Sut fyddwch chi’n licio’ch proffwydi?
Yn gwisgo carpiau, coron ddail ag anferth o locsyn i ddynodi doethineb a’r gallu i weld yn bell… dyn gwyllt yr olwg yn rocio’r feib Ioan Fedyddiwr, fel ‘tae?
Yn bersonol, mae gen i fan gwan am foi efo gitâr yn canu am y cyflwr dynol.
Ac mae Mark Roberts yn ei wneud o’n well na neb.
Mae o wrthi ers degawdau, gyda’i fand Y Cyrff yn y 1980au, Catatonia yn y 1990au, ac yn fwyaf diweddar gyda’i broject unigol MR.
Ers 2018 mae wedi rhyddhau rhesiad o albyms sydd wedi bod yn anarferol o gyson a gwych – Oesoedd (2018), Amen (2019), Feiral (2020), Llwyth (2021) a Misses (2023).
Yr unig radio friendly hit hyd yma fu ‘Y Pwysau’ (2018) sy’n gân epig am dynnu tua’r terfyn – ‘does yna ddim lot ar ôl, waeth i ni yfad y cwbwl, ti’n dawnsio fel ymerawdwr, dw i’n dawnsio fel dyn tlawd’.
Er bod cysgod angau dros amryw o’i ganeuon, mae MR yn delio gyda’r diweddglo anorfod mewn ffordd ddoniol wrth iddo edrych yn ôl a cheisio gwneud synnwyr o’i fywyd o, ac ergo ein bywydau ni oll.
Mae Feiral, ei ‘albwm covid’, yn cloi gyda chân hyfryd, ddoniol a dwys o’r enw ‘Yr Unig Beth I Fod Ofn O’, ac ar gychwyn hon mae Mark, i gyfeiliant cerddoriaeth ddramatig, yn adrodd yn ded-pan:
‘Fel brawddeg hir heb atalnodau
Yn ardd ddiffrwyth heb goed na blodau
Er ymdrech wych yr haul, mae cysgod angau.
Gwisga tracis sdatic du amdana’i
Y newydd trist yn cyrraedd pob diwedd pnawn
Yn rhifau erchyll o atalnodau llawn’.
Airbnb
Dros y penwythnos roedd MR fyny yn Pontio Bangor, ac afraid dweud iddo rocio’r Casbah i’w seiliau ar y nos Sadwrn.
Y diwrnod cynt fe gawson ni ei berlan ddiweddara’, sef y gân ‘Airbnb’, sy’n trafod y felltith ag ydy’r math yma o lety sy’n helpu ‘troi Eryri yn theme park Disney’.
Hefyd ar hon mae MR yn canu: ‘Gweithiodd nain a taid yn y ffatri alwminiwm… degawdau cyn ddoth Surf Snowdonia, clud yng nghesail y Carneddau’.
Mae’n canu am yr atyniad syrffio ym mhentref Dolgarrog, Dyffryn Conwy, sydd wedi ei leoli ar safle’r hen ffatri.
Fel dameg am sut mae diwydiant trwm wedi gadael y gogledd, a diwydiant ymwelwyr anwadal wedi symud fewn, chewch chi ddim gwell.
Pan gaeodd y ffatri alwminiwm yn 2007, fe gollwyd 170 o swyddi.
Fe agorodd Surf Snowdonia – y safle syrffio mewndirol cyntaf o’i fath yn y byd – yn 2015, gyda help grant o £4miliwn gan Lywodraeth Cymru, a’r addewid i greu 60 o swyddi parhaol.
Ond fe gaeodd y lle’r llynedd ar ôl cael ei blagio gan broblemau technegol oedd yn rhy gostus i’w trwsio.
Y glec yn ‘Airbnb’ yw bod rhannau prydfertha’r gogledd wedi eu troi yn un cae chwarae mawr i ymwelwyr.
Nid ar chwarae bach mae cyfleu cymaint mewn cân bop dair munud o hyd.
A difyr hefyd fod MR – Mark Cyrff o Lanrwst ond bellach yn byw yn y brifddinas ers blynyddoedd lu ac yn nesu at ei drigain oed – yn dal i ganu am hynt a helynt bro ei febyd.
Cymru, Lloegr, a Llanairbnbs…
Pat Morgan – arwres
Hefyd yn y gig yn Pontio – a drefnwyd er cof am y diweddar annwyl Emyr Glyn Williams, un o geffylau blaen Label Recordiau Ankst – roedd Pat Morgan gynt o’r band Datblygu.
Roedd Pat yno yn DJio, ac ar ôl ei set eglurodd ei bod hi hefyd yn tanysgrifio i dderbyn copi o Golwg bob wythnos er mwyn ei roi i ddosbarth sy’n dysgu siarad Cymraeg yn llyfrgell y Gelli Gandryll.
Oherwydd toriadau, mae’r awdurdodau wedi rhoi’r gorau i ddarparu copi o’r cylchgrawn yno.
Felly diolch Pat, a phob lwc i bawb sy’n dysgu!