Mae nifer o fudiadau sy’n hyrwyddo heddwch ac yn gwrthwynebu ynni niwclear wedi llofnodi llythyr at aelodau o Gyngor yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Prif Weithredwr Betsan Moses, er mwyn gwrthwynebu nawdd gan grŵp peirianneg niwclear.
Daw hyn wedi i Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd dderbyn nawdd gan y grŵp niwclear Westinghouse o’r Unol Daleithiau eleni.
Mae’r llythyr, sydd wedi’i lofnodi gan ddwsin o enwau, ei rannu yn ystod wythnos ddiarfogi’r Cenhedloedd Unedig.
Ymysg y rhai sydd wedi ei lofnodi mae Joseff Gnagbo, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith; Sam Bannon o Heddwch ar Waith; y Cynghorydd Meilyr Tomos o Gyngor Tref Caernarfon; a Dylan Morgan o Gynghrair Gwrth-Niwclear Cymru.
Yn y llythyr, maen nhw’n gofyn i’w gwrthwynebiad i’r nawdd gael ei ystyried fel cwyn swyddogol yng nghyfarfod y Cyngor fis nesaf.
‘Ein harswydo, er nad ein synnu’
Ar Awst 6, cerddodd grŵp o ymgyrchwyr gwrth-niwclear 44 milltir o safle’r hen orsaf niwclear Magnox yn Nhrawsfynydd i Faes yr Eisteddfod ym Moduan.
“Roedd y dyddiad hwn yn drymlwythog o dristwch gan ei fod yn nodi 78 mlynedd ers i’r bom atomig cyntaf gael ei ollwng ar Hiroshima a arweiniodd at farwolaethau 140,000 o ddinasyddion y ddinas,” medd y llythyr.
Mae’r llythyr yn mynd yn ei flaen i gymeradwyo “anerchiad grymus” Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd, yn gwrthwynebu ynni ac arfau niwclear.
“Fodd bynnag, trist ac annerbyniol oedd sylwi ar yr un diwrnod bod logos Westinghouse a Chwmni Egino, sy’n ceisio denu buddsoddiad niwclear newydd i safle Trawsfynydd yn amlwg fel noddwyr masnachol ym Mhafilwn Gwyddoniaeth ein Heisteddfod,” medd y llythyr.
“Mae Westinghouse, ynghyd a’i bartner peirianyddol o’r Unol Daleithiau, Bechtel, wedi mynegi diddordeb mewn datblygu gorsaf niwclear newydd ar dir ger hen orsaf niwclear Magnox yn yr Wylfa, Ynys Môn, ac maen nhw wedi bod yn siarad â gwleidyddion lleol a gweinidogion llywodraeth i’r perwyl hwnnw.
“Mae ynni niwclear yn uniongyrchol gysylltiedig â chynhyrchu arfau niwclear, wrth i isgynhyrchion a sgiliau gweithlu trosglwyddadwy y cyntaf gael eu defnyddio gan yr ail i gynorthwyo cynhyrchu arfau niwclear a’u cynnal.
“Fodd bynnag, cawsom ein harswydo fwy byth, er nad ein synnu, i ddysgu bod Westinghouse hefyd yn cyfrannu’n uniongyrchol at gynhyrchu arfau niwclear dinistr eang yr Unol Daleithiau gan fod gan y cwmni adran, ‘the Columbia Fuel Fabrication Facility’, sy’n cynhyrchu nwy tritiwm ymbelydrol.
“Mae’r nwy tritiwm hwn yn cael ei anfon i safle Savannah River yn Ne Carolina lle mae’n cael ei roi i mewn i holl arfau niwclear yr Unol Daleithiau.”
‘Croes i heddwch byd-eang’
Mae’r grŵp yn dweud eu bod nhw hefyd “yr un mor bryderus” am arian nawdd gan y cwmni Egino, “sy’n llygadu hwyluso datblygiad niwclear newydd yn Nhrawsfynydd”.
Maen nhw’n pryderu y bydd y nawdd yn niweidio hygrededd yr Eisteddfod Genedlaethol.
“Mae derbyn arian nawdd gan Westinghouse a Chwmni Egino ar gyfer y Pafiliwn Gwyddoniaeth yn ymddangos yn rhagrithiol iawn,” meddai’r grŵp.
“Mae’n glod i’r Eisteddfod fod ‘heddwch’ wrth galon ei seremonïau Gorseddol bob blwyddyn wrth i’r Archdderwydd ofyn ‘A oes heddwch?’.
“Eleni, mae’r heddwch hwnnw wedi cael ei danseilio gan gymryd arian gan gwmni Westinghouse sy’n cynhyrchu arfau niwclear dinistr eang a Chwmni Egino a allai fod yn hyrwyddo gwaith yr un mor niweidiol â chroes i heddwch byd-eang gan gwmni arall a allai ddod i safle Trawsfynydd.”
‘Arian budur’
Wrth siarad â golwg360, dywed Dylan Morgan fod ton o bobol ifanc newydd wedi bod yn weithgar iawn yn cefnogi’r achos gwrth-niwclear dros y ddwy flynedd diwethaf, ond mae’n ailadrodd y pryderon ynglŷn â rhagrith yr Eisteddfod.
“Mae gyda ni hefyd genhedlaeth ifanc nawr yn codi.
“Haf eleni, gorymdeithion nhw i Faes yr Eisteddfod o Drawsfynydd dros bedwar diwrnod, a mis Medi llynedd fe gerddon nhw’r holl ffordd o Drawsfynydd i Wylfa mewn cyfnod o wythnos.
“Felly mae yna waed ifanc newydd yn y rhengoedd erbyn hyn, ac mae yna gydweithredu rhwng mudiadau fel PAWB, CADNO, CND Cymru, Cymdeithas yr Iaith ac awdurdodau lleol di-niwclear.
“Beth rydyn ni’n ei wneud nawr ydy cysylltu’n uniongyrchol gyda’r Eisteddfod, mae ganddyn nhw gyfarfod o’r Cyngor fis nesaf, ac mae’r llythyr yma’n mynd at Brif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, a Chadeirydd y Cyngor, Gethin Thomas.
“Rydyn ni wedi gwneud cysylltiad gydag ambell i unigolyn sydd ar Gyngor yr Eisteddfod, yn apelio ar yr Eisteddfod i beidio â derbyn arian budr yn y dyfodol, achos mae’n cyfaddawdu enw da’r Eisteddfod.”
Dywed llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol y bydd Bwrdd Rheoli’r Eisteddfod yn trafod y llythyr yn eu cyfarfod nesaf fis nesaf.