Mae helynt yn etholaeth Pen-y-bont ar Ogwr yn codi cwestiynau am safon ymgeiswyr y Ceidwadwyr ar gyfer yr etholiad cyffredinol, yn ôl Aelod Seneddol Llafur Aberogwr.

Roedd disgwyl i Sam Trask, arweinydd Grŵp Ceidwadol Cyngor Rhondda Cynon Taf, sefyll yn yr etholaeth sydd yn nwylo’r Ceidwadwyr ers i Jamie Wallis gael ei ethol yn 2019.

Ond mae Trask wedi tynnu’n ôl o’r ras ddiwrnod cyn cau enwebiadau, ar ôl i negeseuon o natur rywiol gael eu datgelu.

Yn y negeseuon ar wefan ffitrwydd, mae Trask, sy’n gyn-hyfforddwr ffitrwydd personol, yn sôn am faint bronnau menywod, gan ddweud mai’r ffordd o’u mesur nhw yw eu “cyffwrdd” â’r dwylo, gwefusau a thafod.

Mae hefyd yn gofyn a yw menyw â bronnau mawr yn “fflyrtio” neu’n cyffwrdd â rhywun gan eu bod nhw “yn y ffordd”.

Roedd neges arall yn wahoddiad i fynd i wylio pornograffi ar ei sgrîn deledu fawr.

Mae hefyd yn gwneud sylwadau sarhaus am gorff ei wraig a’i hagwedd ar y wefan.

‘Cwestiynau difrifol’

“Mae’r datguddiadau ffiaidd hyn yn codi cwestiynau difrifol am safon yr ymgeiswyr mae’r Torïaid wedi’u gorfodi i’w dewis,” meddai Chris Elmore.

“Mae’n gwbl briodol fod pobol yma ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn disgwyl gwell gan eu hymgeiswyr ar gyfer swydd gyhoeddus.

“Gyda’r dyddiad cau ar gyfer enwebiadau ar y gorwel, mae gan Rishi Sunak amser o hyd i wneud y peth iawn ac ailwirio’i ymgeiswyr i sicrhau eu bod nhw’n addas i wasanaethu’r cyhoedd yn San Steffan.

“Dyma anhrefn eto fyth gan y Ceidwadwyr.”