Cafodd arbrawf ymenyddol ei ddatblygu gan y seicdreiddiwr a niwrolegydd Viktor Frankl (1905-1997; The Will to Meaning: Foundations and Applications of Logotherapy; World Publishing Cleveland, 1969).
Dychmygwch ddau siâp – sgwâr a chylch – mae’r ddau siâp yn gysgod sy’n cael i daflu gan yr un gwrthrych.
Un gwrthrych sydd, a chan ddibynnu ar gyfeiriad y golau, caiff cysgod siâp sgwâr a chysgod siâp cylch eu creu. Pa siâp yw’r gwrthrych?
Silindr.
Wrth oleuo’r silindr o’r ochr, caiff cysgod ei daflu mewn siâp sgwâr; ond o oleuo’r silindr oddi uchod, caiff cysgod ei daflu mewn siâp cylch.
Dyma neges Frankl: mewn dau ddimensiwn, mae’n gwbl amhosibl i sgwâr fod yn gylch, ac i gylch i fod yn sgwâr, ond o ychwanegu’r trydydd dimensiwn, gwelir fod yr amhosibl yn bosibl. Gall silindr o un persbectif edrych fel sgwâr; o bersbectif arall, mae’r silindr yn edrych fel cylch; ond caiff y naill gysgod a’r llall eu taflu gan silindr.
Felly, gan addasu’r mymryn lleiaf ar arbrawf Frankl: Dychmygwch ddau siâp – Mab ac Ysbryd – mae’r ddau siâp yn gysgod sy’n cael eu taflu gan yr un gwrthrych.
Un gwrthrych sydd, a chan ddibynnu ar gyfeiriad y golau, caiff cysgod siâp Mab a chysgod siâp Ysbryd eu creu. Pa siâp yw’r gwrthrych?
Duw.
Wrth ‘oleuo’ Duw o’r ochr, caiff ‘cysgod’ ei daflu mewn siâp Mab; ond o ‘oleuo’ Duw oddi uchod, caiff ‘cysgod’ ei daflu mewn siâp Ysbryd.
Mewn dau ddimensiwn, mae’n gwbl amhosibl i’r Mab fod yn Ysbryd, ac i’r Ysbryd fod yn Fab, ond o ychwanegu trydydd dimensiwn, gwelwn fod yr amhosibl yn bosibl. Mae Duw, o un persbectif, yn ymddangos fel Mab; o bersbectif arall, mae Duw yn ymddangos fel Ysbryd… ond caiff y naill ‘gysgod’ a’r llall eu taflu gan Dduw.
Y Tri yn Un a’r Un yn Dri
Yw’r Arglwydd a addolwn ni.
(W.H.Evans (Gwyllt y Mynydd), 1831-1909; Caneuon Ffydd:14)