Cafwyd rhaglen deyrnged deilwng iawn i’r diweddar Dewi “Pws” Morris ar S4C yn ddiweddar. Dw i wedi sôn o’r blaen fod y sianel yn gwneud y rhaglenni yma’n dda iawn ac nid oedd hon yn eithriad. Cafwyd cyfranwyr da yn hel atgofion annwyl am eu cyfaill ar Cofio Dewi Pws. Siaradodd Caryl Parry Jones, Cleif Harpwood ac Emyr Wyn yn dda iawn, i enwi dim ond tri.