Mae yna filiynau o eiriau wedi eu sgrifennu am flwyddiant yr ymosodiad cïaidd gan Hamas a daniodd y cyfnod diweddara’ o ddinistr yn nhiroedd y Palestiniaid yn Gaza a Libanus.

Mae’r rhan fwya’ ohonon ni’n sgrifennu (a siarad) heb amgyffred o ddyfnder y credoau crefyddol sy’n gyrru’r eithafwyr ar y ddwy ochr nac o ofn pobol Israel na dioddefaint y Palestiniaid.