Mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru wedi cyhoeddi’r awgrymiadau cyntaf ar gyfer yr etholaethau newydd.
Daw’r cynlluniau yn dilyn y penderfyniad i ehangu’r Senedd a newid y drefn etholaethol i system gyfrannol D’Hondt.
Bydd etholiadau Senedd yn symud o fod yn 40 etholaeth a phum rhanbarth o bedwar o aelodau, i 16 etholaeth gyda chyfanswm o 96 aelod yn etholiad 2026.
Bydd pob etholaeth efo chwech o aelodau.