Mae Heledd Fychan yn dweud ei bod hi’n cydymdeimlo â Vaughan Gething ar ôl colli pleidlais hyder yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Mehefin 5), ond yn dweud ei bod hi’n siomedig nad oes gan Brif Weinidog Cymru “ddim dealltwriaeth” o ddifrifoldeb y sefyllfa.

Bu Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganol De Cymru yn siarad â golwg360 ar ôl i’r Senedd gefnogi cynnig o ddiffyg hyder yn ei erbyn.

Collodd e’r bleidlais – nad oedd yn rhwymol – o 29 i 27, ar ôl i’r Ceidwadwyr Cymreig gyflwyno’r cynnig, ac yn sgil cefnogaeth Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol wrth ddatgan diffyg hyder ynddo.

Dywedodd Vaughan Gething yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog ddoe (dydd Mawrth, Mehefin 4) ei fod e’n hyderus y byddai’n ennill y bleidlais.

Dywedodd wrth y Senedd ei fod yn “difaru” y cynnig oedd “wedi’i ddylunio i gwestiynu” ei onestrwydd.

Doedd dau aelod Llafur, Hannah Blythyn a Lee Waters, ddim yn y Senedd i bleidleisio oherwydd salwch – mae’r ddau wedi bod yn feirniadol o’r Prif Weinidog dros yr wythnosau diwethaf, a chafodd Hannah Blythyn ei diswyddo ganddo’n ddiweddar hefyd.

Doedd Jack Sargeant ddim yn y Senedd yn dilyn genedigaeth ei blentyn, ond roedd modd iddo fe bleidleisio o bell – yn wahanol i Waters a Blythyn, ac mae’n debyg nad oedd Mark Drakeford, cyn-Brif Weinidog Cymru, yn bresennol chwaith ond ei fod e wedi cefnogi Vaughan Gething.

Doedd dim modd i’r Llywydd Elin Jones na’i Dirprwy David Rees bleidleisio.

‘Difrifoldeb’

“Un o’r pethau oedd yn fy nharo i oedd fod pethau fel hyn ddim yn digwydd yn aml o gwbl – dim ond yr ail waith yn hanes y Senedd,” meddai Heledd Fychan wrth golwg360.

“A dw i’n meddwl bod rhaid i ni adlewyrchu ar ddifrifoldeb y sefyllfa.

“Nid ar chwarae bach oedd hynny’n digwydd; yn amlwg, mae’n rhaid cwestiynu’r Torïaid o ran yr amseru, ond un person sydd ar fai bod hyn wedi digwydd a hwn ydi Vaughan Gething ei hun.”

Daw’r sylw hwnnw ar ôl i Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, alw’r bleidlais ar ddiwrnod digwyddiad yn Portsmouth i gofio glaniadau D-Day, lle’r oed disgwyl i Vaughan Gething gynrychioli Cymru.

“Bysa fo wedi gallu ad-dalu’r arian, bysa fo wedi gallu ymddiheuro,” meddai Heledd Fychan wedyn.

Ond a fyddai ymddiheuriad ac addewid i ad-dalu’r arian i David Neal, rhoddwr £200,000 i ymgyrch arweinyddol Vaughan Gething gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol, wedi bod yn ddigon i Blaid Cymru er mwyn atal y bleidlais yn erbyn Vaughan Gething?

“Mi fyddwn i wedi bod yn falch o glywed hynny ganddo fo, ond o ran y bleidlais byddai’n rhaid iddo fo fod wedi bod lot cynharach na heddiw, a bod yna gynllun o ran ad-dalu’r arian, a hefyd bod o’n deall difrifoldeb y sefyllfa.

“Mi oedd o’n drist, i fod yn onest.

“Doedd o ddim yn hawdd gweld Prif Weinidog yn ei ddagrau; mae’n rhaid i ni gofio bod yna berson tu ôl i bob gwleidydd.

“Mi drïais i fod yn gymedrol iawn yn yr hyn roeddwn yn ei ddweud.

“Doeddwn i ddim eisiau bod y person sy’n go for the jugular, ond mi oedd y pwyntiau ddaru fi godi yn rhai ddaru etholwyr godi efo fi, a dwi’n meddwl eu bod nhw’n gwestiynau teg i’w gofyn.

“Ond yn amlwg ar lefel bersonol, mae rhywun yn cydymdeimlo, ond hefyd yn rhwystredig wedyn fod yna ddim dealltwriaeth pam fod pobol yn flin.

“Roeddwn i’n meddwl bod y ffordd roedd o’n ymateb yn anffodus iawn, ac eto ddim yn cymryd cyfrifoldeb.

“Dwi’n gobeithio bod Vaughan Gething ei hun yn adlewyrchu ar yr hyn ddywedwyd heddiw, efallai ailwylio neu ailddarllen yr hyn ddywedwyd, ac efallai deall pam bod dau aelod o’i blaid yn teimlo bo nhw ddim digon da i fedru pleidleisio heddiw.

“Hefyd, rhaid iddo fo ddeall pam doedd dim cais am brocsi, oherwydd mae opsiwn os ydy rhywun yn sâl, mae’n bosib cael pleidleisio procsi nes i’r sesiwn lawn gychwyn am 1.30yp.”

Gwrthod ymddiswyddo

Mae Vaughan Gething wedi gwrthod ymddiswyddo yn dilyn y bleidlais, gan ddweud bod “salwch dau o’n haelodau wedi effeithio canlyniad y bleidlais”.

“Dw i yma, yn falch o fod yn Brif Weinidog Cymru i wasanaethu ac arwain fy ngwlad,” meddai wrth annerch y wasg yn dilyn y bleidlais.

“Dyna dw i wedi’i wneud heddiw.

“Dyna fydda i’n parhau i’w wneud.”

Vaughan Gething wedi colli pleidlais hyder

Rhys Owen

Collodd Prif Weinidog Cymru y bleidlais o 29 i 27 heddiw (dydd Mercher, Mehefin 5)