Fe wnaeth gofalwyr maeth o Gonwy ennill Gwobr Rhagoriaeth Maethu fawreddog, sy’n cydnabod eu cyfraniad eithriadol, mewn seremoni yn Birmingham yr wythnos hon.

Cafodd gwobr y Rhwydwaith Maethu ar gyfer gofalwyr maeth ei dyfarnu i Steve a Lynne Parry, sy’n maethu gyda’u hawdurdod lleol, Maethu Cymru Conwy, yng Ngwobrau Rhagoriaeth Maethu sy’n cael eu noddi gan The Mortgage Brain.

Dechreuon nhw faethu gyda Maethu Cymru Conwy yn 2011, a daeth yn amlwg yn gyflym iawn pa mor fedrus oedden nhw wrth ofalu am bobol ifanc yn eu harddegau.

Maen nhw wedi croesawu’r holl sefyllfaoedd newydd ddaeth yn sgil maethu – o gefnogi pobol ifanc gyda’u haddysg, i groesawu mam a babi i’w cartref.

Mae un o’r bobol ifanc fu’n byw gyda Lynne a Steve Parry wedi graddio o’r brifysgol yn ddiweddar. Anfonodd hi gerdyn Sul y Mamau at Lynne yn dweud: “Diolch am fod, a pharhau i fod, y Mam roeddwn i bob amser yn dymuno amdani. Fyddwn i ddim yr un person ag ydw i heddiw pe na baech chi a Steve wedi dod i mewn i fy mywyd.”

Y Gwobrau Rhagoriaeth Maethu blynyddol yw gwobrau gofal maeth mwyaf mawreddog y Deyrnas Unedig, ac maen nhw’n dathlu llwyddiannau eithriadol ym maes maethu, ac yn cydnabod y rhai sy’n gwneud cyfraniadau eithriadol i ofal maeth bob dydd.

Cafodd y seremoni wobrwyo ei chynnal yn Birmingham Repertory Theatre, dan lywyddiaeth Ashley John Baptiste, y darlledwr, cyflwynydd a siaradwr ysbrydoledig, gafodd ei fagu mewn gofal hefyd.

Cariad anhunanol a meddylgarwch at bobol eraill

Mae Corinna Parry, eu merch, yn dweud ei bod hi’n falch iawn o’i rhieni, eu cariad anhunanol a’u meddylgarwch at bobol eraill.

“Mae’n wych gweld fy rhieni’n ennill y wobr honno ledled y Deyrnas Unedig,” meddai wrth golwg360.

“Mae’n anhygoel. Ac yn enwedig, mae bod o ogledd Cymru hefyd yn ei wneud ychydig yn well.

“Rwy’n cofio teimlo’n falch iawn o fy rhieni am ddod yn ofalwyr maeth ac agor eu drysau i eraill oedd angen cartref teuluol cynnes a gofalgar.

“Er fy mod yn oedolyn ar y pryd, roeddwn hefyd yn gyffrous am fod yn rhan o’r daith newydd hon, ynghyd â bod ychydig yn bryderus.

“Roedd fy rhieni bob amser wedi cynnwys pob un ohonom yn eu penderfyniadau ynghylch dod yn ofalwyr maeth.

“Rwy’n teimlo’n hynod falch o fy rhieni, ond mae’n anodd iawn esbonio’r balchder enfawr sydd gen i, ymhlith yr holl emosiynau mae’n gwneud i chi deimlo, bod fy mrodyr a chwiorydd a minnau’n hynod ffodus i’w cael fel rhieni.

“Rwy’n gwybod bod pob person sy’n dod i’n gofal hefyd yn hynod ffodus i’w cael nhw bob amser ar eu hochr!”

‘Arbennig iawn’

A hithau’n llawn werthfawrogi’r teulu cariadus mae ei rhieni’n ei gynnig i bobol ifanc sydd mewn angen, mae Corinna Parry wrth ei bodd yn gweld y bobol ifanc hynny’n datblygu ac yn bod yn nhw eu hunain.

“Mae bod yn rhan o deulu maethu yn rhywbeth arbennig iawn,” meddai.

“Mae maethu yn gymaint mwy na ‘swydd yn unig’.

“Mae fy rhieni yn ei wneud oherwydd eu bod yn bobol ostyngedig, ofalgar ac empathetig, gydag angerdd am ddarparu cariad a chefnogaeth i bobol ifanc mewn angen.

“Rwy’n teimlo mor ffodus i’w cael fel fy rhieni, a hefyd i’r teulu mwy yr ydym bellach.

“Mae maethu yn dod â heriau, wrth gwrs, ond rydych chi’n dysgu cymaint am fywyd ac yn goresgyn sefyllfaoedd anodd fel teulu.

“Mae hefyd yn gwneud i chi werthfawrogi eich teulu a’ch magwraeth.

“Y peth gorau am fod yn rhan o deulu sy’n maethu yw gweld pobol ifanc yn tyfu a datblygu a chael llwyfan iddyn nhw eu hunain i fod yn nhw eu hunain, a chael dyfodol gwell a mwy disglair, gobeithio.”

‘Y chwaer fawr orau’

Mae Corinna Parry yn cymryd ei rôl fel chwaer fawr o ddifri ac yn cynnig cefnogaeth.

“Rwyf bob amser wedi ceisio bod y chwaer fawr orau y mae’r bobol ifanc yn ein gofal eu hangen,” meddai.

“Byddwn yn eu helpu i setlo i mewn, yn gwrando arnynt ac yn eu cefnogi ac weithiau yn cael sgyrsiau anodd gyda nhw.

“Rwy’n gweld mai’r eiliadau bach, fel gwrando arnyn nhw, yw’r eiliadau mwyaf pwerus.”

Gwaith arbennig

Mae Tesni Hadwin, Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, yn cydnabod y gwaith ardderchog ac arbennig mae Lynne a Steve Parry yn ei wneud.

“Mae Steve a Lynne yn enghraifft wych o’r hyn y mae gofal maeth yn ei olygu, ac rwy’n falch iawn eu bod wedi derbyn y wobr genedlaethol hon i gydnabod yr effaith gadarnhaol y maent wedi’i chael dros y blynyddoedd i’r bobl ifanc yn eu gofal,” meddai.

“Mae eu hymrwymiad, eu hegni a’u cymhelliant yn rhagorol.

“Rydym yn wirioneddol ddiolchgar am bopeth maen nhw wedi’i wneud, ac am bopeth maen nhw’n parhau i’w wneud ar gyfer plant a phobol ifanc lleol sy’n derbyn gofal yn sir Conwy.”