Wel! Mae’r Blaid Lafur yn mynd o nerth i nerth!

O ddifri, pwy feddylie na fyddai unrhyw syniad gan y Starmtroopers Sosialaidd o ran sut i fynd ati i ofalu amdanom?

Nid yw’n syndod gweld poblogrwydd Keir Starmer yn disgyn yn is na’r tymheredd yn fy lolfa, wrth i mi orfod osgoi cynnau’r gwres canolog. Ond rwy’n siŵr nad yw Keir yn poeni rhyw lawer am yr oerfel, wrth iddo droedio coridorau cynnes Downing Street yn ei siwtiau designer rhad ac am ddim.

Un o’r rhesymau fy mod mor affwysol o oer yw’r ffaith fod ynni yn costio cymaint ym Mhrydain. Diolch i’n polisi sero-net, mae pris trydan wedi dyblu ers 2019. Ry’ ni’n talu mwy na phob gwlad arall yn y Gymuned Ewropeaidd – a’r G7. Mwy na dwywaith y pris yn Sbaen, er enghraifft.

Mae cwmnïau Prydain yn talu pedair gwaith cymaint â chwmnïau America am eu hynni. Mae hyn yn eu gwneud yn llai cystadleuol; sefyllfa sy’n mynd i arwain at golli swyddi.

Er bod poblogaeth Prydain wedi tyfu (o 60 miliwn yn 2005 i 69 miliwn heddiw) rydym yn defnyddio 23% yn llai o drydan. Y rheswm am hyn yw ein bod yn dad-ddiwydaneiddio. Fe fydd pris ynni hefyd yn rhwystr i ddatblygu’r diwydiannau newydd ym Mhrydain, megis storio data a darparu gwasanaethau AI. Er enghraifft, mae Chat GTP yn defnyddio deng ngwaith yn fwy o drydan na Google.

Un esiampl amlwg o’r dad-ddiwydaneiddio yw diwedd gwaith dur Port Talbot, gan golli 2,500 o swyddi gwych – a dinistrio’r dref.

Wylit, wylit, Stephen Kinnock – Aelod Seneddol Port Talbot, a bleidleisiodd bymtheg o weithiau yn San Steffan i gefnogi polisïau i’n gwarchod rhag newid hinsawdd.

Yn y cyfamser, ym mis Medi agorodd cwmni Tata Steel ffwrnais ddur mwyaf India yn Kalinganagar. Fe fydd yn cynhyrchu wyth miliwn tunnell o ddur yn flynyddol – a chreu miloedd o swyddi da.

Fel y dywedodd Kemi Badenock (unig obaith y Ceidwadwyr – os yw hi dal yn y ras): “We make others rich at the expense of British workers and pollute the world more in doing so. China builds two coal-fired power stations every week to produce the energy for these industries.”

Ond mae yna obaith! Dyma drydar diweddar gan yr Yr Adran dros Ddiogelwch Ynni a Sero Net (sef adran y disglair Ed Milliband):

‘Did you know a heat pump is 3 times more efficient than a gas boiler? Meaning it generates 3 times more energy than it consumes.’

O’r diwedd! Mae Ed wedi llwyddo i oresgyn deddfau thermodynameg Isaac Newton! Mae wedi dyfeisio peiriannau sy’n gallu creu ynni o ddim! Mae oes aur perpetual motion wedi cyrraedd!

Tric nesaf Ed fydd gwario symiau enfawr er mwyn sybsideiddio’r ffermydd gwynt sydd i’w codi ar draws cefn gwlad Prydain. Ac ar ben hyn fe fydd yn gwario £11bn yn flynyddol, hyd at 2035, er mwyn adeiladu peilonau ar hyd a lled y wlad, i drosglwyddo’r trydan i’n dinasoedd.

Wythnos diwethaf fe gyhoeddodd y byddai yn gwario £21bn o’n harian prin ar gynllun carbon-capture, er mwyn cadw 2% o’n carbon deuocsid mewn ogofau. Tra bod China wrthi’n adeiladu pwerdai glo!

Mae hefyd am ddod â’r diwydiant nwy ym môr y gogledd i ben. Sut bydd hyn yn gwireddu ei awydd i’n gwneud yn llai dibynnol ar y cyfundrefnau unbenaethol dieflig (ei eiriau ef) sy’n gwerthu nwy ac olew i weddill y byd?

Rwy’n 66 mlwydd oed. Nid wyf erioed wedi teimlo mor anobeithiol o ran dyfodol ein gwlad.

Dyma fy neges, felly, i’n pobl ifanc disglair, wrth i’r Blaid Lafur fygwth teyrnasu drosom am ddeng mlynedd:

Oes modd i’r un olaf ohonoch sy’n gadael Cymru, i ddiffodd y goleuadau?