Wele Gwyn Jones, un o dri aelod o glwb rasio colomennod y Rhyl sy’n ceisio denu aelodau newydd i fwynhau’r gamp sydd ddim mor boblogaidd ag y bu.

I’r perwyl hwnnw, maen nhw wedi bod yn rhedeg ymgyrch recriwtio a chreu perthynas gyda disgyblion Ysgol Pant Pastynog ym Mhrion ger Dinbych.

Cewch yr hanes mewn rhaglen ddogfen o’r enw Homing Instinct sydd ar y BBC Iplayer ac yn cael ei dangos ar BBC 1 Wales wythnos i nos Wener am 7.30, 18 Hydref.