Bydd mwy na 500 o staff, ymddiriedolwyr a gwirfoddolwyr o bob cwr o Gymru yn dod at ei gilydd ar gyfer prif ddigwyddiad y sector gwirfoddol yng Nghymru heddiw (dydd Mercher, Mehefin 5).

Bydd y digwyddiad gofod3 yn cael ei gynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd, gan roi cyfle i’r rhai sy’n bresennol uwchsgilio, ymgysylltu a thrafod materion o bwys iddyn nhw – o gyllid i iechyd a lles, ac o ofal cymdeithasol i ddiogelwch a diogelu data.

Ymhlith y prif siaradwyr yn y digwyddiad, sy’n cael ei gynnal wyneb yn wyneb am y tro cyntaf ers 2019, mae:

  • Dr Lindsay Cordery-Bruce, Prif Weithredwr newydd Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Cymru
  • Lesley Griffiths, Ysgrifennydd Diwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol Cymru
  • Dr Helen Stephenson, Prif Weithredwr ymadawol hiraf y Comisiwn Elusennau
  • Efa Gruffudd Jones, Comisiynydd y Gymraeg
  • Helena Herklots, Comisiynydd Pobol Hŷn Cymru
  • Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru
  • Sara Jermin, Dirprwy Gomisiynydd Plant Cymru

‘Rôl enfawr mewn cymdeithas’

“Rydyn ni wrth ein boddau ein bod yn gallu cyflwyno gofod3 wyneb yn wyneb eto yn ystod pen-blwydd Wythnos y Gwirfoddolwyr yn 40 oed,” meddai Dr Lindsay Cordery-Bruce, Prif Weithredwr Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Cymru.

“Mae ein gwirfoddolwyr yn chwarae rôl enfawr mewn cymdeithas, na chaiff ei chydnabod yn aml, ac mae’r digwyddiad hwn yn caniatáu i’r unigolion, y cymdeithasau a’r mudiadau hynny ddod ynghyd i rannu arferion gorau, dysgu o’i gilydd a chodi materion sy’n bwysig iddyn nhw.”