O gyhoeddi’r etholiad cyffredinol yn y glaw heb ymbarél i ymweliad gŵr di-alcohol â bragdy, ac o sylwadau anwybodus am bêl-droed i ymweld â man lle cafodd llong y Titanic ei hadeiladu, dechrau digon doniol a rhyfedd gafodd y Ceidwadwyr i’w hymgyrch etholiadol yr wythnos hon…


Wel, am wythnos!

Mae Rishi Sunak wedi gwneud y penderfyniad i alw’r etholiad cyffredinol gyda’r amser ymgyrchu hiraf posib, sef chwe wythnos rhwng rŵan ac etholwyr yn dewis pa blaid fydd yn medru ffurfio llywodraeth ar gyfer y pum mlynedd nesaf.

Gydag etholiad mae ymgyrchu, a bydd ymgeiswyr a phrif ffigyrau pob plaid yn mynd i bob cornel o’r wlad i gyflwyno’u hachos nhw ar gyfer cael eu hethol ar Orffennaf 4.

Gydag ymgyrchu mae mwy o gyfleoedd hefyd i wleidyddion gyfleu pa mor estron maen nhw’n gallu bod o gymharu efo’r ddelwedd yma o bobol weithgar lawr yn y dafarn.

Mae achlysuron fel yma, lle mae gwleidyddion yn gwneud coc-yps, yn gallu effeithio lawer mwy ar be’ mae pobol yn ei feddwl o wleidyddion, weithiau yn fwy na’r polisïau maen nhw’n brwydro i’w gweithredu os ydyn nhw’n fuddugol.

Sbïwch yn ôl i Gordon Brown yn 2010, yn disgrifio dynes fel “bigoted woman”. Er ’mod i ond yn ddeuddeg pan ddigwyddodd hynna, mae’r foment yn sefyll allan i fi fel digwyddiad dw i’n ei gofio am wleidyddiaeth ar y pryd.

 

A llai na munud i mewn i’r ymgyrch yma, mi oedd y ‘gaffe’ dan sylw yn barod.

Dyna lle’r oedd Sunak yn cyhoeddi’r etholiad wrth iddo fynd yn oerach ac yn oerach wrth i’r glaw gryfhau, efo anthem Llafur Newydd, ‘Things Can Only Get Better’ bron yn fwy swnllyd na Sunak ei hun!

Fel y dywedodd Chris Mason o’r BBC, mi oedd y penderfyniad i adael i’r Prif Weinidog wneud y cyhoeddiad tu allan i Rif 10 yn un “rhyfedd iawn”. Hynny yw, dydi o ddim yn cymryd gwyddonydd i weld sut oedd araith wrth iddi dywallt glaw yn mynd i fod yn car-crash i Sunak.

“Drown & Out” a “Things can only get wetter” oedd rhai o’r penawdau’r diwrnod wedyn.

Ddydd Iau (Mai 23), roedd Sunak yn ymweld â bragdy yn y Barri pan lenwodd eiliad annifyr ar fwrdd efo ambell i Aelod Seneddol Ceidwadol a’r cyhoedd efo…

“Ydi pawb yn edrych ymlaen at yr holl bêl-droed?”

 

I bawb sydd yn gwybod unrhyw beth am bêl-droed, byddan nhw’n gwybod fod Cymru wedi colli allan ar y cyfle i ymuno â’r Alban a Lloegr yn yr Almaen fis nesaf. Blunder arall gan y ‘PM’ sydd yn amlwg isio ymddangos mor arferol ag sy’n bosib…

Os oes un peth yn sicr am weddill yr ymgyrch etholiadol yma, bydd amryw o esiamplau o bob plaid lle bydd gwleidyddion yn sgorio ambell i ‘own goal‘. Ond, i’r Torïaid, byddan nhw’n gobeithio bod yr achlysuron yma mor brin ag sy’n bosib wrth iddyn nhw drio sefyll eu tir yn erbyn Llafur yn yr arolygon barn.