Mae’r opera sebon ‘wedi bod yn fodd o gyfoethogi ein drama a’n llenyddiaeth ni,’ yn ôl un o gyfranwyr llyfr newydd…

Maggie Post, Bella, Mr Tushingham, Dic Deryn, Meic Pierce, Nansi Furlong, Reg Harries, Denzil, Eileen, Hywel Llywelyn, Kath, Mark, Dai Ashurst, Diane, Siôn White, Britt, Colin, Kelly…

Ydych chi’n adnabod yr enwau yma? Wrth gwrs eich bod chi. Dyma rai – a dim ond rhai – o gymeriadau poblogaidd Pobol y Cwm, yr opera sebon unigryw a gafodd ei sefydlu union hanner canrif yn ôl, yn 1974.

Mae yna lyfr newydd yn nodi’r achlysur, 50 Pobol y Cwm, sy’n llawn straen ac atgofion gan y rhai a fu’n rhan o’r gyfres dros y blynyddoedd. Yr actorion, wrth reswm, ond hefyd awduron, pobol sain a chamera, rheolwyr llawr a rhedwyr, golygyddion fideo, cynllunwyr gwisgoedd a cholur ac ati. Ambell un a fyddai’n ymlafnio wrth eu gwaith ymhell wedi i’r actorion orffen a dianc am lasied i glwb enwog y BBC.

“Bwriad y gyfrol ydi cael 50 o atgofion gan 50 o bobol amrywiol sydd wedi gweithio ar y gyfres, o flaen y camera a thu ôl y camera, achos roedd hi’n bwysig ein bod ni’n cael llais o bob cyfeiriad sy’n rhan o’r cyfanwaith,” meddai William Gwyn, sydd wedi golygu’r llyfr gyda Dorian Morgan, ac sy’n Gynhyrchydd ac yn Olygydd ar y gyfres ers bron i 30 mlynedd. “Rydyn ni wedi cael lleisiau o’r dechrau cynnar yna ac mae yna leisiau diweddar iawn yna hefyd. Dw i’n gobeithio bydd y cyfraniadau yn dod ag atgofion nôl i’r darllenwyr.”

Roedd y stiwdio Pobol y Cwm gyntaf mewn hen eglwys yn Broadway, Caerdydd, cyn bod cyfleusterau teledu gan y BBC yn Llandaf, a stafell ymarfer yn festri Capel Ebeneser, Charles Street. Mae ambell i gyfrannwr yn cofio’r awyrgylch yn y ddau le, fel y dyn camera, Graham Ross, a fu’n gweithio ar y gyfres am ddegawdau, a’r actor Emyr Wyn (‘Dai Ashurst’).

Hefyd yn y llyfr mae yna atgofion gan actorion eraill oedd yno yn y dyddiau cynnar, fel Lisabeth Miles (‘Megan’), Gillian Elisa (‘Sabrina’) a Gaynor Morgan Rees (‘Nerys Cadwaladr’), a rhai ymunodd ychydig yn ddiweddarach fel Ifan Huw Dafydd (‘Dic Deryn’) a Gareth Lewis (‘Meic Pierce’), ynghyd ag ambell un sydd yna heddiw, fel Sue Roderick (‘Cassie’), Nia Caron (‘Anita’) a Lauren Phillips (‘Kelly’).

Un o ddarnau difyrraf 50 Pobol y Cwm yw cyfraniad Endaf Emlyn, awdur y gân agoriadol bytholwyrdd. O fewn wythnosau i gyhoeddi ei record hir Salem yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Myrddin 1974, roedd John Hefin, Pennaeth Adran Ddrama BBC Cymru, wedi gwahodd Endaf draw i’w dŷ ym Mro Morgannwg am swper, i drafod cyfansoddi arwydd-gân i broject newydd, dros lasied o win.

“Mae o’n mynd ar ôl sut roedd y gerddoriaeth i fod i groniclo bwriad y gyfres, sef bod yn rhaglen Gymraeg boblogaidd oedd yn adlewyrchu Cymru ei chyfnod, yn yr un modd ag yr oedd Coronation Street yn adlewyrchu gogledd Lloegr pan ddechreuodd y gyfres honno,” eglura William Gwyn.

Diddorol yw darllen atgofion Lowri Glain, a fu’n Rheolwr Llawr Cynorthwyol a Marged Parry, a fu’n Olygydd Stori ar y gyfres – y ddwy yn ferched i ddau sefydlydd Pobol y Cwm, John Hefin a Gwenlyn Parry. Mae’r ddwy â chof plentyn o ymweld â’r stiwdio yn Llandaf wrth draed eu tadau enwog.

Mae’r Rheolwr Cynhyrchu Gwenllian Gravelle yn cofio camu ar set y Deri Arms 30 mlynedd nôl, ar ei diwrnod cyntaf yn Is-reolwr Llawr. Crynai yn ei sgidie wrth baratoi’r props i ‘Reg Harries’ (Huw Ceredig) a gwnaeth wall anfaddeuol – rhoddodd botel wisgi go-iawn o’i flaen yn lle’r te oer oedd i fod. “Diolch byth, dechreuodd Huw rolio chwerthin a thollti un arall. Roedd Huw a fi yn ffrindiau mawr ar set ar ôl hynny – y cyfeillgarwch a’r teimlad o fod yn rhan o deulu yw un o fy mhrif atgofion o fy nghyfnod yng Nghwmderi.”

Cyfres i’r ‘Cymry naturiol’

Yn ei gyflwyniad i’r llyfr, mae’r Athro Jamie Medhurst o Brifysgol Aberystwyth yn dyfynnu geiriau Gwenlyn Parry yn Y Cymro yn 1975 wrth sôn am wreiddiau’r gyfres: ‘Y nod oedd cynhyrchu stwff y byddai Cymry naturiol yn ei wylio, dim am ei fod o yn Gymraeg, ond am ei fod o’n ddifyr.’

Y gynulleidfa darged oedd ‘y Cymry Cymraeg nad ydynt erioed wedi darllen Barn na’r Faner ond sy’n byw eu bywyd bob dydd yn sŵn naturiol y Gymraeg.’

A yw’r ‘Cymry naturiol’ hynny’n dal i wylio’r gyfres erbyn heddiw? “Mae hwnna’n gwestiwn mawr,” meddai William Gwyn.

“Mae Cymru wedi newid cymaint ers hanner canrif, fel mae gwledydd a diwylliannau eraill wedi esblygu mewn cyfnod o’r fath… Yr hyn sy’n galonogol ydi bod yna nifer o wylwyr di-Gymraeg bellach wedi dod efo’r isdeitlau a’r omnibws. Mae o’n parhau i ddenu’r bobol yna na fyddai yn gwylio deunydd yn Gymraeg neu’n darllen llawer o Gymraeg fel arall.”

Mae nifer o lenorion amlwg wedi bod ynghlwm â’r gyfres ers y 1974. Eigra Lewis Roberts, Meic Povey, Dafydd Huws, Alan Llwyd, Manon Rhys, Siôn Eirian, Geraint Lewis, Manon Eames, Catrin Dafydd, Gruffudd Owen, Manon Steffan Ros, i enwi ond rhai.

Dechreuodd Wiliam O Roberts sgrifennu i’r gyfres dros 30 mlynedd yn ôl. Mae’n dweud mai Pobol y Cwm oedd y “noddwr” a oedd wedi galluogi awduron i droi at weithiau creadigol eraill. Dywed yn y llyfr: “Cymwynas fwyaf cyfundrefn sgriptio Pobol y Cwm oedd ei hyblygrwydd hi, gan ei bod hi’n bosib i rywun gamu i mewn a chamu allan o’r amserlen waith, weithiau am gyfnod o fisoedd neu hyd yn oed fwy. Dyna pam ei bod hi’n deg honni bod Pobol y Cwm wedi bod yn fodd o gyfoethogi ein drama a’n llenyddiaeth ni.”

Roedd y diweddar William Jones, neu Wil Sir Fôn ar lawr gwlad, yn ganolog i’r gyfres am gyfnod maith – bu’n olygydd sgript, sgriptiwr, storïwr a chynhyrchydd dros y blynyddoedd. Roedd yn rhan o’r tîm creadigol enwog gyda Gwenlyn Parry, Siôn Eirian a T James Jones, ac mae rhai’n cyfeirio ato yn y llyfr fel ‘Mr Pobol y Cwm’ ac ‘athrylith’.

Ef hefyd oedd ‘Cof y Gyfres’, gorchwyl sydd erbyn hyn yn eiddo i William Gwyn. Beth yw cyfrinach parhad yr opera sebon, yn ei farn e?

“Mae Pobol y Cwm ac operâu Saesneg fel Emmerdale, Coronation Street ac EastEnders i gyd wedi bod yn eitha’ hirhoedlog am eu bod nhw’n cysylltu â chynulleidfa mewn ffordd o ddweud straeon bob dydd, yn hytrach na straeon mawr, llawn ffrwydradau, llawn cyffro,” meddai William Gwyn. “Mae pobol yn gallu uniaethu â phrofiadau’r rhai o’r cymeriadau maen nhw’n eu gweld ar y sgrin. Mae hynny’n dal dychymyg pobol ac yn eu cadw i fynd yn ôl yna.”

50 Pobol y Cwm – ambell bwt o’r llyfr

Gillian Elisa – actio ‘Sabrina’ rhwng 1974-84 a 2000-2004

“Nôl ym mis Hydref 1974, yn 21 oed, roeddwn i’n eistedd mewn ystafell VIP yn Stiwdio’r BBC, oedd yn hen gapel, yn Broadway yng Nghaerdydd. Dyna lle’r oeddwn i, yng nghwmni Gwenlyn Parry, Meic Povey, Endaf Emlyn, Hywel Gwynfryn a T H Parry-Williams; yn dyst i Bennod Un o Pobol y Cwm yn cael ei dangos ar set deledu yng nghornel yr ystafell wrth iddi gael ei recordio ar lawr y stiwdio. John Hefin, y cynhyrchydd, oedd wedi awgrymu i mi fod yn bresennol, er mwyn i mi gael blas o beth oedd o ’mlaen i. Roeddwn i’n gwylio Alun Williams yn cyflwyno cymeriadau fel Bella, Harri Parri, Mr Tushingham a Maggie Mathias ar ei raglen radio – Dewch am Dro – ‘yn fyw’ o Brynawelon, y cartref hen bobol; syniad clyfar iawn i gyflwyno cymeriadau Cwmderi i’r genedl. Dyma i chi brofiad.”

Iona Rees, Cynllunydd Gwisgoedd

“Mae tua 200 o wisgoedd yn cael eu defnyddio bob wythnos dros y gwahanol benodau – yn wir mae’n adran brysur tu hwnt gyda’i heriau gwahanol. Fel adran, ni yw’r cyntaf i gyrraedd yn y bore a’r olaf i adael yn y nos… oriau hir iawn. Mae angen stamina i fod yn rhan o’r adran! Gall yr heriau amrywio o gyfnod beichiogi cymeriad neu gymeriadau sydd angen sawl fersiwn o’u gwisg o achos niwed neu rhywbeth mor ddi-nod â diod yn sarnu arnyn nhw yn y stori… Golyga hyn fod y merched ar set yn gorfod cadw golwg manwl ar ddilyniant dillad yr actorion.”

Dewi Wyn Williams – golygydd sgriptiau am 16 mlynedd

“Cofio… cyd-ddigwyddiad anhygoel yn arwain at brotest y tu allan i adeilad y BBC gan fod stori ‘bom trwy’r post’ yn cychwyn ar yr union ddydd Llun pan oedd achos Meibion Glyndŵr yn cychwyn yn y Llys yng Nghaernarfon, er ein bod wedi storïo’r bennod dros chwe mis ynghynt!”

Kim Armitt, Cynllunydd

“Mae ffilmio priodasau a phartïon wastad yn bleser. Mae’r rhain yn tueddu i gynnwys nifer fawr o’r cast a mewnbwn sylweddol gan yr adran gelf… arddangosfeydd blodau, balŵns, bwffe ac ati. Gall angladdau fod yn hwyl hefyd, ac rydyn ni wedi claddu cymeriadau o Eglwysilan i Lanbedr-y-fro, Danescourt i Bentre’r Eglwys. Mae cymeriadau Cwmderi sydd wedi ymadael â’r hen fyd wedi’u gwasgaru ar hyd a lled Caerdydd. Ac mae gennym ddewis go sylweddol o eirch ar gael!”

Gwenno Hughes, awdur

“Diolch i’r drefn, ges i fy rhoi o dan adain Wil Sir Fôn, oedd yn ddim llai na pheiriant dweud stori. Gyda’i frwdfrydedd heintus a’i deimlad greddfol tuag at y dramatig a’r doniol, ro’n i wrth draed y meistr. Wil ddysgodd i mi sut i storïo a strwythuro a dw i’n cofio’r wers am y Toblerone hyd heddiw. Yn syml, rhaid i bob stori gael peaks and troughs... Perl arall ddysgodd o i mi am gynildeb mynegiant oedd: ‘Don’t talk about poverty Gwenno, show me the rats!’ Ers hynny, dw i wedi sgwennu degau o straeon a channoedd o sgriptiau i Pobol y Cwm a dw i’n methu credu ein bod ni’n bwrw’r 50. Yffach gols! Felly mi goda’ i jinsan i ddathlu – gan gofio geiriau enwog Mrs Mac: ‘Gwna fe’n un mowr!’”

  • 50 Pobol Y Cwm, Gol. William Gwyn a Dorian Morgan, Y Lolfa, £14.99