Mae Partneriaeth Tirlun Ynys Cybi yn gwahodd gwirfoddolwyr i gymryd rhan mewn cloddfa gymunedol fis Medi, gyda’r bwriad o ddarganfod a cheisio diogelu hanes fferm draddodiadol Gymreig.
Cafodd archwiliad ei gynnal y llynedd ar fferm Ty’n y Mynydd yn Rhoscolyn, a’r gobaith yw y bydd unrhyw ddarganfyddiadau o’r gwaith cloddio eleni yn ychwanegu at y casgliad.
Mae’r prosiect yn Rhoscolyn wedi’i anelu at y rheini sydd ag ychydig o brofiad, neu ddim profiad o gwbl yn y byd archeoleg.
Bydd cyfleoedd amrywiol yn cael eu cynnig i ddysgu a gwneud gwaith cloddio, creu darluniau technegol, cofnodi ffotograffig a chynnal arolygon geoffisegol.
Mae cyfle hefyd i ddisgyblion ysgol leol gymryd rhan yn y cloddio, gan ddod yn archeolwyr eu hunain am y diwrnod.
Byddan nhw hefyd yn dysgu am hanes amaethyddiaeth cyn dyfodiad dulliau ffermio a pheiriannau modern.
Bydd yr hyn gaiff ei ddarganfod i’w weld mewn diwrnod agored ar Fedi 14, a bydd amrywiaeth o weithgareddau hwyliog i’r teulu cyfan er mwyn hyrwyddo archeoleg leol.
Bydd y gweithgareddau yn cynnwys teithiau tywys o’r safle, cyfle i gyffwrdd y pethau gafodd eu darganfod, arddangosfa o luniau a lluniau drôn, darluniau wedi’u creu gan wirfoddolwyr, mapio hanesyddol a gweithgaredd ‘Gweld y Nodwedd’ i blant.
“Hyrwyddo’r cyfoeth o hanes a thraddodiadau” ar Ynys Cybi
Mae Partneriaeth Tirwedd Ynys Cybi yn gweithio gyda chymunedau lleol i reoli treftadaeth naturiol a chymeriad hanesyddol yr ynys yn gynaliadwy.
Mae bwriad hefyd i greu “ymdeimlad o le” drwy gynyddu ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad lleol o dreftadaeth gyfoethog ac amrywiol yr ynys.
Dywed Paul Edwards, Swyddog Prosiect Cymunedol Partneriaeth Tirlun Ynys Cybi, fod cynnig gweithgareddau a phrofiadau unigryw yn gallu “helpu i gadw a hyrwyddo’r cyfoeth o hanes a thraddodiadau sydd gan Ynys Môn i’w cynnig”.
“Drwy roi cyfle i bobol gymryd rhan mewn archeoleg gymunedol, byddan nhw yn dysgu sgiliau newydd, o dechnegau cloddio traddodiadol i’r dechnoleg dreftadaeth ddigidol ddiweddaraf.
“Bydd y gwaith o gerdded y tirlun a’r gwaith arolwg hefyd yn darparu gwirfoddolwyr â chyfle i ddysgu mwy am sut i ddarllen ein tirlun hanesyddol.”
Mae’r cloddfeydd yn cael eu cynnal rhwng Medi 2-6, yn ogystal â Medi 9-13, gan Bartneriaeth Tirlun Ynys Cybi mewn partneriaeth â Heneb: Archeoleg Gwynedd.
Ychwanega’r Cynghorydd Neville Evans, sy’n ddeilydd portffolio Hamdden, Twristiaeth a Morwrol Cyngor Ynys Môn, ei fod yn “gyfle gwych i ddysgu mwy am y cyfoeth o draddodiadau ffermio a threftadaeth yma ym Môn, ynghyd â hyrwyddo gweithgareddau treftadaeth sy’n hwyl i’r teulu cyfan”.