Mae trefnwyr gŵyl gafodd ei chynnal yr wythnos ddiwethaf i ddathlu a chodi ymwybyddiaeth o’r ‘Robin Hood Cymreig’ yn dweud bod y digwyddiad wedi bod yn llwyddiannus.

Fe fu Gŵyl Dafydd ap Siencyn, gafodd ei threfnu gan Gyngor Tref Llanrwst a’i chynnal dros dridiau yn Llanrwst a Choedwig Gwydir, yn boblogaidd iawn ymhlith pobol leol, meddai’r trefnwyr.

Yn ôl y prif drefnydd, mae Dafydd ap Siencyn yn ffigwr pwysig yn hanes yr ardal leol, ac yn rebel sydd â hanes diddorol ysbrydolodd yr ŵyl.

“Nid oes cofnod hanesyddol enfawr ohono,” meddai Samuel Edward James Thomas wrth golwg360.

“Roedd yn wrthryfelwr yn Rhyfel y Rhosynnau ar ochr y Lancastriaid, yn ymladd yn erbyn Swydd Efrog.

“Y myth sy’n plethu o’i gwmpas yw ei fod i fyny yng nghoedwig Gwydir, yn enwedig Carreg y Gog, yn cuddio allan mewn ogof, yn ôl pob sôn wedi gwisgo mewn gwyrdd – yn y bôn yn gwrthsefyll ymosodiad ar Ddyffryn Conwy, ac yn dial.

“Cyn hynny, roedd wedi gwneud cyrch ar gastell Dinbych.

“Fel gwrthryfelwr yn gwrthsefyll ymosodiad ar Ddinbych yn y coed, aethon nhw drosodd a llosgi caer.

“Mae’n hysbys ei fod yn gwnstabl yng Nghastell Conwy.

“Cofnodwyd hefyd iddo ysgrifennu rhai penillion a cherddi, yn enwedig ar ei wely angau. Dyna roddodd yr angor i ni.

“Eisteddais i ddechrau, ac roeddwn yn gwrando ar wybodaeth yn dod i mewn o safbwynt brandio, poster, logo…

“Roeddwn i eisiau crynhoi’r cymeriad i mewn i rywbeth eithaf bachog, ac roedd yn ymddangos i raddau helaeth iawn fod popeth yn cyd-fynd â thri ffactor – dyna hanes, natur a diwylliant.

“Dyna le cawsom y tagline ar gyfer yr ŵyl.

“Mae’r holl weithgareddau yn mynd yn ôl i hynny.”

Pwy oedd Dafydd ap Siencyn?

Yng nghyfnod Rhyfeloedd y Rhosynnau, roedd Dafydd ap Siencyn – oedd yn berthynas i Owain Tudur – yn cefnogi’r Lancastriaid.

Pan wnaeth y rhyfel droi yn erbyn y Lancastriaid, aeth Dafydd ap Siencyn yn herwr, a bu’n byw yng Nghoed Carreg y Gwalch ger Llanrwst am flynyddoedd.

Mae sôn iddo ddal Castell Harlech gyda Robert ap Meredudd.

Gyda Ieuan ap Rhobert ap Maredudd, cadwodd Nantconwy yn erbyn y brenin tan 1468, ac anrheithiodd rannau o Sir Ddinbych.

Yn 1468, daeth byddin Iorcaidd dan William Herbert, Iarll Penfro, i feddiannu’r ardal.

Derbyniodd bardwn yn 1468, ac yn ddiweddarach cafodd ei benodi’n Gwnstabl Castell Conwy, wedi iddo ladd ei ragflaenydd.

Mae sôn i Dafydd ap Siencyn farw o glwyfau gafodd o mewn ffrwgwd, ac iddo gyfansoddi dau englyn ar ei wely angau.

Cafodd cerddi eu cadw iddo gan Ieuan ap Gruffydd Leiaf a Thudur Penllyn, ac mae rhywfaint o farddoniaeth gan Dafydd ap Siencyn ei hun wedi ei chadw, gan gynnwys cywydd ateb i Dudur Penllyn a chywyddau moliant i Forus Wyn o Foelyrch a Roger Kynaston.

Mewn llenyddiaeth ddiweddar, mae’n ymddangos yn ‘Dafydd ab Siencyn yr herwr’, a ‘Rhys yr arian daear’: dwy ramant Gymreig gan Elis o’r Nant (Ellis Pierce), gafodd eu cyhoeddi yn 1905.

Yn ddiweddarach, fo yw arwr cyfres o nofelau hanesyddol gan Emrys Evans gafodd eu cyhoeddi gan Wasg Carreg Gwalch, y cyhoeddwyr sy’n dwyn enw’r coed lle bu’n llochesu.

Yr wŷl

Ymhlith yr hyn gafodd ei gynnig i ymwelwyr â’r ŵyl oedd yn anelu at ddathlu pobol, natur, diwylliant a hanes cymuned falch roedd:

  • seremoni wobrwyo i enillwyr y cystadlaethau celf a llenyddiaeth
  • blasu gwin yn Blas ar Fwyd
  • gig am ddim yng Nghlwb Llanrwst
  • prosiect sêl cwyr oedd â phobol o bob oed yn mynd o amgylch busnesau lleol
  • taith gerdded i fyny i Gaerdroia yng Nghoedwig Gwydir, y labyrinth mwyaf o’i fath yn y byd
  • ail-greu canoloesol yn y goedwig a’r dref
  • efail fyw yn y goedwig a’r dref
  • adrodd stori
  • marchogaeth sgwter disgyrchiant
  • therapi tylino
  • gwersi saethyddiaeth
  • dosbarthiadau celf
  • sgyrsiau gan Bleddyn Hughes, Myrddin ap Dafydd, a Daniel Casey
  • taith arbennig o amgylch Castell Gwydir
  • gwledd a gwasanaeth yr ŵyl yn Eglwys Sant Grwst
  • cyngerdd yr ŵyl gyda CantiLena, CoRwst, Erin Hair Williams, a’r Cynghorydd Tomos Wyn yng Nghapel Seion.

Y gymuned

Roedd y Cynghorydd Mostyn Jones, cadeirydd yr ŵyl, yn hynod ddiolchgar am y penwythnos llawn gweithgareddau i bawb yn y gymuned.

“Mae’r gymuned wedi bod yn glir y dylai ein tref gynnal mwy o ddigwyddiadau, creu mwy o weithgareddau i bobol ifanc, a gwneud mwy i ddathlu goreuon Llanrwst,” meddai.

“Rwy wrth fy modd bod ein gwaith caled wedi cyflawni, ac wedi bod yn llwyddiant.

“O ailberfformiadau canoloesol i gorau llawen, gwledd ganoloesol i therapi tylino, sgyrsiau â theithiau, mwynhawyd penwythnos anturus gan gannoedd o bobol.

“Ar ran y Cyngor Tref, mae’n bleser gennyf ddiolch i bawb sydd wedi cydweithio â ni i wneud yr ŵyl newydd gyffrous hon yn bosibl.

“Rwy’n credu bod sylfaen gref bellach wedi’i chreu ar gyfer digwyddiadau’r dyfodol.”