Gyda phedair wythnos i fynd, dw i’n dal heb glywed digon gan y pleidiau i’m darbwyllo naill ffordd neu’r llall.
Mae Llafur a’r Ceidwadwyr wedi syrthio’n bendramwnwgl i drap senoffobaidd Farage drwy addo cyfyngu’n llym ar fudwyr i’r ynysoedd hyn, er bod y CBI a chynhyrchwyr a phroseswyr bwyd yn crefu am 900,000 o weithwyr i lenwi swyddi gweigion, yn ôl yr Independent wythnos yma.
Creu giamocs o flaen camera mae’r Democrat Rhyddfrydol Ed Davey, boed beicio lawr allt serth yn Nhrefyclo neu ddisgyn o badlfwrdd i Lyn Windermere. Gobeithio am unrhyw sylw mae Plaid Cymru, er i Rhun ap Iorwerth fachu slot deg munud ar Sunday Morning with Trevor Phillips ar Sky News i drafod y bleidlais o ddiffyg hyder yn erbyn Vaughan Gething, a’r galwadau am fformiwla Barnett tecach. Dyn â ŵyr beth yw hanes y Blaid Werdd yng Nghymru!
Ac mi rydan ninnau’n gorfod hidlo llawer o’r addewidion addysg ac iechyd, o gofio taw Caerdydd nid Llundain biau’r pwerau hynny. Ond i mi’n bersonol, mae yna fater pwysig arall sydd angen ei drafod. Rhywbeth nad yw Laura Kuenssberg na Catrin Haf Jones yn ei godi. Mater sydd angen buddsoddiad enbyd ac sy’n effeithio ar bob un wan jac ohonom…
Tyllau ffyrdd
Dwi’n siarad fel beiciwr rheolaidd a gyrrwr achlysurol. Mae ambell hewl yn y ddinas yn debycach i wyneb y lleuad! Rhwng craterau a draeniau sy’n ddigon i chwalu teiar a thorri asgwrn, maen nhw’n gorfodi seiclwyr i ganol y ffordd – rhywbeth arall i wylltio’r gyrwyr hynny (perchnogion Audi a faniau gwynion yn bennaf) sydd eisoes yn gandryll am orfod gwneud 20mya. O safbwynt pedair olwyn, mae siwrneiau rheolaidd o’r de i’r gogledd yn ategu pa mor fregus yw’n Route 66 ninnau. Yn eironig, rhan ddeuol o’r A470 nid nepell o’r brifddinas ydi’r gwaethaf, lle mae arwyddion melyn 50m.y.a. ar gyrion Merthyr yn ein siarsio i slofi er ein diogelwch ein hunain, nid er mwyn gwella safon yr aer amgylchynol. Mae’r gwaith cynnal a chadw yn nwylo Llywodraeth Bae Caerdydd, fel rhan o’i chyfrifoldeb am 951 o filltiroedd o gefnffyrdd categori ‘A’, a 110 milltir o draffyrdd y genedl. Ac mae gan awdurdod priffyrdd y Llywodraeth wefan benodol i riportio hyn, yn union fel cynghorau lleol. Dw i eisoes wedi defnyddio tudalen ‘Rhoi gwybod am broblem ceudwll ar y briffordd’ Cyngor Conwy. Mae lonydd cul y wlad, dolenni cyswllt hanfodol i drigolion a thacsis ysgol, faniau danfon a thanceri llaeth y Dyffryn yn prysur ddadfeilio o gymharu â’r ffyrdd slic i Landudno dwristaidd.
Dwi’n amau mai “diwedd y gân yw’r geiniog o San Steffan” fydd yr ateb. Gresyn na neilltuwyd talp go helaeth o gronfa ‘Codi’r Gwastad’ y Torïaid i lefelu ein cysylltiadau teithio anhepgor.
Mae’n broblem yn y Deyrnas Unedig gyfan wrth gwrs. Mae arolwg diweddar yn dangos bod gwasanaeth adfer yr RAC wedi ymateb i 53% yn fwy o broblemau oherwydd ffyrdd rhacs yn ystod chwarter cyntaf 2024, o gymharu â thri mis olaf 2023. Ac yn ôl adroddiad Sky News, y Deyrnas Unedig sy’n gwario’r lleiaf ar gynllun tarmacio cynhwysfawr, o £4bn yn 2006 i £2bn yn 2019 (y ffigurau cymharol diwethaf sydd ar gael), o gymharu â gwledydd fel Sweden, Awstria a Seland Newydd wariodd 50% yn fwy yn yr un cyfnod. Gyda llaw, os ydych chi’n bwriadu dreifio ar wyliau i dir mawr Ewrop yr haf hwn, yr Iseldiroedd sydd brafiaf. Yno mae’r ffyrdd gorau ar y cyfandir, yn ôl arolwg Fforwm Economaidd y Byd.
Am y tro, beth am wahodd artiste de rue français i altro pethau yng Nghymru? Mae Ememem o Lyon, sy’n disgrifio’i hun fel “trwsiwr bitwmen, bardd y pafin a llawfeddyg macadam”, yn mynd i’r afael â’r broblem trwy lenwi tyllau peryglus â theils mosäig lliwgar. Mae enghreifftiau o’i waith eisoes wedi harddu ffyrdd a phalmentydd yn Iwerddon, Norwy a’r Eidal.
Meddyliwch! Gorfod erfyn ar Ffrancwr i drwsio rhywfaint o Broken Britain!