Mae gen i bum person yn gwmni i mi heddiw. Nid y cwmni delfrydol, gan mai llofruddion ydyn nhw. Felly, y Sul hwn, treuliwn ychydig funudau yng nghwmni Procrustes, Periphetes, Sinis, Scirion a Cercyon. Perthyn y pump i fyd mytholeg Roegaidd; a Theseus fu’n ddiwedd i’r pump. Felly – ymddiheuriadau – nid pump, ond chwe llofrudd!

Gan ddechrau gyda’r mwyaf dyfeisgar o’r pump…

Procrustes

Cadw ‘Gwely a Brecwast’ ydoedd yn Corydalus, Attica, ond roedd y pwyslais ganddo ar y ‘Gwely’ nid y ‘Brecwast’; fe ddown at hynny maes o law!

Roedd gan Procrustes wely arbennig iawn. Mynnai fod ei wely’n gwbl berffaith i bawb. I wneud yn siŵr o hynny, pe baech chi’n fyr, buasai Procrustes – yn llythrennol, i chi gael deall (rhaffau ac eingionau! Dychmyged pawb drosto’i hun!) yn eich tynnu chi nes bod y gwely perffaith yn berffaith i chi. Pe baech chi’n dal, buasai Procrustes yn torri darnau ohonoch i ffwrdd, er mwyn i chi ffitio’r gwely perffaith yn berffaith. Dyna pam doedd dim llawer o fynd ar y brecwast – doedd neb yn mynd i unman wedi gorwedd yng ngwely Procrustes!

Gwyliwn rhag troi ein crefydd yn wely Procrustes! Temtasiwn parod y crefyddol ohonom, ym mhob oes a diwylliant, yw tocio cariad Duw hyd nes i’r cariad anferthol hwnnw ffitio i wely bychan ein crefydda. Gan i ni ildio mor fodlon a chyson i’r demtasiwn honno, mae llawer gormod o bobol, plant Duw bob un, nad ydyn nhw’n ffitio am ba reswm bynnag, yn cael eu tynnu neu’u torri’n ddarnau.

Cafodd Procrustes ei ladd gan Theseus. Ac yntau bellach heb ben ar ei ysgwyddau, ffitiodd Procrustes ei wely perffaith yn berffaith.

Periphetes

Ymlaen at Periphetes. Cwlffyn o ddyn a chanddo bastwn efydd. Nid soffistigedig mo Periphetes. Byddai hwn yn dod i gwrdd â chi ar y ffordd, a’ch colbio chi gyda’i bastwn!

Rhaid gwylio rhag troi ein crefydd yn bastwn Periphetes. Nid pastwn yw ffydd. Nid oes synnwyr mewn colbio pobol â’n hargyhoeddiad fod Duw yn eu caru! Llafn bychan yw ffydd. Fe dyr yn lân a manwl. Pan fydd clais y pastwn wedi diflannu, erys craith y llafn awchlym.

Cafodd Periphetes ei ladd gan Theseus. Cafodd y colbiwr ei golbio â’i bastwn ei hun!… bydd pawb sy’n cymryd y pastwn yn marw trwy’r pastwn (Mathew 26:52 Addasiad).

Sinis

Buasai Sinis yn plygu ac wedyn yn cydio mewn dwy goeden ifanc gyfagos i’r llawr; at y naill goeden, buasai’n clymu eich braich a’ch coes chwith, ac at y llall eich braich a’ch coes dde. Wedyn, gollwng y coed, ac wrth iddyn nhw chwipio’n ôl i’w lle, buasai hanner eich corff yn mynd gyda’r naill goeden, a’r hanner arall gyda’r llall.

Gwyliwn rhag cael ein hollti’n ddau. Mae ein crefydda’n methu am ein bod ni’n mynnu rhannu bywyd yn barhaus yn faterol ac ysbrydol, yn gorff ac enaid, yn gysegredig a chyffredin. Nid cylch ar wahân ym mywyd person yw crefydd, ond yn hytrach cylch sy’n cynnwys y cyfan o fywyd person. Gweddïwn bob dydd am ein bara beunyddiol (Mathew 6:11). Wrth ystyried bara, sylweddolwn mai cwbl amhosibl yw tynnu llinell bendant rhwng cysegredig a chyffredin, corff ac enaid, materol ac ysbrydol: bara i mi fy hun – problem faterol; bara i eraill – problem ysbrydol.

Cafodd Sinis ei ladd gan Theseus. Cafodd yr holltwr ei hollti rhwng dwy goeden! A’n ffydd wedi’i hollti, aiff ein crefydda rhwng y cŵn a’r brain!

Sciron

Buasai Sciron yn falch o’ch derbyn i’w aelwyd foethus ymyl clogwyn, gan estyn croeso i chi aros a mwynhau’r golygfeydd hyfryd o’r môr, a hynny heb ofyn yr un tâl. Ond… byddai’n falch iawn pe baech chi’n fodlon golchi ei draed. Wrth i chi wneud hynny, buasai Sciron yn eich cicio chi dros ymyl clogwyn, a chithau’n syrthio i’r dŵr i gael eich llarpio gan grwban anferthol.

Rhaid gwylio rhag y demtasiwn barod i gicio ryw bethau dros y clogwyn i’r dyfnder. Cymaint yn haws fuasai credu heb y cwestiynau lletchwith rheini sydd wedi blino pobol ffydd o’r dechrau’n deg. Ciciwch nhw dros yr ymyl! Boed i’r crwban eu treulio. Cymaint yn haws fuasai credu pe bai pawb yn credu fel ni. Ciciwch y bobol nad ydyn nhw yn credu fel chithau dros yr ymyl. Gwych! Ai haws credu felly? Ai ffydd yw’r ffydd honno nad oes ganddi gwestiynau, amheuon na thrafferthion i fynd i’r afael â nhw? Onid ofergoel yw peth felly? Ai ffydd yw’r ffydd fonocrom honno nad yw’n derbyn bod gwerth o gwbl i argyhoeddiadau nad ydyn nhw’n cyfateb i’n hargyhoeddiadau ni? Onid heresi mo peth felly?

Cafodd Sciron ei ladd gan Theseus, ac wedyn daeth Cercyon. Ymgodymodd Cercyon â Theseus, a Theseus a orfu.

Cercyon

Cercyon yw’r peryglaf o’r pump. Pam? Ni ein hunain yw Cercyon. Ni ein hunain yw’r drafferth bennaf i ni ein hunain. Ffordd o dreio osgoi cydnabod hynny yw ein parodrwydd i roi’r bai ar bawb a phopeth arall.

Mae’r Cristion yn credu mai un yn unig a fedr oresgyn Cercyon yr hunan, dim ond Un – Iesu. Pan sonia hwnnw am hunanymwadiad (Mathew 16:24), sôn y mae am ymrafael, ymgodymu’n gyson â Cercyon, ymgodymu hyd nes i hwnnw orfod ildio i ewyllys cariadlawn y Crist byw.

Dychmygwch mai ni yw Theseus, yn dilyn, ffeindio, torri llwybr trwy ddryswch crefydd a chymhlethdod ffydd. Rydym wedi goresgyn Periphetes, Sinis, Scirion a Cercyon – gyda llawer iawn llai o dywallt gwaed, gobeithio. Rhaid ein bod ni wedi llwyr ymlâdd! Beth fuasai’n brafiach na gwely glân, cyffyrddus… perffaith?

Da chi, peidiwch gorwedd lawr!!