Roeddwn i’n falch iawn i ddarllen colofn Yr Hogyn o Rachub: ‘Dydy “dysgwr” ddim yn air sarhaus’ [Golwg 12/09/24]. Dw i’n gwneud llawer o waith efo dysgwyr a dw i’n eu hedmygu nhw fel dysgwyr. Does dim rhaid galw nhw yn unrhyw beth arall. Does dim rhaid i neb ddysgu Cymraeg, does neb yn mynd i fod dan lawer o anfantais heb y Gymraeg. Mae pobl yn gallu byw yng Nghymru a mwynhau’r profiad. Felly pam mae gymaint yn gwneud yr ymdrech i ddysgu’r iaith? Mae llawer o’r dysgwyr wedi symu