Mae’r gyfres yma’n bwrw golwg ar atgofion bwyd rhai o wynebau cyfarwydd Cymru a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Melanie Owen, cyflwynydd y gyfres Ffermio ar S4C, sy’n rhannu ei hatgofion bwyd yr wythnos hon.  Yn ferch fferm o Gapel Seion ger Aberystwyth yn wreiddiol, mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae Melanie hefyd yn ddigrifwraig, yn sgriptio rhaglenni teledu ac yn un o gyflwynwyr y podlediad Mel Mal Jal gyda Mali Ann Rees a Jalisa Andrews…

Un o fy atgofion cyntaf ydy bwyta tost gyda chaws Dairylea a Bovril ar ei ben. Mae’n swnio’n afiach ond mae mor flasus. Dyna oedd un o cravings Mam pan oedd hi’n feichiog gyda fi ac mae’r teulu wedi parhau i’w fwyta fyth ers hynny.

Melanie Owen yn cael cinio Nadolig gyda’i theulu

Pan o’n i’n blentyn doedd gen i ddim dewis ond bod yn hyderus i brofi bwyd newydd. Roedd fy rhieni wastad yn rhoi’r un bwyd i fi ag oedden nhw’n cael, felly cefais i gymysgedd o bethau. Erbyn hyn, does ‘na ddim bwyd wna’i ddim trio o leia’ unwaith!

Pan dwi wedi cael diwrnod gwael yn y gwaith, dw i’n troi at Maraconi Cheese o M&S i godi fy nghalon. Os ydych chi’n gweld fi yn neuadd fwyd M&S Croescwrlwys, chi’n gwybod bod pethau ‘di mynd o’i le’r diwrnod hwnnw.

Melanie gyda’i ffrind Nel ym Mecsico a pherchennog y bwyty lle cafon nhw bysgod

Fy mhryd bwyd delfrydol fyddai bwyd môr, ar draeth neu ar gwch falle, tra bod yr haul yn machlud.

Y pysgod gafodd Melanie a’i ffrind Nel ym Mecsico

Mae blas Pimms yn fy atgoffa o’r haf yn syth. Mae un gwydraid o’r ddiod yn mynd a fi nol i sawl prynhawn gyda fy ffrindiau yn yr haul. Y blas sy’n fy atgoffa o’r gaeaf ydy sinamon ac afalau. Pan dw i’n dechrau pobi gyda sinamon, dw i’n gwybod bod y Nadolig yn bendant ar ei ffordd.

Melanie a Nel yn mwynhau Pimms ym Mecsico

Dw i’n caru coginio i bobol eraill – dyna yw fy ‘iaith cariad’. Yn ddiweddar gwnes i brunch Jamaican i fy ffrindiau, sef Akee Saltfish. Dyna un o’r prydau dw i wrth fy modd gyda, pan mae Mam yn gwneud hi i’r teulu, felly dw i’n mwynhau cynnal y traddodiad gyda fy nheulu a ffrindiau yng Nghaerdydd.

Ffrindiau Melanie yn mwynhau’r Akee Saltfish

 Mae’r llyfr Motherland gan Melissa Thompson yn llawn ryseitiau Caribïaidd dw i wrth fy gyda. Rhai traddodiadol a rhai byddech chi ddim yn disgwyl hefyd, gan gynnwys rhai ryseitiau i lysieuwyr.