Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan ac ymgeisydd seneddol Dwyfor Meirionnydd, yn dweud ei bod hi’n “ofni bod elfen o control freak gan Keir Starmer”.

Wrth siarad â golwg360, dywed Liz Saville Roberts fod gweithredoedd arweinydd y Blaid Lafur ynghylch sefyllfa Diane Abbott ac aelodau asgell chwith fel Beth Winter, Aelod Seneddol Cwm Cynon sydd am golli ei sedd yn sgil newid ffiniau etholaethol, yn nodweddiadol o rywun sydd yn “control freak”.

“Dw i’n meddwl bod yr ofn yma o ddweud unrhyw beth sydd yn mynd i droi’r wasg adain dde yn eu herbyn nhw wedi arwain at y driniaeth wael o Diane Abbott – dw i wirioneddol wedi siomi gymaint yn y sefyllfa,” meddai.

“Mae’r lefel o gam-drin mae hi wedi’i dioddef dros y blynyddoedd yn warthus.

“Dw i’n cofio gweld siart yn dangos pwy oedd yn derbyn y mwyaf o gam-drin ar-lein, a hi oedd hanner y siart.”

Faiza Shaheen

Nid Diane Abbott oedd yr unig aelod Llafur yn y newyddion ddoe (dydd Mercher, Mai 29), ar ôl i Keir Starmer a Phwyllgor Cenedlaethol Llafur benderfynu gwahardd un arall rhag sefyll yn yr etholiad.

Mewn cyfweliad â’r BBC, dywedodd Faiza Shaheen, sydd wedi’i gwahardd ar ôl 14 enghraifft o neges neu hoffi neges ar X (Twitter gynt) ers 2014.

“Pa neges ydych yn ei hanfon at fy nghymuned i, neu’r gymuned ddu?” meddai.

“Mae ein cymunedau wir wedi cefnogi Llafur… Rydym yn cael ein taflu o’r neilltu.”

Cynnig o ddiffyg hyder “ddim yn syndod”

Wrth drafod y cynnig o ddiffyg hyder yn Vaughan Gething, Prif Weinidog Cymru, dywed Liz Saville Roberts nad yw’n “syndod” iddi fod y sefyllfa wedi cyrraedd y pwynt yma.

Bydd Vaughan Gething yn wynebu dadl a phleidlais yn y Senedd ddydd Mercher nesaf (Mehefin 5).

Mae’n wynebu cwestiynau o hyd ynghylch rhodd o £200,000 gan gwmni unigolyn gafwyd yn euog yn y gorffennol o droseddau amgylcheddol, ynghyd â dileu negeseuon WhatsApp am Covid-19, a diswyddo Hannah Blythyn, un o weinidogion Llywodraeth Cymru.

Yn ôl Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, bydd y bleidlais yn gyfle i “Aelodau’r Senedd ddweud eu dweud” am benderfyniadau, tryloywder a gonestrwydd y Prif Weinidog.

Ond dydy Liz Saville Roberts ddim yn credu y bydd y Blaid Lafur yn troi yn erbyn eu harweinydd ar adeg pan fo etholiad cyffredinol ar y gorwel.

“Oherwydd ei fod o’n gyfnod etholiad, dw i ddim yn meddwl fod o’n gyfrinach eu bod nhw yn mynd i ddal at ei gilydd,” meddai.