Mae Uchel Lys Catalwnia wedi cydnabod hawl disgybl yn ysgol Turó del Drac yn Canet de Mar i gael ei haddysg mewn un pwnc ychwanegol trwy gyfrwng y Sbaeneg.
Mae’r dyfarniad yn derbyn yn rhannol apêl rhieni’r ferch yn erbyn penderfyniad gwreiddiol Adran Addysg Catalwnia.
Ond fe wnaeth y llys wrthod gweddill yr apêl gan gefnogi polisi iaith yr ysgol.
Ddechrau mis Rhagfyr 2021, dyfarnodd yr Uchel Lys yng Nghatalwnia fod rhaid i 25% o wersi plant pum mlwydd oed yn yr ysgol fod trwy gyfrwng y Sbaeneg.
Fe wnaeth nifer o deuluoedd oedd wedi’u heffeithio gan y dyfarniad ymuno ag ymdrechion Adran Addysg Catalwnia i apelio yn erbyn y penderfyniad, gan ddweud mai eu nod oedd pwysleisio ewyllys y mwyafrif i sicrhau bod y system drochi ar gyfer y Gatalaneg yn parhau.
Polisi ieithyddol
Fe fu polisi ieithyddol ysgolion yn destun cryn ddadlau ers mis Tachwedd 2021, pan ddyfarnodd Goruchaf Lys Sbaen fod rhaid i 25% o wersi mewn ysgolion fod trwy gyfrwng y Sbaeneg.
Mae dros 1.6m o bobol mewn addysg yng Nghatalwnia, ac ers 1983 mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n dysgu trwy gyfrwng y Gatalaneg, gyda’r system drochi’n atgyfnerthu’r defnydd o’r iaith.
Nod y polisi yw sicrhau bod y plant yn dod yn gwbl ddwyieithog, ond mae ysgolion preifat wedi’u heithrio o’r system drochi.