Mae GB News wedi ennyn ymateb chwyrn yn dilyn rhaglen gafodd ei darlledu’n fyw o Gaerdydd neithiwr (nos Fercher, Hydref 25).

Bu i’r cwmni darlledu daflunio neges ar ochr adeilad y Senedd yn dilyn y gwaharddiad ar ddangos y sianel o fewn yr adeilad.

Daw’r neges, “Mae Nigel yn dweud… gwyliwch GB News”, yn dilyn sylwadau amhriodol a wnaed gan y darlledwyr Laurence Fox a Dan Wootton am newyddiadurwraig.

Ymddangosodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, gyda Nigel Farage ar y rhaglen, wedi iddo ddweud yn flaenorol y byddai’n parhau i gefnogi’r sianel er gwaetha’r gwaharddiad.

Yn ystod y rhaglen, dywedodd Nigel Farage nad yw’n “meddwl bod rhannau o Gaerdydd yn gweithredu yn y ffordd ddylen nhw”.

“Un ohonyn nhw yw Senedd Cymru, y mae ei Llefarydd wedi penderfynu gwahardd GB News o’u setiau teledu o fewn yr adeilad hwnnw.

“Mae’r math hwnnw o sensoriaeth yn erbyn sianel newyddion gyfreithlon, gofrestredig, reoledig yn seiliedig ar farn wirioneddol fach y fenyw honno, Elin Jones; a dweud y gwir, dw i’n meddwl ei fod yn warth ac rydym yn mynd i frwydro i’w wrthdroi.”

‘Gwreig-gasineb’

Yn dilyn y rhaglen o Gaerdydd, mae’r sianel wedi’i beirniadu unwaith eto am ymagwedd sydd yn erbyn menywod.

Yn ystod y rhaglen, dywedodd Nigel Farage fod y Llywydd Elin Jones wedi cael ei gwahodd i ymddangos ar GB News, ond nad oedden nhw wedi derbyn ymateb ganddi.

Ymatebodd Andrew RT Davies i hyn drwy awgrymu bod y Llywydd yn “brysur yn gwneud ei gwallt”.

Ymysg y rheiny sydd wedi beirniadu sylwadau’r Ceidwadwr mae Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru.

“Mae egwyddorion Nolan ar gyfer bywyd cyhoeddus yn mynnu bod yn rhaid i ni fel arweinwyr ‘drin eraill â pharch’,” meddai ar X (Twitter gynt).

“Diffyg parch echrydus a ddangoswyd gan arweinydd y Torïaid Cymreig tuag at

  • gyd-Aelod o’r Senedd
  • Llywydd y Senedd
  • menyw

“Mae’n gwisgo ei wraig-gasineb naill ai â balchder neu ddiffyg ymwybyddiaeth lwyr.”

Un arall sydd wedi beirniadu’r sylwadau yw Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi.

“Prysur yn gwneud ei gwallt’. Mae hyn yn wreig-gasineb cwbl warthus gan @AndrewRTDavies, a dylai ymddiheuro ar unwaith i’r Llywydd,” meddai.

Mae eraill, gan gynnwys cyfarwyddwr YesCymru Ethan Jones, wedi galw ar Andrew RT Davies i ymddiswyddo yn sgil y sylwadau.

“Sensoriaeth”

Mae Andrew RT Davies eisoes wedi dweud bod y penderfyniad i wahardd y sianel yn “warthus” ac yn “sensoriaeth, yn bur ac yn syml”.

“Roedd y sylwadau diweddar gan rai cyfranwyr yn druenus ac mae camau wedi’u cymryd,” meddai.

“Dylai pobol Cymru fod yn rhydd i ddewis a ydyn nhw’n gwylio GB News.

“Nid y gwleidyddion sydd i benderfynu.”

Fodd bynnag, pryder Elin Jones oedd fod y sianel yn “fwriadol sarhaus”.

“Mae GB News wedi’i thynnu oddi ar system deledu fewnol y Senedd yn dilyn darllediad diweddar a oedd yn fwriadol sarhaus, yn ddiraddiol i ddadl gyhoeddus ac yn groes i werthoedd ein Senedd,” meddai llefarydd ar ei rhan.

‘Despret’

“Mae hyn yn ddespret gan Lafur a Phlaid,” meddai Andrew RT Davies mewn sylwadau pellach i golwg360, gan egluro pam iddo ddweud bod Elin Jones yn cael gwneud ei gwallt.

“Mae’n ymadrodd sy’n cael ei ddefnyddio gan nifer o bobol Gymreig, ac yn rywbeth dw i wedi’i ddweud am ddynion, menywod a hyd yn oed amdanaf fi fy hun.

“Os yw Llafur a Phlaid yn credu mai dyma brif bwnc llos y dydd, mae hynny i fyny iddyn nhw.

“Ond dw i’n canolbwyntio ar flaenoriaethau pobol Gymreig – torri rhestrau aros yn Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymreig, a dileu terfynau cyflymder 20m.y.a. blanced Llafur a Phlaid.”

Ymateb Elin Jones

“Mae fy ngwallt cyrliog wedi dod yn stori newyddion!” meddai Elin Jones ar X.

“Ro’n i’n gallu bychanu sylw twp, amhriodol Andrew.

“Ond nid yw’n fater iddo fe wneud hynny.

“O edrych yn ôl, doedd ei amddiffyn e ddim y peth iawn i’w wneud yma.

“Ro’n i’n arfer dweud mai’r Torïaid oedd y mwyaf cwrtais o’r gwleidyddion.

“Beth ddigwyddodd?”