Mae Cyngor Sir Ceredigion yn trin rhieni a thrigolion y sir “fel pobol i’w trechu” yn hytrach na “phartneriaid”, yn ôl Cymdeithas yr Iaith.

Daw hyn wrth i’r mudiad ymateb i benderfyniad y Cyngor Sir i barhau ag ymgynghoriad ar gau pedair ysgol wledig Gymraeg.

Bydd y mudiad yn mynd ati i gwyno’n ffurfiol bod y Cyngor wedi mynd yn erbyn Cod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru, gan weithredu rhagdyb o blaid cau ysgolion.

“Fe welon ni heddiw y Cyngor yn trin y rhieni a thrigolion a oedd yn bresennol fel pobol i’w trechu yn lle eu gweld yn bartneriaid mewn adfywiad,” meddai Ffred Ffransis o Grŵp Addysg y mudiad.

“Gyda chymaint o gymunedau’r sir ar y dibyn o ran y Gymraeg yn barod, allwn ni fforddio colli’r ysgolion hyn, sy’n ganolfannau cymunedol ac sy’n sicrhau bod y Gymraeg yn parhau fel iaith fyw?

“Mae Cod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru yn nodi’n glir bod yn rhaid ystyried pob opsiwn heblaw cau tra bod cynigion yn dal mewn cyfnod ffurfiannol, gyda rhagdybiaeth o blaid cynnal ysgolion gwledig.

“Ni all neb honni o ddifrif bod y broses hon wedi’i chyflawni’n ddigonol gan Gyngor Ceredigion, gan fod cam ffurfiannol polisi’r Cyngor – ddaeth i gasgliad mai cau yw’r opsiwn orau – wedi digwydd y tu ôl i ddrysau caeedig.

“Fel rhybuddiwyd, bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyflwyno cwyn nad yw’r Cyngor yn cyflawni ei ddyletswydd, wedi torri Cod Trefniadaeth Ysgolion ac wedi gweithredu ar rhadyb o blaid cau ysgolion.

“Mynnodd un o swyddogion y Cyngor fod y Llywodraeth wedi cadarnhau eu bod yn cadw at y Cod, felly byddwn ni hefyd yn anfon cais rhyddid gwybodaeth am ohebiaeth rhwng y Cyngor a’r Llywodraeth ar y mater, i weld pwy sydd wedi camarwain y cyhoedd.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Gyngor Sir Ceredigion.

Sail cynigion i gau pedair ysgol wledig Gymraeg “yn anghywir”, medd Cymdeithas yr Iaith

Bydd Cabinet Cyngor Sir Ceredigion yn gwneud penderfyniad ar gyhoeddi ymgynghoriad i gau’r ysgolion heddiw (dydd Mawrth, Medi 3)