Cymhelliant gwleidyddol sydd i ddatganiad Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig heddiw (dydd Mercher, Mai 22) fod ganddyn nhw fwriad ar gyfer gorsaf niwclear newydd yn Wylfa ym Môn, medd y gwrthbleidiau ac aelodau o grwpiau gwrth-niwclear.

Ond yn ôl Virginia Crosbie, Aelod Seneddol Ceidwadol Ynys Môn, “grawnwin surion” yw’r ymateb i’r cyhoeddiad.

Dywed Claire Coutinho, Ysgrifennydd Diogelwch Ynni a Net Sero y Deyrnas Unedig, mai dyma’r “estyniad mwyaf i ynni niwclear ers 70 mlynedd”.

“Mae gan Ynys Môn hanes niwclear balch ac mae ond yn iawn, unwaith eto, ei bod yn chwarae rhan ganolog wrth hybu diogelwch ynni’r Deyrnas Unedig,” meddai.

“Byddai Wylfa nid yn unig yn dod â phŵer glân, dibynadwy i filiynau o gartrefi, ond fe allai greu miloedd o swyddi sy’n talu’n dda a dod â buddsoddiad i ogledd Cymru gyfan.”

Ychwanega David TC Davies fod hwn yn newyddion “arwyddocaol” fydd yn cael ei groesawu.

“Mae’n addo dod â miloedd o swyddi o safon uchel i’r economi leol,” meddai.

Gwrthwynebiad

Wrth siarad â golwg360, dywed Ieuan Môn Williams, yr ymgeisydd Llafur ar gyfer Ynys Môn yn yr etholiad cyffredinol, fod y penderfyniad i gyhoeddi’r newyddion yma yn un “sinigaidd” at ddibenion etholiadol.

“Dw i’n credu bod y penderfyniad i gyhoeddi hwn yn un eithaf sinigaidd,” meddai.

“Bysen nhw wedi gallu gwneud hyn oesoedd yn ôl, ond maen nhw’n ei wneud o ar drothwy’r etholiad.

“Pan oeddwn i’n gweithio yn y diwydiant niwclear, roeddwn i’n ymgyrchu’n gryf i’r llywodraeth gymryd y stwff yma o ddifri, a doedden nhw ddim.”

Mae hefyd yn cwestiynu amseru’r cyhoeddiad o safbwynt y ffaith fod Jo Stevens, llefarydd materion Cymreig Llafur, wedi codi mater cefnogi ynni niwclear yn y gogledd yn ddiweddar yn San Steffan.

“Dw i ddim yn credu ei fod yn gyd-ddigwyddiad bod yr ailgyhoeddiad yma, fel petai, o’r polisi i adeiladu yn Wylfa wedi cael ei wneud ar ôl i Stevens godi’r pwynt,” meddai.

“Felly dw i’n credu bod y penderfyniad yn un sydd wedi dod o bwysau gwleidyddol.

“Does yna ddim un person dw i wedi siarad efo nhw yn y diwydiant niwclear sydd ddim yn credu fod y penderfyniad yma ddim â chymhelliant gwleidyddol.”

Cynsail

Nid dyma’r tro cyntaf mae gorsaf niwclear newydd yn Wylfa wedi cael ei drafod gan y Blaid Lafur.

Fe wnaeth Gordon Brown, y Prif Weinidog ar y pryd, gyhoeddi’r lleoliad fel y safle oedd yn cael ei ffafrio yn 2009.

Yn y blynyddoedd ers hynny, mae cynlluniau i adeiladu Wylfa Newydd gyda Hitachi wedi cael eu rhoi o’r neilltu, yn 2020.

“Dw i’n meddwl bod pobol wedi cael llond bol,” meddai Ieuan Môn Williams wrth gyfeirio at deimladau trigolion yr ynys tuag at y cyhoeddiad y naill ffordd neu’r llall.

‘Gofal piau hi’

Wrth siarad â golwg360, dywed Llinos Medi, arweinydd Cyngor Ynys Môn, fod rhaid bod “yn hynod o ofalus efo datganiadau fel hyn”.

“Mae Ynys Môn wedi bod yma amryw o weithiau o’r blaen, lle mae yna ryw gynnig ac addo pethau, a dydi o byth wedi’u gwireddu.

“Beth sydd yn annheg am hwn y tro yma ydi bod o’n digwydd am resymau gwleidyddol.

“Ychydig wythnosau yn ôl, roedden ni yma yn trafod strategaeth llywodraeth o adnabod safle’r Wylfa fel lle delfrydol ar gyfer SMRs [Small Nuclear Reactors].”

Mae’r newid yn y negeseuon yn gwneud iddi “amau” mai “rhesymau gwleidyddol” sydd y tu ôl i’r penderfyniad i ddewis Wylfa fel lleoliad delfrydol ar gyfer gorsaf niwclear fawr.

“Es i drwy’r profiad yn flaenorol,” meddai wrth gyfeirio at gynlluniau Wylfa Newydd Hitachi yn chwalu yn 2020.

“Ddaru ni roi gymaint o egni i mewn i’r cynllun Hitachi, ac i’r mat gael ei dynnu o dan ein traed ni funud olaf fel yna, dw i ddim yn meddwl bod yna werthfawrogiad o’r effaith galaru ddigwyddodd yn y gymuned yma.

“Mae’r datganiad heddiw yn creu delwedd fydd o’n barod erbyn rhyw bum mlynedd.

“Mae rhaid i’r llywodraeth gyflwyno amserlen sydd yn dweud pryd maen nhw’n bwriadu cynhyrchu ynni, felly o leiaf mae yna yna ryw sicrwydd i’r gymuned.”

Grwpiau gwrth-niwclear

Mae grwpiau gwrth-niwclear hefyd wedi bod yn ymateb i’r datganiad gan y llywodraeth.

“Mae’r Blaid Geidwadol a’r llywodraeth yn barod i wneud unrhyw beth i drio hyrwyddo cyfleoedd Virginia Crosbie i gael gafael ar Ynys Môn,” meddai Dylan Morgan, cadeirydd PAWB, wrth golwg360.

“Mae cost yr adweithyddion mawr yma, fel sy’n cael ei adeiladu yn Hinkley Point ar hyn o bryd, yn aruthrol.

“Pan ddoth y cynlluniau allan am Hinkley, yr amcangyfrif oedd fod o am gostio £18bn; erbyn hyn, maen nhw’n disgwyl bod o werth £46bn, a fydd o ddim yn gweithredu tan 2031.”

‘Grawnwin surion’

Wrth ymateb i hyn, dywed Virginia Crosbie mai “grawnwin surion” yw’r hyn sydd yn cael ei ddweud gan wrthwynebwyr.

“Nid yw grawnwin surion yn bolisi gan y gwrthbleidiau; mae Wylfa yn gadarnhaol i Ynys Môn, yn dod â swyddi a buddsoddiad i’r ynys,” meddai wedyn.

“Dyna yw polisi mewn gweithrediad, a dyna beth dw i wedi bod yn gwneud.

“Rydym mewn sefyllfa gwbl wahanol, rydym wedi creu cwmni ynni Prydeinig.

“Yn y gyllideb flwyddyn yma, mi ddaru’r Canghellor ddweud ein bod yn prynu’r safle, felly rydym yn gadarnhaol bod hwn am ddigwydd.”

Cadarnhau bwriad ar gyfer gorsaf niwclear newydd yn Wylfa

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi datgan mai Wylfa yw’r safle maen nhw’n ei ffafrio