Mae’r frwydr rhwng Rishi Sunak a Syr Keir Starmer cyn yr Etholiad Cyffredinol fis nesaf “yn hysbyseb gwael” ar gyfer gwleidyddiaeth, medd arweinydd Plaid Cymru.

Cafodd y ddadl deledu gyntaf rhwng arweinwyr y Ceidwadwyr a’r Blaid Lafur ei chynnal gan ITV Cymru neithiwr (nos Fawrth, Mehefin 4) cyn yr etholiad ar Orffennaf 4.

Ar ôl y ddadl, dywedodd Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, ei bod yn “dystiolaeth glir fod y system ddwy blaid wedi dyddio”.

Bu’r ddau arweinydd yn trafod yr argyfwng costau byw, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gwasanaethau cyhoeddus yn ystod y ddadl.

“Roedd sioe Punch a Judy heno’n hysbyseb gwael ar gyfer gwleidyddiaeth,” meddai Rhun ap Iorwerth.

“Cafodd yr unig gyfeiriad at Gymru’n ystod yr awr boenus ei wneud gan Rishi Sunak pan gyfeiriodd at gyflwr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yma, tra bo Starmer wedi gwadu cyfrifoldeb ei blaid.

“Mae Cymru’n haeddu gwell na hyn – oherwydd mae cleifion yn haeddu cael eu trin â thegwch.

“Doedd dim enillydd yn y ddadl hon. Bydd pobol gartref yn meddwl – ai dyma’r unig ddewis sydd gennym ni yn yr etholiad hwn?

“’Na’ yw fy ateb. Mae cyfle i bobol yrru neges gyda phleidlais dros Blaid Cymru. Neges o obaith ac uchelgais i Gymru, o gymharu â’r negyddoldeb gan y ddwy brif blaid.”

Cafodd y ddadl ei chynnal ym Media City yn Salford, a’i llywio gan y cyflwynydd Julie Etchingham.

Ar hyn o bryd, mae’r arolygon barn yn dangos bod y Blaid Lafur am hawlio tua 45% o’r bleidlais yng Nghymru, tra bo pleidlais y Ceidwadwyr wedi cwympo i 18%.

Yn ôl yr arolwg diweddaraf ar ran ITV Cymru a Phrifysgol Caerdydd, mae’r gefnogaeth i Blaid Cymru 1% yn is na’r gefnogaeth i Reform UK.

Llafur gryn dipyn ar y blaen, yn ôl arolwg barn newydd

Mae traean o’r rhai roddodd eu pleidlais i Blaid Cymru yn 2019 yn dweud y byddan nhw’n cefnogi Llafur y tro hwn