Bydd cynllun peilot y Pencampwyr Cyrhaeddiad, sydd wedi’i greu i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol dysgwyr, yn cael ei ymestyn i ail gyfnod er mwyn codi safonau mewn ysgolion ymhellach.

Roedd cyfnod peilot y prosiect yn dangos bod cydweithio, mentora ysgolion partner a rhannu arferion arloesol wedi cael effaith gadarnhaol ar wella profiadau addysgol dysgwyr sy’n wynebu anfantais.

Nododd ysgolion oedd wedi cymryd rhan yn y cynllun peilot eu bod nhw wedi gweld gwelliant trwy arweinyddiaeth a datblygiad addysgu a dysgu o ansawdd uchel, mwy o hyder o fewn timau arweinyddiaeth, a strategaethau sy’n mynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad.

Cam 2

Bydd Cam 2 yn dechrau ym mis Medi, a bydd rhagor o ysgolion partner yn cael eu recriwtio.

Yn ystod yr ail gam, bydd pob Pencampwr Cyrhaeddiad yn cael ei baru ag ysgolion partner ychwanegol i roi mwy o gyfle i ddysgu a datblygu gwybodaeth ac arferion gorau.

Mae’r Pencampwyr Cyrhaeddiad gafodd eu penodi wedi dangos cynnydd cyson wrth fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad yn eu hysgolion.

Maen nhw’n cynnig cefnogaeth i gymheiriaid mewn ysgolion, ac yn helpu i lywio polisi Llywodraeth Cymru ynghylch cyrhaeddiad addysgol.

Bydd ehangu gwaith y Pencampwyr Cyrhaeddiad hefyd yn cyfrannu at waith y Rhaglen Partneriaeth Gwella Ysgolion, fydd yn adeiladu ar rwydweithiau cymheiriaid a chymorth cydweithio lleol i wella safonau ysgolion.

Effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol

Yn gynharach y mis hwn, fe wnaeth Lynne Neagle, Ysgrifennydd Addysg Cymru, gyfarfod â rhai o’r Pencampwyr Cyrhaeddiad i glywed yn uniongyrchol sut roedd y rhaglen yn helpu i wella cyrhaeddiad addysgol, pa ddulliau oedd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf, a beth oedd y prif rwystrau rhag gwella cyrhaeddiad.

“Mae gwelliannau parhaus mewn cyrhaeddiad addysgol yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac mae hon yn enghraifft wych o’n hymrwymiad i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol,” meddai.

“Trwy ddod ag arweinwyr ac ysgolion ynghyd ledled Cymru, gallwn ni weithio mewn partneriaeth i fynd i’r afael ag effaith tlodi ar ein pobol ifanc, ac yn sgil hynny gwella’r canlyniad ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru.

“Rydyn ni’n canolbwyntio ar welliant parhaus mewn ysgolion a bydd y Pencampwyr Cyrhaeddiad, ochr yn ochr â ffocws ar sgiliau hanfodol llythrennedd a rhifedd, a’r Cwricwlwm i Gymru, yn helpu i godi safonau a dyheadau.

“Hoffwn i ddiolch i’n holl Bencampwyr Cyrhaeddiad am eu cyfraniadau hyd yn hyn, ac edrychaf ymlaen yn fawr at weithio gyda nhw dros y flwyddyn nesaf i adeiladu ar ganfyddiadau cadarnhaol y rhaglen beilot.”

‘Cyfle amhrisiadwy’

“Roedd y cynllun peilot yn gyfle amhrisiadwy i rannu ymarfer seiliedig ar dystiolaeth sydd â’r potensial i leihau’r bwlch cyrhaeddiad,” meddai Innes Robinson, Pencampwr Cyrhaeddiad, a Phennaeth Gweithredol Ysgolion Uwchradd Pencoedtre a Whitmore.

“Cydweithiodd Ysgol Uwchradd Whitmore ac Ysgol Bryn Alyn yn agos â’i gilydd i weithredu dull addysgu uniongyrchol a dull ar gyfer addysgu gallu cymysg sydd wedi profi i gael effaith gadarnhaol ar gau’r bwlch.

“Mae’r ddwy ysgol yn edrych ymlaen at y cyfle i ehangu’r rhaglen.”