Mae cwmni G4S, sy’n rheoli carchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr, wedi cadarnhau wrth golwg360 fod dau garcharor wedi derbyn triniaeth feddygol yn ymwneud â chyffuriau.

Yn ôl y cwmni, fe wnaeth swyddogion y ddalfa ymateb i ddau ddigwyddiad neithiwr (nos Fercher, Mehefin 5).

Maen nhw’n dweud bod un wedi’i gludo i’r ysbyty cyn dychwelyd i’r carchar yn ddiweddarach, tra bo’r llall wedi cael asesiad gan staff meddygol ar y safle.

Roedd adroddiadau ynghylch y digwyddiadau ar y cyfryngau cymdeithasol fore heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 6), gyda theuluoedd yn mynegi eu pryderon.

Yn ôl unigolion ar y grŵp Facebook ‘HMP Prisons’ Justice Group’, roedd dau achos o or-ddôs yn y carchar, ond dydy hynny ddim wedi cael ei gadarnhau.

Mae adroddiadau pellach heddiw, sydd heb eu cadarnhau, fod rheolwyr newydd wedi cael eu gosod yn yr adain lle’r oedd y ddau ddigwyddiad.

Yn ôl gweinyddwr y grŵp Facebook, mae’r teuluoedd wedi ceisio siarad â G4S, sy’n dweud na ddylai neb wrando ar yr hyn sy’n cael ei ddweud ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae’r unigolyn yn cyhuddo G4S o “ddal gwybodaeth yn ôl” ac o “annilysu gwybodaeth onest, ddibynadwy” a “chelu rhag craffu”.

Dydy G4S ddim wedi gwneud sylw tu hwnt i’r wybodaeth maen nhw wedi’i rhoi i golwg360 am y digwyddiadau.

Carchar y Parc: “Mae’n frawychus cael fy mab yno”

Elin Wyn Owen

Cafodd tri o garcharorion eu cludo i’r ysbyty ddydd Gwener (Mai 31), yn dilyn digwyddiad yn y carchar lle mae deg o bobol wedi marw ers mis Chwefror

 


Darllenwch golofn Barry Thomas, golygydd cylchgrawn Golwg, yr wythnos hon:

Mynedfa'r carchar

Carchar gwaetha’ gwledydd Prydain

Deg o garcharorion wedi marw o fewn tri mis… Aelod o staff wedi cyfaddef smyglo cyffuriau… adroddiadau bod ugain o ddynion wedi cychwyn reiat