Mae Sharbat wedi dechrau canu.

Nid y caneuon oedd ei mam yn canu iddi; nid yr un efo cysgu, cysgu, un dau tri na’r un am dderyn bach yn sefyll ar y to. Roedd Sharbat yn adnabod y caneuon yna’n iawn. Ymunai â’i mam yn y canu, lleisiau meddal y ddwy yn clymu, ei mam yn gwenu a chlapio am fod y fechan yn dysgu ac yn dynwared.