Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cwyno i’r Ysgrifennydd Addysg Lynne Neagle am benderfyniad Cyngor Sir Ceredigion i fwrw ymlaen ag ymgynghoriad ar gau ysgolion gwledig yn y sir.
Yn ôl y Gymdeithas, dylai Llywodraeth Cymru ddatgan bod yr ymgynghoriad yn “annilys”.
Yn y llythyr, mae’r mudiad yn honni nad yw’r Cyngor wedi cyflawni eu dyletswyddau statudol trwy beidio â dilyn cyfarwyddion Cod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru, sy’n datgan bod rhaid i Awdurdod Lleol ddechrau’r broses â rhagdyb o blaid cadw ysgolion sydd ar eu rhestr o ysgolion gwledig i’w gwarchod.
Mae ymgynghoriadau eisoes wedi agor ar gau Ysgol Llangwyryfon, Ysgol Craig-yr Wylfa yn y Borth ac Ysgol Syr John Rhys, Ponterwyd yr wythnos hon.
Bydd y cyngor yn treulio 28 diwrnod yn trafod gyda’r Eglwys yng Nghymru ar Ysgol Llanfihangel-y-Creuddyn cyn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus tebyg arno.
Proses gydwybodol, “nid ticio bocsys”
“Wrth gyflwyno argraffiad newydd y Cod yn 2018, dywedodd Kirsty Williams, y gweinidog gyda chyfrifoldeb dros addysg ar y pryd, mai dim ond wedi ystyried pob opsiwn amgen y dylai Cyngor Lleol gynnig cau ysgol wledig ar y rhestr,” meddai Ffred Ffransis ar ran Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith.
“Mewn cyfarfod gyda Chymdeithas yr Iaith fis diwethaf, pwysleisiodd yr Ysgrifennydd Addysg bresennol, Lynne Neagle AS, y dylai hon fod yn broses gydwybodol gan Awdurdodau Lleol, nid “ticio blychau yn unig”, ac ychwanegodd Cyfarwyddwr y Gymraeg ac Addysg y Llywodraeth bod “rhagdyb yn erbyn cau ysgolion gwledig yn golygu rhagdyb yn erbyn cau ysgolion gwledig.
“Ond mae Cyngor Ceredigion wedi gweithredu’n hollol groes i hyn.
“Yn Ionawr a Chwefror eleni, penderfynodd y Cyngor anelu at darged o £335k o arbedion yn eu cyllideb gyffredinol trwy gau nifer o ysgolion.
“Mae hyn yn gyfystyr â rhagdyb ymarferol o blaid cau ysgolion gwledig, nid rhagdyb yn erbyn.
“Cred y Cyngor y gall gyflawni ei ddyletswyddau statudol i ystyried pob opsiwn arall trwy gyfeirio at rai opsiynau amgen ac ailadrodd brawddegau generig i’w gwrthod ar gyfer pob un o’r pedwar ysgol a gofyn i bobl ymateb gydag unrhyw opsiynau eraill.
“Ond mae’r Cod yn dweud yn bendant, “Mae’r gyfraith achosion wedi pennu y dylai’r broses ymgynghorol gael ei chynnal pan fydd cynigion yn dal ar gam ffurfiannol”, nid ar ôl i’r Cyngor gynnig cau’r ysgolion.
“Dyma’r gyfraith, a dyma’r gyntaf o bedair egwyddor y mae’r Cod yn dweud fod yn rhaid i Awdurdodau Lleol eu dilyn.
“O ganlyniad i’n cwyn, disgwyliwn i’r Ysgrifennydd Addysg ddatgan fod yr ymgynghoriad yn annilys, neu bydd yn gwneud yr egwyddor o ragdyb yn erbyn cau ysgolion gwledig yn ddiystyr.
“Eto i gyd, mae’n bwysig fod llywodraethwyr, rhieni a chymunedau lleol yn ymateb i’r papurau ymgynghorol er mwyn cywiro’r ffeithiau a dangos pa mor bwysig yw’r ysgolion iddyn nhw ac i gynnal cymunedau gwledig Cymraeg.”
Er bod y Cyngor wedi anfon gwahoddiad i ymateb i’r ymgynghoriad i sefydliadau penodol, dydy e ddim wedi’i gynnwys ar dudalen ymgynghori’r Cyngor, meddai Cymdeithas yr Iaith.