Wrth i Vaughan Gething wynebu pleidlais hyder yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Mehefin 5), fe wnaeth ei ragflaenydd Mark Drakeford gyhuddo’i lywodraeth ddoe (dydd Mawrth, Mehefin 4) o “gefnu” ar eu penderfyniad blaenorol i ddiwygio’r tymor ysgol.

Dywedodd yn y Siambr fod y penderfyniad am “niweidio” bywydau plant yng Nghymru.

Yn ôl Lynne Neagle, yr Ysgrifennydd Addysg, pwrpas yr oedi oedd sicrhau bod gan athrawon a staff eraill “ddigonedd o amser” i gyflwyno diwygiadau eraill.

Nod cynlluniau blaenorol Llywodraeth Cymru oedd torri wythnos oddi ar wyliau’r haf, gan ychwanegu wythnos at wyliau hanner tymor yr hydref.

Roedd disgwyl i’r newidiadau ddod i rym yn 2025, ond bellach does dim disgwyl y byddan nhw’n cael eu rhoi ar waith hyd nes y tymor seneddol nesaf.

Araith

Mewn araith wedi’i hanelu at Lynne Neagle, dywedodd Mark Drakeford “mai’r hyn rydym wedi’i glywed y prynhawn yma yw cefnu ar ymrwymiad maniffesto a wnaed gan y Blaid Lafur yn yr etholiad diwethaf”.

“Ac ni ddylai’r gweinidog geisio cuddio y tu ôl i semanteg wrth ddweud mai ymrwymiad oedd hwn i archwilio diwygio’r diwrnod ysgol, oherwydd mae hi’n gwybod yn iawn fod ei rhagflaenwyr wedi cyhoeddi cynllun ac nid archwiliad, ond cynllun i’w roi ar waith.

“Ni fydd hynny’n digwydd nawr yn ystod y tymor Senedd hwn.

“A beth oedd y cynllun hwnnw, Lywydd? Byddai wedi symud wythnos – un wythnos – o wyliau ysgol yn yr haf i hanner tymor yr hydref.

“Ni allai neb, yn fy marn i, honni bod y Llywodraeth yn rhuthro ar ei phen i lawr ryw lwybr radical, ond roedd yn fan cychwyn.

“Roedd yn ddechrau ar daith fyddai wedi gwella’r canlyniadau i blant yng Nghymru.

“Rwy’n gresynu at y difrod gwleidyddol. Rwy’n gresynu at y niwed i enw da fydd yn cael ei wneud i Gymru, ar adeg pan oedd rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig yn edrych ar Gymru ac yn pwyntio atom fel enghraifft o’r hyn y gallai Llywodraeth flaengar ei wneud.

“Ond yr hyn rwy’n ei wir ddifaru yw’r niwed i gyfleoedd bywyd y plant sydd wrth wraidd y polisi hwn.

“Pan fydd y plant hynny’n mynd i ffwrdd ym mis Gorffennaf, yn y chwe wythnos hynny, ni fyddan nhw’n gweld llyfr, ni fyddan nhw’n cael cyfle i chwarae mewn ffordd sy’n caniatáu iddyn nhw werthfawrogi’r hyn y gall mathemateg ei wneud iddyn nhw yn eu bywydau.

“A phan fyddan nhw yn dod yn ôl ym mis Medi, mae’r ysgol yn dechrau eto.

“Mae’r syniad nad oes unrhyw golli addysg ym mywydau’r plant hynny yn gwbl hurt.”

Anghydfod

Yn ystod y ddadl, roedd yn rhaid i’r Llywydd Elin Jones gamu i mewn oherwydd ymyriadau gan Hefin David yn ystod araith Mark Drakeford.

Mae Aelod Caerffili bellach wedi egluro ei fod yn erbyn y polisi o ddiwygio.

“Fel rhiant i blant wyth a chwech oed [mae gan un ohonyn nhw anawsterau dysgu], mae’r gwyliau haf llawer rhwyddach a rhatach i’w rheoli na mis Hydref, ac yn enwedig y Nadolig.

“Yn yr haf, pan fo’r tywydd yn well, mae yna fwy o weithgareddau ‘rhad’ ar gael fel parciau, padiau sblash, picnics a gerddi cyhoeddus.

“Yn yr hydref, gyda’r golau gwan yn ystod y nos a’r tywydd oer, mae’r gofynion lawer mwy tueddol o fod yn cynnwys chwarae meddal, trampolinio a gweithgareddau dan do sydd yn costio arian.

“Yn bersonol, bydd bywyd llawer anoddach gyda gwyliau o ddwy wythnos yn yr hydref – mae’n barod yn un o’r rhai anoddaf i’w reoli.”

Dywedodd Lynne Neagle ei bod hi’n “gwerthfawrogi” cyfraniad Mark Drakeford, ond yn gwrthod “naws ei eiriau”.

‘Gresynu’

Wrth ymateb i Mark Drakeford, dywedodd Lynne Neagle ei bod hi’n “gwerthfawrogi” ei gyfraniad, ond yn gwrthod “naws ei eiriau”.

“Rydw i’n gresynu at naws rhai o’r sylwadau hynny,” meddai.

“Dwi’n teimlo eu bod yn bwrw amheuaeth ar fy ymrwymiad fy hun i blant a phobol ifanc, sef yr unig reswm rwy’n sefyll yn y swydd hon.

“Gyda phob parch, Mark, rwy’n meddwl fy mod wedi nodi’n glir iawn fy rhesymau dros y penderfyniad hwn heddiw.

“Mae’n ymwneud â gwrando ar ymgynghoriad. Does dim modd cael ymgynghoriad ac yna anwybyddu’r ymgynghoriad hwnnw.

“Ni fyddai hynny’n dderbyniol.”

Roedd y cynlluniau gwreiddiol i newid strwythur gwyliau ysgolion wedi “hollti barn,” meddai wedyn.

“Er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud hyn yn iawn, mae angen i ni barhau i wrando ac ymgysylltu ag ysgolion, athrawon, undebau yn ogystal â phlant, pobol ifanc a rhieni ynglŷn â’r ffordd orau i ni gyflwyno unrhyw newidiadau yn y dyfodol.”

Daw’r tro pedol gan y llywodraeth wedi’r cyfnod ymgynghori mwyaf ar addysg, oedd wedi denu dros 16,000 o ymatebion.

Dadansoddiad: Rhys Owen

“Yn amlwg, mae’r penderfyniad yma i beidio diwygio’r tymhorau ysgol wedi bod yn un sydd wedi pwysleisio rhaniadau o fewn y Blaid Lafur. Roedd cael geiriau mor gryf gan y cyn-Brif Weinidog yn erbyn y weinyddiaeth newydd ar noswyl pleidlais diffyg hyder yn y Prif Weinidog newydd i’w weld yn ddamweiniol. Mae’r ddadl ei hun hefyd yn arwyddocaol, gan fod yr Ysgrifennydd Addysg a Hefin David yn gwrthwynebu’n llwyr yr hyn ddywedodd Mark Drakeford yn y siambr.

Anaml iawn rydym wedi gweld y Blaid Lafur yng Nghymru mor rhanedig. Mae aelodau wedi siarad yn erbyn Vaughan Gething am gymryd y rhoddion ariannol, mae Hannah Blythyn wedi cael ei llusgo ma’s, a nawr mae gennym sefyllfa lle mae cyn-Brif Weinidog a’r Prif Weinidog presennol yn anghytuno yn chwyrn yn ôl pob tebyg.

Mae’r BBC yn dweud bod y Prif Weinidog yn debygol o golli’r bleidlais heddiw, oherwydd bod dau o’i aelodau yn sâl – rhywbeth fydd yn cael ei ailadrodd maes o law i ddadlau nad yw’r bleidlais ei hun yn rhwymol.

Ond beth bynnag fydd canlyniad y bleidlais, a chanlyniadau’r helynt, mae’r sefyllfa’n edrych yn fwyfwy anghynaladwy.”