Mae penderfyniad yr ap dysgu ieithoedd Duolingo i roi’r gorau i ddiweddaru’r cwrs Cymraeg wedi cael ei ddisgrifio fel un “rhwystredig”.
Derbyniodd Jeremy Miles, Gweinidog Addysg a’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru, gwestiynau ar y pwnc heddiw (dydd Mercher, Hydref 25), yn dilyn cyhoeddiad Duolingo na fydd y cwrs Cymraeg yn cael ei ddiweddaru ar ôl mis nesaf.
Yn dilyn y drafodaeth yn y Cyfarfod Llawn, dywedodd Sam Kurtz, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig tros y Gymraeg, ei fod yn credu ei bod yn bwysig mynnu diweddariad ar y sefyllfa.
“Mae’r ap yn adnodd hynod ddefnyddiol a hygyrch i ddysgwyr Cymraeg, yn enwedig gan ei fod yn rhan o lyfr hyfforddi’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol,” meddai.
“Gyda’r Gymraeg fel yr iaith sy’n tyfu cyflymaf ar yr ap yn y Deyrnas Unedig, gyda 1.5m o ddefnyddwyr, roeddwn i’n teimlo ei bod hi’n bwysig ceisio diweddariad gan y Gweinidog ar ei ymdrechion i gysylltu â’r cwmni.
“Yn anffodus, nid yw’r cwmni eto wedi ymateb i’r Gweinidog.
“Eto, rwy’n obeithiol bod modd cyrraedd canlyniad cadarnhaol, gan ei bod yn bwysig i bobol allu cael mynediad i’r Gymraeg mewn ffordd hwylus a dylanwadol.”
Fodd bynnag, dywed llefarydd ar ran Duolingo y bydd y cwrs Cymraeg yn parhau i fod ar gael ar yr ap, a’i fod eisoes yn un o’r cyrsiau “mwyaf cynhwysfawr” maen nhw’n ei gynnig.
“Bydd y Gymraeg, sydd eisoes yn un o’n cyrsiau mwyaf cynhwysfawr, yn parhau’n rhad ac am ddim i bawb, ac yn parhau i fod yn gyfle i bobol sydd eisiau dechrau dysgu Cymraeg a’r rhai sy’n ceisio gwella eu sgiliau,” meddai.
Cwrs “cynhwysfawr”
Dywed Jeremy Miles ei fod e wedi ysgrifennu at y cwmni, ond ei bod hi hefyd yn bwysig cofio cymaint o gynnwys sydd ar y cwrs yn barod.
“Wrth gwrs, rwy’ wedi ysgrifennu at Duolingo yn gofyn iddyn nhw ailystyried y penderfyniad maen nhw wedi ei gymryd,” meddai.
“Ond fel y gwnaeth yr Aelod ei ddweud, dyw’r Gymraeg ddim yn mynd i ffwrdd o’r platfform – bydd hi’n parhau i fod yno.”
Dywed fod y Gymraeg yn un o’r enghreifftiau prin lle nad gwirfoddolwyr sy’n creu’r cynnwys y tu hwnt i’r ap.
“Ers rhyw gyfnod nawr, mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi bod yn gyfrifol am ddatblygu cynnwys yr ap yn y Gymraeg, yn adeiladu ar y gwaith gloyw a phwysig iawn y gwnaeth gwirfoddolwyr ei wneud cyn hynny,” meddai.
“Felly, yn sgil hynny, fy nealltwriaeth i yw bod mwy o ddatblygiad cyflym wedi digwydd i’r cynnwys sydd ar yr ap yn y Gymraeg, efallai, nag mewn rhai ieithoedd eraill.
“Felly mae’n bosib y bydd yr effaith yn llai andwyol ar y Gymraeg nag ar rai ieithoedd eraill.
“Ond byddwn i yn hoffi gweld Duolingo yn newid eu penderfyniad, nid lleiaf am y ffaith fod gennym ni strwythur sydd wedi ei hariannu yma yng Nghymru, sydd yn barod i allu parhau i ddatblygu cynnwys ar yr ap.”
Yn 2020, cyhoeddodd Duolingo mai’r Gymraeg oedd yr iaith oedd yn tyfu gyflymaf ar yr ap, gyda 658,000 yn defnyddio’r cwrs ar hyn o bryd a thros ddwy filiwn o bobol wedi ei ddefnyddio ers iddo lansio ar Ddydd Santes Dwynwen yn 2016.