Mae uwch gynghorwyr wedi cymeradwyo cynigion i newid iaith addysg sylfaen mewn pum ysgol yng Ngheredigion i’r Gymraeg, er bod rhai yn ei ddisgrifio fel penderfyniad sydd â “chymhelliant gwleidyddol” ac fel “fait accompli”.
Yn eu cyfarfod ar Fehefin 3, daeth argymhelliad y dylai aelodau Cabinet Cyngor Ceredigion gefnogi newidiadau i Ysgol Gynradd Comins Coch, Ysgol Gynradd Gatholig San Padarn, Ysgol Gynradd Llwyn yr Eos, Ysgol Gynradd Plascrug ac Ysgol Gynradd Ceinewydd.
Yn ogystal ag addasu iaith yr addysg sylfaen i’r Gymraeg ar gyfer pob ysgol, roedd ysgolion Comins Coch a San Padarn hefyd wedi derbyn plant tair oed yn rhan amser.
Ymgynghoriad
Fis Mai diwethaf, penderfynodd y Cabinet y dylid cynnal ymgynghoriadau statudol ar y cynigion, ac fe gafodd ei gynnal yn yr hydref cyn i’r Cabinet gyhoeddi hysbysiad statudol ar Fawrth 1, yn rhoi rhybudd 28 diwrnod er mwyn cyflwyno unrhyw wrthwynebiadau.
Daeth tri gwrthwynebiad i’r newidiadau yng Nghomins Coch, gyda’r pryderon yn cynnwys honiadau bod diffygion yn yr ymgynghoriad, y byddai’r cynigion yn lleihau amrywiaeth y boblogaeth leol, yn enwedig y rheiny sy’n gweithio yn y brifysgol, drwy ddileu’r elfen cyfrwng Saesneg, a chreu anhawsterau i rieni sydd ond yn siarad Saesneg.
Cafodd y pryderon hynny eu codi hefyd ar gyfer yr ysgolion eraill yn Aberystwyth, sef San Padarn, oedd wedi derbyn pedwar gwrthwynebiad, Llwyn yr Eos a Phlascrug.
Roedd mwy o bryderon am Blascrug na’r ysgolion eraill, gyda 23 o wrthwynebiadau wedi’u derbyn, gydag un ymateb yn ei ddisgrifio fel penderfyniad “â chymhelliant gwleidyddol” ac fel “fait accompli”, gydag un arall yn dweud y byddai’n cael “effaith negyddol ar ffoaduriaid”, tra bod un arall yn dweud y byddai “trochi yn y Gymraeg” yn rhwystr ychwanegol i’r rheiny ag anghenion dysgu ychwanegol.
Roedd pryderon ym Mhlascrug hefyd yn cyfeirio at ddeiseb ar change.org o’r enw ‘Reject Welsh medium teaching in the Foundation Phase at Ysgol Plascrug’, oedd wedi denu 143 o lofnodion.
“Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi penderfynu cyflwyno addysg Gymraeg yn y Cyfnod Sylfaen yn Ysgol Plascrug wrth i’r Awdurdod Lleol gyflwno’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg,” meddai’r ddeiseb.
“Dw i a rhieni eraill yn poeni nad dyma’r ffordd orau o ddysgu plant ifanc iawn.
“Mae plant yn dysgu’n well drwy eu mamiaith, ac ni fydd teuluoedd di-Gymraeg yn gallu cefnogi eu plant i ddatblygu eu sgiliau darllen ac ysgrifennu gartref i gyd-fnd â’r addysg yn yr ysgol.
“Mae’r rhan fwyaf o ysgolion yng Ngheredigion yn ysgolion Cymraeg, felly mae digon o opsiynau ar gael i deuluoedd Cymraeg gael addysgu eu plant drwy gyfrwng y Gymraeg.
“Mae Plascrug yn un o’r ychydig ysgolion sy’n cynnig addysg ddwyieithog.
“Rydym yn cefnogi’n llwyr fod plant yn cael eu haddysgu yn Gymraeg ac yn cefnogi addysg ddwyieithog, ac eisiau i addysg Cyfnod Sylfaen fod yn Gymraeg a Saesneg.
“Felly, rydym ni’r llofnodwyr eisiau gwrthwynebu cynllun yr Awdurdod Lleol i newid i addysg Gymraeg yn y Cyfnod Sylfaen yn Ysgol Plascrug erbyn Medi 2024.
“Rydyn ni’n dymuno i’r ysgol gadw ei pholisi presennol o addysg ddwyieithog i bob oed a blwyddyn ysgol.”
Doedd dim gwrthwynebiad yng Ngheinewydd, ond cafodd pryderon eu codi ynghylch yr effaith bosib ar y feithrinfa Gymraeg bresennol.
Cytunodd aelodau’r Cabinet i addasu’r iaith i’r Gymraeg yng Ngheinewydd, Llwyn yr Eos, Plascrug, Comins Coch a San Padarn, gyda’r ddwy olaf hefyd yn derbyn plant tair oed yn rhan amser.