Diolch i David Fagan am ei ymateb i’r pwnc ‘Siaradwyr Newydd’ (Golwg 31/10/2024) ac, os caf ddweud, dyma esiampl o rywun sydd wedi meistroli’n iaith ni. Diolch iddo.
Ond pryd dach chi’n dechrau galw rhywun yn ‘siaradwr newydd’? Ar ôl y dosbarth nos gyntaf? Ar ôl chwe mis? Blwyddyn?