Mae hysbysiad cynnig wedi’i gyflwyno i Gyngor Sir Ddinbych heddiw (dydd Mawrth, Medi 3), yn galw ar arweinydd Llafur y Cyngor a’i Gabinet i ymddiswyddo yn dilyn lansiad “trychinebus” eu menter ailgylchu.

Mae’r grŵp annibynnol gyflwynodd y cynnig wedi galw am gyfarfod eithriadol i drafod disodli’r arweinydd, y Cynghorydd Jason McLellan, a’r naw aelod o’i Gabinet o ganlyniad i “golli ffydd y cyhoedd”.

Lansiodd y Cyngor eu system ailgylchu Trolibocs newydd ddechrau mis Mehefin, ond mae rhai wedi galw’r broses gyflwyno’n “drychineb”, ac mae trigolion yn cwyno am orfod goddef wyth wythnos heb neb yn casglu eu biniau na’u hailgylchu.

Mae’r Gwasanaeth Gohebu ar Ddemocratiaeth Leol wedi derbyn dwsinau o gwynion am fagiau sbwriel yn pentyrru i fyny ar y strydoedd, a sbwriel yn denu fermin.

Fe wnaeth y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, arweinydd y Grŵp Annibynnol, honni bod y system ailgylchu newydd yn costio £50-60,000 ychwanegol yr wythnos i drethdalwyr Sir Ddinbych, gyda chynghorwyr eraill wedi’u tynnu i mewn i gefnogi’r fenter.

Fe wnaeth yr arweinydd Jason McLellan gydnabod y problemau fu wrth gyflwyno’r fenter, ond fe ymosododd e ar y Blaid Geidwadol am 14 blynedd o “dorri cyllid a chamreolaeth” wrth redeg Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Rydym ni bellach dros 13 wythnos i mewn i’r broses gyflwyno,” meddai’r Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts.

“Mae trigolion Sir Ddinbych wedi cael hen ddigon o’r system aneffeithlon.

“Rydyn ni wedi mynd o fod â menter ailgylchu addas i’r diben, oedd â nifer fach iawn o broblemau, i fod â phobol yn mynd am wyth i ddeg wythnos heb fod eu gwastraff yn cael ei gasglu.

“Mae’r broses gyflwyno wedi bod yn drychineb, ac mae angen bod pobol yn cael eu dal yn gyfrifol am fethiant y system, ac mae’r costau’n parhau i godi heb reolaeth, ac mae hynny’n mynd i fod yn gostus i drigolion Sir Ddinbych, sydd ddim yn gyfiawn.

“Ar hyn o bryd, o’r dyfynbrisiau sydd gennym ni gan (yr Adran) Gyllid, mae’r fenter yn cael ei rhedeg am £50-60,000 yr wythnos yn uwch na’r disgwyl, a dydy pobol dal ddim yn derbyn y gwasanaeth, ac mae rhai adrannau’n rhannu staff er mwyn cefnogi’r gwasanaeth ailgylchu, sy’n effeithio ar adrannau eraill ac ysbryd y staff.

“Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi mynd o fod yn un o’r cynghorau sy’n perfformio orau i fod yn un sydd, wir-yr, yn tanberfformio.

“Mae’r cyhoedd wedi colli ffydd yn y Cyngor a’u gallu i ddarparu gwasanaethau rheng flaen.”

Hysbysiad cynnig

Bellach, mae gan y Cyngor ddeng niwrnod i alw cyfarfod eithriadol.

Mae’r hysbysiad cynnig yn dweud:

“Rydym ni, yr is-lofnodedig, yn dymuno awgrymu’r cynnig i ddisodli’r arweinydd Jason McLellan a’i Gabinet. Mae digwyddiadau diweddar ynghylch arweinyddiaeth y Cyngor wedi codi gofidion difrifol am eu heffeithlonrwydd. Mae gwireddu trychinebus ac aneffeithlon y system wastraff ailgylchu newydd, yn ogystal â’r diffyg eglurdeb a chyfrifoldeb ddaeth i’r amlwg mewn briffiad diweddar, wedi arwain at golli ffydd lwyr ymhlith trigolion.

“Ar ben hynny, mae sgil-effeithiau’r system newydd wedi gosod straen sylweddol ar adrannau eraill yng Nghyngor Sir Ddinbych, am fod adnoddau staff wedi cael eu dargyfeirio er mwyn mynd i’r afael â methiannau’r fenter ailgylchu. Mae’r dargyfeirio hwn wedi arwain at gynnydd gweladwy mewn costau gweithredu, sydd wedyn wedi cael effaith negyddol ar wasanaethau rheng-flaen sy’n hanfodol i’r gymuned.

“Mae’r diffyg o ran strategaeth ac arweinyddiaeth effeithiol wedi creu heriau mawr i drigolion ar hyd a lled y sir, ac mae’r goblygiadau ariannol i’r awdurod wedi bod yn anferthol. Dydy hi ddim yn gynaliadwy bellach i barhau yn y modd yma, ac mae’n rhaid mai’r flaenoriaeth yw lles trigolion Sir Ddinbych. Felly, fel aelodau’r Grŵp Annibynnol, rydyn ni’n galw’n gryf ar yr arweinydd a’i Gabinet i ymddiswyddo.”

Casglu sbwriel

Wedi’i lansio yn wythnos gyntaf mis Mehefin, mae’r fenter ailgylchu newydd yn golygu bod disgwyl i drigolion wahanu eu hailgylchu eu hunain, sydd i fod i gael ei gasglu bob wythnos yn hytrach na phob pythefnos.

Mae sbwriel ‘bin du’ nad yw’n cael ei ailgylchu yn cael ei gasglu bob pedair wythnos yn hytrach na’r hen system bob pythefnos, tra bo biniau hesian wedi’u pwysoli’n cael eu defnyddio ar gyfer cardfwrdd.

Doedd y Cynghorydd Brian Jones, arweinydd y Ceidwadwyr ar y Cyngor, ddim yn gysylltiedig â’r cynnig, ond fe wnaeth e feirniadu’r Cabinet hefyd.

“Mae catalog o fethiannau wedi bod ers i’r weinyddiaeth bresennol gymryd yr awenau; yr helynt gyda’r biniau, wrth gwrs; rydyn ni wedi gweld toriadau yng ngwasanaethau’r llyfrgell, ymgynghoriadau gyda’r cyhoedd wedi’u hanwybyddu, a diffyg llwyr o ran cynnydd mewn sawl prosiect, gan gynnwys Marchnad y Frenhines yn y Rhyl.

“Yn blwmp ac yn blaen, mae’r Cyngor wedi dod yn jôc i’r trigolion, sydd wedi colli ffydd yn llwyr yng ngallu’r rheiny sy’n gyfrifol i wyrdroi pethau.”

Fe wnaeth y Cynghorydd Jason McLellan gydnabod y trafferthion sy’n wynebu’r Cyngor, ond fe ymosododd e ar y Ceidwadwyr hefyd.

“Dwi’n cydnabod yn llwyr fod proses gyflwyno’r fenter wastraff newydd wedi bod yn hynod anodd,” meddai.

“Dw i ar gofnod yn ymddiheuro i bawb sydd wedi’u heffeithio, a dw i’n gwneud eto nawr.

“Dw i’n gwerthfawrogi’n llwyr nad yw ymddiheuriadau’n gwagio biniau, a dyna pam dw i wedi rhoi gorchwyl i gadeiryddion pwyllgorau’r Cyngor i gomisiynu adolygiad llwyr o’r broses, ac mi ydw i’n croesawu hynny.

“Dw i wedi bod yn gweithio’n galed iawn dros yr haf gydag aelodau blaenllaw a’r uwch-dîm i sicrhau bod y problemau yma’n cael eu lleddfu.

“Roedd newid anferthol fel hwn wastad yn mynd i fod yn galed, ond mae gwelliannau mawr wedi cael eu gwneud ac mae’r mwyafrif helaeth o drigolion wedi cael gwasanaeth normal.

“Dw i’n cydnabod fod anawsterau’n bod o hyd yr ydym ni’n gweithio’n hynod galed i’w datrys.

“O ran sylwadau’r Grŵp Ceidwadol ar benderfyniadau cyllid, maen nhw’n gwrthod gweld y llanast ehangach sy’n bod ar draws yr holl wlad wedi 14 blynedd o’u toriadau cyllid a’u camreolaeth a’i effaith ar gynghorau lleol.

“Jôc yw awgrymu fy mod i wedi etifeddu sefydlogrwydd ariannol, a dyna pam y gwnaethon ni weld dymchwel eu plaid yn yr etholiad cyffredinol diweddar.

“Mae cynghorau ar draws y wlad yn wynebu trafferthion ariannol heb gynsail.

“Dw i wedi arwain y Cyngor drwy’r amseroedd digynsail hyn drwy wneud penderfyniadau anodd er mwyn gwarchod gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.

“Dw i heb glywed dim gan grwpiau’r gwrthbleidiau ynghylch sut y bydden nhw’n gweinyddu – does dim cynllun ganddyn nhw.”