Mae’r cynigion cyntaf ar gyfer yr etholaethau newydd fydd yn cael eu defnyddio yn etholiad Senedd 2026 wedi cael eu cyhoeddi.

Yn hytrach na’r 40 etholaeth a’r pum rhanbarth presennol, bydd gan Gymru 16 etholaeth.

Yn sgil hynny, bydd nifer yr Aelodau o’r Senedd yn codi o 60 i 96.

Ond beth yw’r newidiadau a pham eu bod nhw’n cael eu gwneud?

Cynigion cychwynnol etholaethau newydd Senedd Cymru

Sut mae’r etholaethau arfaethedig newydd wedi cael eu creu?  

Mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru wedi cynnig 16 etholaeth drwy baru’r 32 etholaeth sy’n cael eu defnyddio yn etholiadau San Steffan, gan sicrhau bod pob etholaeth yn ffinio â’i phartner.

Mae’r Comisiwn o’r farn mai dim ond os oes modd teithio drwyddi draw heb orfod gadael yr etholaeth y dylid meddwl am etholaethau fel rhai sy’n ffinio. Yn sgil hynny, rhaid i Ynys Môn a Bangor Aberconwy uno.

Fe wnaeth y Comisiwn hefyd ystyried cysylltiadau lleol, megis hanes ardal, y Gymraeg ac ystyriaethau economaidd-gymdeithasol.

Fydd yr etholaethau hyn ond cael eu defnyddio yn 2026. Bydd etholaethau newydd yn cael eu creu ar gyfer etholiad 2030.

Faint o aelodau Seneddol fydd gan bob etholaeth a sut fyddan nhw’n cael eu dewis?

Bydd gan bob etholaeth chwe Aelod, fydd yn cael eu hethol gan ddefnyddio’r dull rhestrau caeedig D’Hont. Honno yw’r system sydd wedi bod yn cael ei defnyddio ar gyfer rhestrau rhanbarthol y Senedd. Dan y drefn bleidleisio, mae rhywun yn pleidleisio dros blaid yn hytrach na pherson.

Nod systemau cynrychiolaeth gyfrannol fel D’Hondt yw dyrannu seddi i bleidiau yn ôl tua’r un faint â nifer y pleidleisiau sydd wedi’u derbyn.

Cyn y newid, roedd gan Gymru 40 etholaeth, oedd yn golygu 40 Aelod. Ar ben hynny, roedd ganddi bum rhanbarth oedd yn ethol pedwar Aelod o’r Senedd yr un.

Pam fod pethau’n newid?  

Rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru oedd ehangu maint y Senedd o 60 aelod i 96.

Mae’r ddwy blaid wedi dweud y bydd cael mwy o Aelodau o’r Senedd yn arwain at well craffu ar y Llywodraeth a phenderfyniadau a pholisïau gwell.

“Ar ddiwedd y dydd, ein rôl ni fel Aelodau o Senedd Cymru yw datblygu polisi ar gyfer Cymru yn y Senedd ac yn aml iawn mae pobol yn anghofio hynny, ac yn meddwl bod aelodau etholedig yn ryw fath o weithwyr cymdeithasol crand,” eglura Mabon ap Gwynfor, Aelod o’r Senedd Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd, wrth golwg360.

“Mae’r rôl yno i helpu etholwyr, ond mae yna rôl genedlaethol gennym ni.”

Ambell etholaeth ddifyr

Dwyfor Meirionnydd, Maldwyn a Glyndŵr

Bydd Dwyfor Meirionnydd, Maldwyn a Glyndŵr yn fwy nag ambell wlad, yn ddaearyddol, a thua’r un maint â Thrinidad a Tobago.

Fe fydd yr etholaeth yn ymestyn o Ben Llŷn i’r ffin â Lloegr, ond er hynny, mae Mabon ap Gwynfor, yn dweud nad ydy hi ddim mwy na’r pum rhanbarth sydd wedi bod yn ethol pedwar Aelod o’r Senedd yr un tan nawr.

“Ond ar gyfer un tymor mae o, ac mae lot o sylw’n cael ei roi bod etholaeth fawr yn fan hyn ond y gwir ydy dydy hi ddim mor fawr ag etholaethau fel maen nhw ar hyn o bryd,” meddai.

“Mae etholaeth mae Dwyfor Meirionnydd yn rhan ohoni, sef Canolbarth a Gorllewin Cymru, yn mynd o ben draw Llŷn lawr i Aberdaugleddau ac mae gen ti Cefin Campbell, Eluned Morgan, Joyce Watson a Jane Dodds yn cynrychioli’r etholaeth honno.

“Ac mi fydd chwech ohonom ni, gan gymryd y bydda i o bosib yn rhoi fy enw ymlaen ac efallai’n cael fy ethol, yn cynrychioli’r etholaeth newydd.

“Mae yna bryder yn amlwg ynglŷn â’r cyswllt personol rhwng yr etholwyr a’r cynrychiolwyr, ond mae hynny’n mynd i olygu bod yna job o waith gan y cynrychiolwyr etholedig i fynd allan a siarad â phobol a gwneud eu hunain yn berthnasol i’r cymunedau hynny.”

Byddai etholaeth Dwyfor Meirionnydd, Maldwyn a Glyndŵr yn ymestyn o arfordir gorllewinol Cymru hyd Glawdd Offa ger Rhosllannerchrugog yn y gogledd a’r Drenewydd yn y de

Ychwanega fod rhai’n mynd i ddweud bod yna “gagendor diwylliannol” rhwng rhannau o’r etholaeth, ond “does yna ddim”.

“Dw i’n byw ochrau Corwen, ac mae Corwen a’r Bala – Penllyn ac Edeirnion – yn rhan o ardal Eisteddfod Powys, sy’n mynd draw i’r Waun a lawr i Sir Drefaldwyn,” meddai, gan ychwanegu bod y cysylltiad rhwng ardaloedd y ddwy etholaeth dal yn bodoli heddiw.

“Mae yna gysylltiadau hanesyddol yna, lle oedd ganddo fo gastell yn Sycharth a chastell yng Nglyndyfrdwy, bob ochr i’r Berwyn.

“Os edrychi di draw i’r gorllewin tuag at Aberdyfi, Corris, Dinas Mawddwy – mae’r rheiny’n naturiol yn edrych tuag at Faldwyn a’r Drenewydd hefyd.

“Mae yna berthynas agos iawn rhwng rhannau o Feirionnydd a Maldwyn wedi bod ar draws y canrifoedd.

“Mae posib i ni orbwysleisio’r pethau yma; y gwir ydy mai setliad un tymor yw hwn, ac mi fydd ffiniau newydd eto ar gyfer etholiadau 2030.”

Aberhonddu, Maesyfed, Castell-nedd a Dwyrain Abertawe

Mae etholaeth Dwyfor Meirionnydd, Maldwyn a Glyndŵr yn un wledig, oni bai am ambell dref megis Caernarfon.

Etholaeth fwy cymysg ei natur fyddai Aberhonddu, Maesyfed, Castell-nedd a Dwyrain Abertawe – sy’n cynnwys ardal y Bannau Brycheiniog a threfi gwledig megis Llanelwedd a Llanwrtyd, ynghyd â rhan o ail ddinas fwyaf Cymru.

Bangor Aberconwy Ynys Môn

Doedd hi ddim syndod fod y ddwy etholaeth wedi’u rhoi at ei gilydd, gan nad oes pont i Ynys Môn o’r un etholaeth arall. Fodd bynnag, mae rhai wedi galw am gadw Ynys Môn fel etholaeth ar ei phen ei hun.

Pan gafodd nifer etholaethau Cymru yn San Steffan ei gostwng o 40 i 32 eleni, doedd dim newid i Ynys Môn gan fod ganddi “statws gwarchodedig” am ei bod hi’n ynys, er bod hynny’n golygu bod poblogaeth yr etholaeth yn llai na phoblogaeth ardaloedd eraill Cymru.

Cyhoeddi’r cynigion cyntaf ar gyfer etholaethau newydd y Senedd

Mae’r newidiadau’n golygu bod rhaid paru’r 32 etholaeth sy’n cael eu defnyddio yn etholiadau San Steffan i greu 16 ar gyfer Senedd Cymru

Dyma air gan Barry Thomas, golygydd cylchgrawn Golwg, am y sefyllfa:

Lobsgows

Barry Thomas

Mae’r holl beth fel tasa fo wedi ei ddylunio i ddrysu’r Cymry ymhellach, a chreu mwy o niwl o amgylch ein Senedd, gan arwain at lai fyth yn fotio