mae llawer iawn o’r gwaith rydym yn ei wneud yn y gymuned yn gweithio mewn ysgolion, grwpiau ieuenctid i dynnu sylw at y ffaith bod o’n iawn i bobol fod yn nhw eu hunain. Does dim angen iddyn nhw guddio unrhyw beth.

“Mae angen i’r gwasanaeth fod yn un agored, ble mae pobol yn teimlo’n gyffyrddus i fod yn nhw eu hunain yn y gwaith, yn y coleg, yn yr ysgol, ac mae’r gwasanaeth yn chwarae rhan bwysig yn gweithio gydag athrawon a rhieni hefyd i annog pobol i ddod ymlaen i siarad am eu profiadau nhw fel pobol ifanc ac oedolion hefyd.

“Rydym yn ddiolchgar fod pobol yn cymryd sylw yn yr wythnos, a bod pobol yn barod i drafod straeon pobol, pobol sy’n byw yng Nghymru, pobol sy’n dioddef, pobol sydd wedi bod trwy gyfnod anodd iawn.

“Mae staff ar gael ar draws Cymru i helpu pobol trwy gyfnod anodd.”