Mae diffoddwyr tân wedi cael eu gadael lawr gan y bobol sy’n gyfrifol am lywodraethu gwasanaethau tân ac achub, yn ôl un o bwyllgorau’r Senedd.
Dydy Awdurdodau Tân yn methu gwneud eu gwaith yn iawn, medd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, gan ddweud nad oes gan rai aelodau’r sgiliau sydd eu hangen i wneud eu swyddi.
Mae adroddiad Seinio’r Larwm, sy’n cael ei lansio heddiw (dydd Iau, Mehefin 6), yn manylu ar bryderon am benodiad Stuart Millington yn Brif Swyddog Tân dros dro y gwasanaeth yn Ne Cymru.
Fis diwethaf, fe wnaeth ymchwiliad mewnol i ymddygiad Stuart Millington gefnogi “nifer o honiadau ffeithiol” gafodd eu gwneud yn ei erbyn mewn dadl dros aflonyddu.
Cafodd Stuart Millington ei benodi’n Brif Swyddog yno yn dilyn sgandal fwlio ac aflonyddu arall yng Ngwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
‘Angen newid radical’
Yn ôl Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd, roedd diffyg eglurdeb a naws amddiffynnol yr ymateb i’r pryderon yn y ddadl am Stuart Millington yn “peri risg o atgyfnerthu’r canfyddiadau negyddol am rai uwch reolwyr”.
“Mae staff y gwasanaeth tân yng Nghymru yn cael eu gadael i lawr gan yr arweinwyr sy’n gyfrifol am lywodraethu’r gwasanaethau tân ac achub ac mae angen newid brys i adfer ffydd fel bod pob aelod o staff yn teimlo’n ddiogel yn y gweithle,” meddai Jenny Rathbone, cadeirydd y pwyllgor.
“Cawsom ein siomi o glywed faint o bobol ar frig y system lywodraethu bresennol nad oedd i’w gweld yn ymwybodol o ba mor ddifrifol yw’r broblem.
“Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i gymryd camau radical i gryfhau effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y strwythur llywodraethu – nid yw dim newid yn opsiwn.”
Rôl yr Awdurodau Tân
Lansiodd y Pwyllgor yr ymchwiliad i lywodraethu gwasanaethau tân ac achub yn dilyn canfyddiadau’r Adolygiad Diwylliant o Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru dan arweiniad Fenella Morris.
Daeth ei hadroddiad i’r casgliad bod rheolwyr y gwasanaeth wedi goddef aflonyddu rhywiol a chamdriniaeth ddomestig tu allan i’r gwaith.
Wedi hynny, gorchmynnodd Llywodraeth Cymru adolygiadau annibynnol i Wasanaethau Tân ac Achub Gogledd a Chanolbarth a Gorllewin Cymru hefyd.
Cododd yr adolygiad diwylliant gwestiwn am rôl yr Awdurdodau Tân ac Achub.
Dywedodd Cymdeithas y Swyddogion Tân wrth y Pwyllgor nad oedd gan aelodau Awdurdod Tân ac Achub De Cymru y sgiliau sy’n ofynnol er mwyn darparu’r lefel o oruchwyliaeth, craffu a her angenrheidiol wrth lywodraethu.
Daeth y pwyllgor i’r casgliad fod aelodau’r Awdurdod yn annhebygol o fod mewn sefyllfa i ddarparu’r lefel o oruchwyliaeth effeithiol i gynorthwyo’r gwasanaethau i gyflawni’r newidiadau diwylliannol.
Dywed y pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru ddiwygio’r ffordd mae Awdurdodau Tân ac Achub yn gweithio, gan gynnwys lleihau eu maint, ac annog pobol sydd â gwybodaeth ac arbenigedd allanol mewn cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i gael eu cyfethol i bob Awdurdod.
Penodiad Stuart Millington
Clywodd y pwyllgor am bryderon ynghylch penodiad Stuart Millington hefyd, a hwnnw wedi’i benodi gan Gomisiynwyr De Cymru.
Canfu’r pwyllgor fod diffyg eglurder a naws amddiffynnol nifer o unigolion a ymatebodd i’r pryderon hyn yn peri gofid, ac roedden nhw’n poeni y gallai hyn atgyfnerthu canfyddiadau negyddol presennol ymhlith staff a’r cyhoedd ynghylch ymrwymiad uwch reolwyr i wella diwylliant y gwasanaeth tân.
Yn sgil hyn, maen nhw’n dweud y dylai Llywodraeth Cymru gydweithio â’r Comisiynwyr Tân i ddod o hyd i unigolion “ffres â sgiliau a phrofiadau o’r tu allan i’r sector yng Nghymru” er mwyn gwneud y gwaith.
Dylid dechrau gyda’r broses recriwtio ar gyfer Prif Swyddog Tân newydd De Cymru, medden nhw.