Mae Cymru yn chwarae Türkiye yng Nghaerdydd nos fory, a Montenegro nos Lun. Gwilym Dwyfor sy’n cynnig rhagflas…

Mae’r siarad bron iawn drosodd, ac i fod yn deg mae Craig Bellamy wedi siarad yn reit dda. Ond mae cyfnod rheolwr newydd Cymru ar fin dechrau ar y cae gyda dwy gêm yng Nghynghrair y Cenhedloedd. Felly, pwy sydd yn ei garfan? Pwy fydd yn ei dîm? A phwy yw’r gwrthwynebwyr?

Carfan gyntaf Craig