Chefais i’r un cegiad o lobsgows ers dwn i ddim pa bryd.
Sy’n rhyfeddol, o gofio i ni gael ein magu ar y stwff.
Os fydda Mam wedi gwneud Sŵp Pys i de, fysa ni syth lawr i dŷ Nain yn crefu am foliad o lobsgows efo bara menyn. Nefoedd!
I’r rhai iau sy’ wedi eu magu ar McDonald’s, gair o esboniad.
Lobsgows = cawl efo darnau o datws a moron a rwdan ynddo, a thamaid o gîg rhad o’r bwtsiar i ychwanegu blas. Hyfryd a maethlon a doedd Nain byth heb lond sosban fawr ohono fo.
Ond mae lobsgows hefyd yn gallu golygu ryw sefyllfa sydd yn ddipyn o flerwch a llanast… yr hyn fyddai ein cyfeillion deheuol yn ei ddweud yw ‘cawdel’ neu ‘gawlio’.
A bois bach, mae yna gawlio ar sgêl wrth fynd ati i greu’r ffiniau yma ar gyfer etholaethau anferthol Senedd Cymru.
Ond cyn rhoi sgiwar yn yr etholaethau arfaethedig hyn, ambell bwynt am etholiadau Senedd Cymru.
Fel mae pethau, chwarter canrif ers datganoli peth grym gwleidyddol o Lundain i Gaerdydd, mae’r Senedd yn parhau yn ddirgelwch i dros hanner ein pobol.
Yn yr etholiadau diwethaf yn 2021, 46.6% wnaeth fwrw pleidlais i ethol y 60 o aelodau.
46.3% wnaeth fotio yn yr etholiad cyntaf i’r Cynulliad yn 1999, felly does dim cynnydd wedi bod o ran deffro hanner y genedl i’r realiti gwleidyddol newydd.
Mwy o wleidyddion, llai yn fotio?
Mae pleidiau Llafur a Phlaid Cymru wedi cydweithio er mwyn cynyddu nifer yr aelodau yn Senedd Cymru o 60 i 96.
Y ddadl yw bod yna ormod o waith i’w wneud yn y Senedd, a dim digon o wleidyddion i wneud y gwaith hwnnw.
Mi allech chi ofyn hyn: ‘Os oes yna gymaint o waith i’w wneud, pam bod Aelodau o’r Senedd yn cael wyth wythnos o wyliau tros yr Haf?’
Ar y llaw arall, teg nodi bod gan Senedd Holyrood yr Alban 129 o aelodau yn gwasanaethu poblogaeth sy’n 5 miliwn o bobol… wedyn mae’r 60 sy’n gwneud y gwaith o wasanaethu 3 miliwn o Gymry yn ymddangos yn annigonol.
Ta waeth, yr wythnos hon mae corff o’r enw Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru wedi cyhoeddi eu cynlluniau ar gyfer etholaethau newydd ar gyfer y Senedd.
Yn ôl yr argymhellion hyn mi fydd ganddo ni 16 o etholaethau gyda chwech o wleidyddion yn cynrychioli pob etholaeth.
Mae’r holl beth yn niwlog braidd, felly gadewch i ni gymryd un esiampl.
Anadlwch yn ddwfn cyn darllen y canlynol: mi fyddai etholaeth ‘Dwyfor Meirionnydd, Maldwyn a Glyndŵr’ yn ymestyn yr holl ffordd o Aberdaron ym Mhen Llŷn i’r Trallwng ym Mhowys sydd ar y ffin â Lloegr.
Adeg yr etholiad cyffredinol Prydeinig nôl ar gychwyn Gorffennaf, roedd perthnasau sy’n byw yn etholaeth newydd-ish Dwyfor Meirionnydd wedi drysu gyda’r enw hwnnw.
Maen nhw yn byw yng nghyffiniau Caernarfon, sydd ddim yn Nwyfor na Meirionnydd!
Y peryg amlwg gyda’r haen newydd yma o etholaethau anferthol ar gyfer Senedd Cymru, yw eu bod am ychwanegu at ddryswch sydd eisoes yn bodoli.
Dychmygwch fod ar stepen drws adeg lecsiwn yn ceisio egluro’r sgôr: ‘Ia, mae’r etholaeth yn wahanol i un Westminster tro yma, ac fe fyddwch chi’n ethol chwech MP…’
Mae’r holl beth fel tasa fo wedi ei ddylunio i ddrysu’r Cymry ymhellach, a chreu mwy o niwl o amgylch ein Senedd, gan arwain at lai fyth yn fotio.
Lobsgows go-iawn, a dim un blasus fel un nain chwaith!